Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu鈥檔 baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.
Mae angen i ti wybod sut i fesur y cerrynt sy'n llifo drwy gydran mewn cylched a'r foltedd ar ei thraws.
Mesur cerrynt
Mae cerrynt yn cael ei fesur mewn amperau. Mae amper yn aml yn cael ei dalfyrru i amp neu A. Amedr sy鈥檔 cael ei ddefnyddio i fesur y cerrynt sy鈥檔 llifo drwy gydran mewn cylched.
Cofia, mae'r cerrynt yr un fath ym mhob rhan o gylched gyfres.
Foltedd
Mae angen gwahaniaeth potensialY foltedd rhwng dau bwynt sy鈥檔 gwneud i gerrynt trydan lifo rhyngddynt. ar draws cydran drydanol fel bod cerrynt trydan yn gallu llifo ynddi. Mae batr茂au neu gelloedd yn darparu鈥檙 gwahaniaeth potensial sydd ei angen yn aml.
Mesur foltedd
Mae gwahaniaeth potensial yn cael ei fesur mewn foltiau, (V).
Mae foltmedr yn cael ei ddefnyddio i fesur y gwahaniaeth potensial ar draws cydran mewn cylched.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 foltmedr gael ei gysylltu yn baralel 芒鈥檙 gydran.