大象传媒

Gweithio gyda sgriptLleoliad a nodiadau ar y sgript

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part of DramaSgiliau perfformio

Lleoliad a nodiadau ar y sgript

Bydd y sgript hefyd yn rhoi manylion i ti am y lleoliad - neu leoliadau os bydd angen nifer o newidiadau golygfa. Gallai fod gwybodaeth am y cynllun, propiau a gwisgoedd hefyd. Dyma ddetholiad o gyfarwyddiadau lleoliad ar gyfer Mwnci ar D芒n.

Dylai鈥檙 gofod fod mor foel a gwag 芒 phosibl. Mae tri lleoliad: blaen dau d欧, sef rhif 13 a 15 Park View (wedi eu gorchuddio 芒 graffiti); ystafell wely Shell; y parc.
Sera Moore Williams

Mae鈥檙 disgrifiad hwn yn dweud wrthon ni bod y set yn finimalaidd a bod y ddrama wedi ei gosod mewn ardal drefol ddifreintiedig (fel y mae鈥檙 waliau 芒 graffiti鈥檔 ei awgrymu). Os oes disgrifiad manwl o鈥檙 set, mae gan y dramodydd farn glir o鈥檙 hyn sy鈥檔 hanfodol wrth gyflwyno鈥檙 set.

Ambell waith, yn enwedig mewn drama fer, mae鈥檙 ddrama鈥檔 barhaus, ond os ceir newidiadau hanfodol yn y ffr芒m amser, caiff y rhain eu hesbonio. Mae newidiadau golygfa a newidiadau amser fel arfer yn cael eu marcio fel toriadau yn y ddrama - gan ei rhannu鈥檔 actau ac ambell waith golygfeydd o fewn yr actau hynny. Er enghraifft ar ddiwedd golygfa 8 mae Sera Moore Williams yn nodi:

Mae Hen yn troi i syllu ar Mwnci. Mae鈥檙 olygfa鈥檔 rhewi.
Mwnci ar D芒n gan Sera Moore Williams
Dau actor ar lwyfan gyda chefndir graffiti. Un yn gwisgo dillad milwr a鈥檙 llall mewn crys gyda鈥檙 slogan 鈥榃ho鈥檚 the Daddy?鈥 ar y blaen.
Image caption,
Actorion yn perfformio yng nghynhyrchiad Arad Goch o Mwnci ar D芒n, 2008 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch

Related links