Ymchwilio i ran gyfoes
Mae ymchwil i鈥檞 wneud hyd yn oed os ydy鈥檙 rhan yn un fodern neu gyfoes.
Efallai y byddi di am weithio ar dy berfformiad yn null Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig 芒 phosib. , gan dy roi dy hun yn sefyllfa鈥檙 cymeriad ac ateb y cwestiwn Beth fyddwn i鈥檔 ei wneud os mai fi fyddai鈥檙 cymeriad hwn?
Ond rhaid i ti ddeall y sefyllfa鈥檔 ddeallusol hefyd wrth weithio ar y rhan, beth bynnag ydy鈥檙 dull actio rwyt ti鈥檔 ei ddewis.
Er enghraifft, os ydy'r cymeriad yn ddigartref, beth mae hynny鈥檔 ei olygu i'r cymeriad? Pa mor debygol ydy hi ei bod nhw'n mynd i allu mynd yn 么l i fyw bywyd normal? Sut fyddet ti鈥檔 symud os wyt ti鈥檔 oer ac yn llwglyd drwy鈥檙 amser? Beth ydy realiti corfforol cysgu allan?
Os mai ti ydy鈥檙 cyfarwyddwr, dylet ti ymchwilio i bopeth. Dy gyfrifoldeb di ydy鈥檙 datganiad cyffredinol mae鈥檙 ddrama鈥檔 ei wneud. Er mwyn creu鈥檙 datganiad hwnnw鈥檔 effeithiol, rhaid i ti ddeall:
- cyd-destun y ddrama
- y cefndir cymdeithasol a hanesyddol
- cymhelliad pob cymeriad
- yr arddull rwyt ti wedi鈥檌 ddewis i lwyfannu鈥檙 ddrama, ee naturiolaidd
Rhaid i ti wybod a deall sut a pham y bydd y penderfyniadau hyn yn cyfoethogi dy ddehongliad o eiriau鈥檙 dramodydd.
Wrth gwrs byddai鈥檔 bosib i ti ddefnyddio arbenigwyr i dy helpu. Gallet ti ofyn am gyngor pobl sydd 芒 gwybodaeth arbenigol am y cyfnod rwyt ti鈥檔 gweithio arno, y them芒u sydd yn y ddrama neu鈥檙 gwisgoedd y dylet ti fod yn eu defnyddio. Mewn cyd-destun amatur, mae llawer o bobl yn mwynhau cymryd rhan neu gyfrannu at y cynhyrchiad, er nad ydyn nhw am fod ar y llwyfan. Yn y theatr broffesiynol, wrth gwrs, mae meysydd arbenigol fel hyn wedi eu datblygu i safon uchel. Bydd gan gwmni megis Theatr Genedlaethol Cymru ddylunwyr a hyfforddwyr llais a symud er enghraifft, i gefnogi eu gwaith.