大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Carden bost Golwg ar y ganrif gynt
Mai 2003
Wnaeth prynu hen gerdyn post helpu Martin Lewis ddysgu llawer am y dyddiau a fu, a chymeriadau lliwgar Sir Benfro, y ganrif ddiwetha.
"Shwt ddechreuodd y busnes te?"
"Pa fusnes ?"
"Y busnes casglu llun-gerdiau post na."

Fe ymwelais 芒 chyfarfod blynyddol y Gymdeithas Ffilatelig Gymraeg tua mis Mai 1986, ac ar 么l blino ar chwilota am stampiau gyda nifer o fasnachwyr, dechreuais chwilio yn y bocsus llun-gerdiau post. Ar 么l byr amser cefais hyd i'r garden a ddangosir uchod storws wrth ochr yr afon, erbyn hyn wedi ei throi i fod yn Glwb Cychod Trefdraeth.

Penderfynais fuddsoddi pris y garden, 50c, a hon felly oedd y garden gyntaf yn fy nghasgliad. Gyda rhagor o chwilota cefais hyd i rhyw ddwy neu dair arall, ac yr oeddwn yn hapus iawn gyda'r hyn yr oeddwn wedi cael.

'Roedd Mam yn hapusach fyth i weld beth oeddwn wedi prynu, lluniau yn dwyn pob math o atgofion yn 么l iddi.
"Wyddost ti' meddai mai dy Dadcu oedd bia'r storws honno ar un adeg ac hefyd un arall tu 么l iddi, sydd wedi ei chwalu erbyn hyn."
Ni wyddwn i ddim byd o'r fath.
"Ac wyt ti'n gwybod pwy yw y dynion yn y cychod yma ?" Ac fe aeth ymlaen i enwi rheini oedd yn rhedeg y fferi yn groes yr afon. Fe siaradodd am amser am y llun yma a'r cardiau eraill, pethau bach diddorol a gwerthfawr, ac ar 么l rhyw awr o drafodaeth, es i n么l i'r ty, ac ysgrifennu lawr pob peth yr oeddwn yn galled cofio am yr hyn yr oedd Mam wedi s么n amdano, ac os oeddwn wedi anghofio rhywbeth, mater hawdd oedd mynd yn 么l ac ail ofyn.

Wrth ail ddarllen rhyw ddeg mlynedd yn ddiweddarach, yr oeddwn wedi anghofio tipyn o'r hyn oeddwn wedi dysgu, ond nid oedd un gwahaniaeth oherwydd fy mod i wedi ei ysgrifennu i lawr, ac y byddwn yn erfyn ar pob un ohonoch i ysgrifennu rhywbeth tu 么l i bob llun sydd gennych enwau'r bobl neu'r achlysur aa.

Fe gawsom rhyw fis o dywydd bendigedig cyn y Pasg eleni, a pan fydd hyn yn digwydd, bydd fy meddwl am gweithgareddau, yn troi at y traeth. Cofiaf fel crwt bach, amser byddai mam yn mynd 芒 ni fel plant draw i Traeth Mawr ar ddydd o haf. Roedd rhaid tynnu'n esgidiau i ffwrdd ar 么l cyrraedd y traeth, a cherdded ar y cerrig caled, ac yna i fyny'r planc er mwyn mynd i mewn i'r cwch heb wlychu'n traed. Yna byddai'r perchennog yn tynnu'r planc er mwyn mynd i fewn i'r cwch cyn ein rhwyfo ni ar draws yr afon. Sylwais fod mam yn talu rhywfaint am y gymwynas, ond dim ond yn gymharol ddiweddar cefais wybod y pris, - sef ceiniog os oedd y llanw allan, a dwy geiniog os oedd y llanw'n llawn.

Bu Hubert Mendws a Vince Morris yn siario'r cwch am flynyddoedd - Vince oedd biai'r cwch, ond Hubert oedd yn ei rhwyfo- ac felly, 'roedd y ddau yn siario'r elw. 'Roedd Harry Wylde a Thomas John Selby Davies hefyd yn cario pobl yn groes yr afon, o waelod y Stryd Hir draw i Riverslea. Y bobl oedd yn defnyddio'r wasanaeth hon oedd rheini a oedd am chwarae golff. Byddai Davies yn gwneud hyn ar 么l gorffen y rownd laeth yn y bore.

Nid dim ond y dynion oedd yn rhedeg y fferis yma chwaith. Bu Miss Daisy Wylde (merch Harry) wrthi am flynyddoedd ac ym mhob tywydd. Cyn codi'r bont tua 1892, Mali'r cwch fu'n rhwyfo trigolion y Morfa ar draws yr afon. 'Roedd y fferi hon rhyw ganllanth nes lawr na'r bont bresennol. Ar 么l i Mari ymddeol, fe ddaeth Elizabeth a Hannah Davies (Mam a'i merch) i weithio'r fferi nes i'r bont newydd cael ei chodi a'i hagor.

Gyda llwythi trymion, wrth gwrs byddai rhaid cario rhain gyda cheffylau a ceirt. Mae mapiau yr Ordnance Survey 1888, yn dangos fod rhyd wedi cael ei ffurfio yn agos i lleoliad y bont bresennol ond ni fyddai'n bosib defnyddio hyn oni bai fod y llanw allan.


Jack Price
Jack Price
Un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar fodd bynnag a fu'n rhedeg cwch fferi ar draws yr afon oedd Jack Price (i'r chwith). Roedd yn byw yn Seagull Cottage,- ty bach bron a bod ar y traeth. Ei wraig oedd y fydwraig Nyrs Price a hi oedd fod i gynorthwyo gyda fy ngenedigaeth personol i, ond cyrhaeddod Dr.Havard oi blaen. Yn ystod ei waith, mae'n debyg fod Jack yn gwisgo rhyw bedair gwasgod, haf neu gaeaf, gyda phedwar poced ym mhob un.

Wrth i Jack dderbyn pishin tair neu chwe cheiniog fel fare, byddai yn swmpo ym mhob poced am newid, ond wrth gwrs nid oedd yr arian yn gwneud unrhyw swn yn ei bocedi, a byddai yn gwrio nad oedd ganddo unrhyw newid i roi, a dyma sut y cafodd yr enw Jack No Change. Mae'n debyg fod Nyrs Price wedi ei orchymyn i beidio 芒 thalu arian i fewn i'r banc mwy nag unwaith y flwyddyn, ond i gadw ei arian adre o dan y gwely. Erbyn i'r flwyddyn fynd heibio, roedd Jack yn cysgu'r nos dros tomen o arian bath (coin), ac amser oedd yn barod i dalu'r arian i mewn i'r banc, bu rhaid iddo gludo'r ddomen' i'r dref mewn whilber. 'Sgwn i sut groeso y cyfodd am 3 ar brynhawn Ddydd Gwener ?

Martin Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy