大象传媒

Gweithio gyda sgriptCefndir y ddrama

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part of DramaSgiliau perfformio

Cefndir y ddrama

Mae angen i ti fod yn ymwybodol o gefndir y ddrama, ei lleoliad ac unrhyw wybodaeth allweddol sy鈥檔 effeithio ar y stori. Er enghraifft mae Y Crochan, cyfieithiad o The Crucible gan Arthur Miller, yn ei hanfod yn ddrama sy鈥檔 seiliedig ar erlid 鈥榞wrachod鈥 yn Salem yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 17eg ganrif. Ond pan edrychwn ni ar y cefndir a gweld pam y cafodd ei hysgrifennu, rydyn ni鈥檔 deall bod Miller yn gwneud sylwadau cymdeithasol deifiol ar gyfnod y Seneddwr McCarthy yn America鈥檙 1950au. Roedd hwn yn gyfnod cythryblus pan ddinistriwyd bywydau ac enw da pobl yr amheuwyd eu bod yn 鈥榞omiwnyddion鈥. Mae hyn yn rhoi ystyr newydd i鈥檙 ddrama a rhaid i鈥檙 actorion a鈥檙 cyfarwyddwr ddeall hyn er mwyn gwneud cyfiawnder 芒鈥檙 gwaith.

Ymarfer drama newydd

Os ydy dramodydd yn gwylio drama newydd yn cael ei hymarfer, does dim amheuaeth y bydd dymuniadau鈥檙 dramodydd i鈥檞 gweld yn y cynhyrchiad. Mae cynhyrchiad da yn dadansoddi gwerth a bwriad y ddrama ac yn eu cefnogi. Gall cyfarwyddwr wneud newidiadau ond rhaid i鈥檙 rhain fod yn ddewisiadau gwybodus; rhaid deall them芒u鈥檙 ddrama a鈥檜 dehongli yn y ffordd orau ar gyfer cynulleidfa gyfoes.

Drama dan hawlfraint

Os ydy drama鈥檔 dal i fod dan hawlfraint disgwylir i鈥檙 cyfarwyddwr gyflwyno鈥檙 testun llawn ac yn unol 芒 bwriadau鈥檙 awdur, cyn belled ag y bo modd eu deall. Yn achos testunau h欧n sydd heb , megis dram芒u Shakespeare, mae gan gwmn茂au theatr yr hawl i berfformio addasiadau ohonyn nhw. Golyga hyn eu bod nhw'n gallu defnyddio'r straeon i ddweud rhywbeth modern neu rywbeth gwahanol.

Dau actor yn sefyll mewn cae yn ystod perfformiad awyr agored Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd
Image caption,
Perfformiad awyr agored o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru

Moderneiddio hen ddram芒u

Addasiad o ddrama Shakespeare, The Tempest ydy Return to the Forbidden Planet gan Bob Carlton, sy'n symud lleoliad y ddrama i'r gofod. Yn llai radical o bosib, fe weli di straeon o鈥檙 Mabinogion megis Branwen neu Blodeuwedd yn cael eu perfformio mewn gwisgoedd modern, gan wneud i鈥檙 gynulleidfa weld perthnasedd neges y ddrama鈥檔 fwy clir na thrwy lens gwisgoedd 鈥榗lasurol鈥.

Related links