Graffiau mudiant pellter-amser
Graffiau pellter-amser
Mae graffiau pellter-amser yn dangos sut mae pellter teithio gwrthrych sy'n symud yn newid gydag amser.
Mae'r graffiau hyn hefyd yn dangos a yw'r gwrthrych yn symud ar fuanedd cyson neu'n cyflymu, yn mynd yn 么l i'r man cychwyn, neu'n llonydd.
Rydyn ni'n dangos buanedd cyson 芒 llinell syth yn codi. Gallwn ni ddefnyddio graddiant y graff, sef pa mor serth ydyw, i gyfrifo'r buanedd. Mae llinell serth yn golygu bod y cerbyd yn symud yn gyflym.
Mae llinell sy'n crymu tuag i fyny yn golygu bod y cerbyd yn cyflymu. Mae'r cerbyd yn cyflymu oherwydd mae'r llinell yn mynd yn fwy serth.
Mae llinell lorweddol fflat yn golygu bod y cerbyd yn llonydd, oherwydd dydy'r pellter ddim yn newid.
Buanedd y cerbyd sy'n dilyn y llinell werdd am y tair eiliad cyntaf yw 6 m 梅 3 s = 2 m/s.
Cyfanswm y pellter mae'r cerbyd yn ei deithio ar y llinell werdd yw 7 m.
buanedd cymedrig Cyfanswm y pellter a deithiwyd wedi'i rannu 芒 chyfanswm yr amser a aeth heibio. y cerbyd ar y llinell werdd yw 7 m 梅 10 s = 0.7 m/s.
Buanedd y cerbyd sy'n dilyn y llinell borffor am y ddwy eiliad cyntaf yw 10 m 梅 2 s = 5 m/s.
Edrych ar y graff pellter-amser hwn, ac ateb y cwestiynau a ganlyn.
Question
Pa mor bell deithiodd y cerbyd yn y pedair eiliad cyntaf?
30 m
Question
Beth oedd buanedd y cerbyd dros y pedair eiliad cyntaf?
Buanedd = pellter 梅 amser
= 30 m 梅 4 s = 7.5 m/s
Question
Am ba mor hir oedd y cerbyd yn llonydd?
Rhwng pedair ac wyth eiliad i mewn i'r daith. Cyfanswm o bedair eiliad.
Question
Beth oedd buanedd cymedrig y cerbyd dros y daith?
Buanedd cymedrig = cyfanswm pellter 梅 cyfanswm amser
= 40 m 梅 10 s = 4 m/s