大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Parchg Alwyn Daniels Cerdded arfodir er mwyn eraill
Ebrill 2008
Dyma rai manylion yngl欧n 芒 thaith gerdded noddedig a her i unrhyw un i gynorthwyo.

Bydd y Parchg Alwyn Daniels, gweinidog Cylch Carn Ingli a Llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru ac Irfon James, un o ddiaconiaid Tabor, Dinas yn gwneud taith gerdded noddedig yn y dyfodol agos.

Y Daith? - Llwybr arfordir sir Benfro. 186 o filltiroedd o Lanrhath (Amroth) i Landudoch.

Pryd? - Rhwng Ebrill 5ed a Mai 17eg. Byddant yn cerdded ar 23 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn.

Pam? - Er mwyn codi arian at wahanol achosion ac elusennau.

Yr elusennau? - Bwriedir rhannu'r arian a godir rhwng elusen leol, genedlaethol a thramor.

Bydd swm penodol yn cael ei chlustnodi at waith Clwb y Gateway yn Abergwaun. Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng Yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru a phrosiect Cymorth Cristnogol yn Ethiopia. Mae'r prosiect hwn sy'n cymryd lle trwy gymorth partneriaid Cymorth Cristnogol - "Water Action" yn bwriadu dod 芒 d诺r gl芒n i 55,000 o bobl. Byddai codi 拢5,000 yn galluogi poblogaeth o 750 i gael d诺r gl芒n. Ond yr hyn sy'n cynyddu gwerth yr arian yw bod y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi 拢3 am bob 拢1 a gyfrannwn ni. Felly gallai cyfraniad o 拢5,000 fod yn werth 拢20,000.

Yr her? - Helpwch Alwyn ac Irfon i godi'r arian. Beth am i'ch eglwys /cymdeithas / clwb dderbyn ffurflen noddi er mwyn codi arian at yr achosion da hyn? Os byddech yn barod i wneud, cysylltwch 芒 Tabor Villa, Dinas, Trefdraeth, Sir Benfro. SA42 OXQ neu ffoniwch 01348 811430. Beth am gerdded? Os hoffech uno gyda nhw ar y daith am ddiwrnod bydd croeso i chi wneud hynny. Cysylltwch ynglyn 芒'r trefniadau. Byddant yn croesawu cwmni bach ar nifer o'r diwrnodau, ond bydd tri dydd Sadwrn pan fydd croeso i grwpiau mwy o faint i uno ar y daith.

Y Llwybr - Mae'r Llwybr yn cynnwys golygfeydd godidog bob cam o'r daith. Does ryfedd bod un person lleol yn dweud wrth groesawu pobl i'r fro, - Croeso i Baradwys. Ond cofiwch bod y Llwybr yn anodd hefyd. Nid cerdded tir gwastad yw. Mae llawer o waith esgyn a disgyn ar y rhan fwyaf ohono, felly ystyriwch o ddifrif cyn mentro i gerdded.

Y Nod - Dangos ein bod fel Cristnogion yn barod i wrando ar orchymyn y Meistr i gynorthwyo unrhyw un sydd mewn angen. Codi gymaint o arian ag sy'n bosib i helpu'r elusennau o nodwyd. Dangos cariad Duw at waith yn y byd trwy ein gweithredoedd.

'A boed i eraill trwof fi
adnabod cariad Duw.'

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy