Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.
Bydd angen i ti sicrhau bod pob math o fanylion bach yn gywir os wyt ti am i berfformiad hanesyddol argyhoeddi. Mewn dram芒u megis The Way of the World, gan William Congreve a berfformiwyd am y tro cyntaf ym 1700, mae'r dynion yn defnyddio eu ffyn cerdded i sefyll mewn ffordd osgeiddig. Pan fyddi di鈥檔 actio rhan debyg bydd yn rhaid i ti ymarfer er mwyn gallu defnyddio dy ffon yn gywir.