大象传媒

Defnyddio egniPelydriad

Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Pelydriad

Trosglwyddo gwres drwy belydriad

Mae鈥檔 bosibl trosglwyddo gwres drwy belydriad . Yn wahanol i a 鈥 sydd angen gronynnau 鈥 math o belydriad electromagnetig sy鈥檔 ymwneud 芒 thonnau yw pelydriad isgoch.

The sun peeking over the horizon of Earth from space
Image caption,
Golau o鈥檙 haul yn cyrraedd y ddaear

Yn wahanol i鈥檙 prosesau dargludiad a darfudiad, dydy gronynnau ddim yn chwarae unrhyw ran mewn pelydriad, felly gall pelydriad ddigwydd trwy y gofod hyd yn oed. Dyma pam y gallwn deimlo gwres yr Haul er ei fod 150 miliwn o gilometrau o鈥檙 Ddaear.

Arwynebau gwahanol

Mae rhai arwynebau yn well nag eraill am adlewyrchu ac amsugno pelydriad isgoch. Mae鈥檙 tabl hwn yn crynhoi rhai gwahaniaethau.

ArwynebAmsugnoAllyrru
P诺l, mat neu arw, lliw tywyllDaDa
Sgleiniog, lliw golauGwaelGwael
ArwynebP诺l, mat neu arw, lliw tywyll
AmsugnoDa
AllyrruDa
ArwynebSgleiniog, lliw golau
AmsugnoGwael
AllyrruGwael