大象传媒

Gweithio gyda sgriptYmchwilio i ran

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part of DramaSgiliau perfformio

Ymchwilio i ran

Ar 么l darllen y ddrama ei hun, dylet ti ymchwilio i鈥檙 rhan rwyt ti鈥檔 ei chwarae. Ond cofia y dylet ti ddechrau dy ymchwil drwy ddarllen y ddrama鈥檔 fanwl.

Ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

  • ym mha gyfnod mae鈥檙 ddrama wedi ei gosod?
  • ym mha wlad mae wedi ei gosod?
  • pwy oedd y Prif Weinidog ar y pryd?
  • beth oedd y digwyddiadau pwysig bryd hynny?
  • sut roedd pobl yn gwisgo?

Bydd hyn o gymorth i ti ddeall cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol y ddrama. Darllena Byd y ddrama i ddysgu mwy.

Os wyt ti鈥檔 ymchwilio i ran hanesyddol bydd angen i ti wybod beth oedd yn digwydd o dy gwmpas adeg y ddrama. Wedi鈥檙 cyfan, os wyt ti鈥檔 actio drama ramantus mewn gwlad sydd wedi ei rhannu oherwydd rhyfel, mae鈥檔 rhesymol disgwyl y byddai lefel ychwanegol o densiwn yn rhedeg drwy鈥檙 ddrama. Neu os ydy鈥檙 ddrama wedi ei gosod yn ystod digwyddiad penodol megis trychineb Aberfan ym 1966, byddai angen i ti astudio adroddiadau o鈥檙 cyfnod i ddeall beth ddigwyddodd ac effaith hynny ar y gymuned ac ar dy gymeriad.

Byddai hefyd angen i ti ymchwilio i dy wisg os wyt ti鈥檔 chwarae rhan hanesyddol. Er enghraifft, sut fyddai gwisg addurnedig o , fel yr un hon yn y ffilm Elizabeth, yn effeithio ar y ffordd rwyt ti鈥檔 symud? Darllena Defnyddio dy gorff i ddysgu mwy.

Elisabeth y Cyntaf, wedi'i phortreadu gan Cate Blanchett yn y ffilm Elizabeth, yn eistedd ar orsedd
Image caption,
Cate Blanchett yn chwarae rhan Elisabeth y Cyntaf yn Elizabeth, 1998 LLUN: Polygram Filmed Entertainment/Working Title/Channel Four/Ronald Grant Archive

Related links