大象传媒

Gweithio gyda sgriptHerio confensiwn

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part of DramaSgiliau perfformio

Herio confensiwn

Mae rhai cyfarwyddwyr yn gallu parchu amcanion yr awdur a herio confensiwn ar yr un pryd. Peter Brook ydy un o'r enwocaf am herio cynhyrchu confensiynol. Roedd ei arbrawf gyda drama Shakespeare, A Midsummer Night鈥檚 Dream ar gyfer National Theatre ym 1970 yn rhyfeddol. Roedd y cynhyrchiad arloesol hwn, sy鈥檔 dal i gael ei barchu hyd heddiw, yn cynnwys trapisiau, stiltiau a phlatiau鈥檔 troi. I Brook mae鈥檙 ddrama yno i鈥檞 pherfformio ond yr actorion sy鈥檔 dod 芒 hi鈥檔 fyw ac mae hynny鈥檔 rhywbeth sy鈥檔 galw am newid, syniadau dynamig ac egni enfawr.

Llun du a gwyn o dri cymeriad A Midsummer Night鈥檚 Dream ar blatfform o blu
Image caption,
Actorion yng nghynhyrchiad Peter Brook o A Midsummer Night鈥檚 Dream, RSC, 1970 LLUN: Morris Newcombe/Arena PAL
Mae bywyd y ddrama鈥檔 dechrau ac yn diweddu yn y perfformiad. Dyma lle mae awdur, actorion a chyfarwyddwyr yn mynegi鈥檙 cyfan sydd ganddyn nhw i鈥檞 ddweud. Os oes dyfodol i鈥檙 digwyddiad, dim ond yn atgofion y rhai oedd yn bresennol, ac a gadwodd ran ohono yn eu calonnau, y gall hyn fod. Dyma鈥檙 unig le ar gyfer ein Breuddwyd. Does dim ffurf na dehongliad yn parhau am byth. Rhaid i ffurf ddod yn sefydlog am gyfnod byr, yna rhaid iddi fynd. Wrth i鈥檙 byd newid, bydd, a bydd rhaid cael Breuddwydion newydd cwbl anrhagweladwy.
Peter Brook, The Guardian, 15 Ebrill 2013

Related links