Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.
Mae adeiladau yn colli egni gwres drwy’r to, ffenestri, waliau, lloriau a thrwy fylchau o gwmpas y ffenestri a’r drysau. Fodd bynnag, mae sawl ffordd o leihau’r colledion hyn.
Llwybrau dianc ar gyfer gwres
Edrych ar y thermogramDelwedd sy’n cael ei chreu trwy ganfod pelydriad isgoch yn hytrach na golau gweladwy. Mae lliwiau gwahanol yn cael eu defnyddio i gynrychioli tymheredd gwahanol y gwrthrychau yn y ddelwedd. hwn o dŷ. Mae'n dangos bod y to yn oer sy’n awgrymu ei fod wedi’i ynysu’n dda. Mae'r ffenestri'n goch ac oren, sef poeth, sy'n golygu bod mwy o egni'n cael ei golli drwyddynt.
Mae egni gwres yn cael ei drosglwyddo o gartrefi drwy dargludiadEgni yn cael ei drosglwyddo drwy ddeunydd – heb i’r deunydd ei hun symud. drwy’r waliau, llawr, to a ffenestri. Mae hefyd yn cael ei drosglwyddo o gartrefi drwy darfudiadTrosglwyddo egni gwres drwy hylif neu nwy sy’n symud.. Er enghraifft, gall aer oer ddod i mewn i’r tŷ drwy fylchau mewn drysau a ffenestri, a gall ceryntau darfudiad drosglwyddo egni gwres yn yr atig i deils y to. Hefyd mae egni gwres yn gadael y tŷ drwy ymbelydreddEgni sy’n cael ei gario gan ronynnau o sylwedd ymbelydrol, neu sy’n ymledu o ffynhonnell. drwy’r waliau, to a ffenestri.