大象传媒

Newid cerrynt mewn cydrannau

Lampau ffilament

Symbol safonol am lamp.

Math cyffredin o fwlb golau yw鈥檙 lamp ffilament. Mae鈥檔 cynnwys coil tenau o wifren - y ffilament. Mae hwn yn poethi wrth i gerrynt trydanol lifo drwyddo ac, o ganlyniad, mae鈥檔 cynhyrchu golau.

Graff yn plotio Cerrynt yn erbyn Foltedd. Nid ydyn nhw mewn cyfrannedd union.

Bydd cymryd parau cyfatebol o werthoedd V ac I o'r graff ar wahanol folteddau yn rhoi gwahanol werthoedd gwrthiant. Bydd y gwrthiant yn uwch os yw'r foltedd yn uwch.

Dydy'r lamp ffilament ddim yn ufuddhau i Ddeddf Ohm. Mae ei gwrthiant yn cynyddu wrth i dymheredd ei ffilament gynyddu. Felly, dydy鈥檙 cerrynt sy'n llifo drwy lamp ffilament ddim mewn cyfrannedd union 芒鈥檙 foltedd ar ei thraws.

Deuodau

Cydrannau electronig yw deuodau. Maen nhw鈥檔 cael eu defnyddio i reoli鈥檙 gwahaniaeth potensial mewn cylchedau ac i wneud adwyon rhesymeg. Mae deuodau allyrru golau (LED) yn goleuo ac rydyn ni'n aml yn eu defnyddio nhw ar gyfer goleuadau mewn cyfarpar trydanol fel cyfrifiaduron a setiau teledu.

Symbol safonol am ddeuod.

Dylet ti allu adnabod graff cerrynt yn erbyn foltedd ar gyfer deuod.

Graff yn plotio Cerrynt yn erbyn Foltedd. Nid oes unrhyw gerrynt nes cyrraedd foltedd penodol.

Mae gan y deuod wrthiant uchel iawn mewn un cyfeiriad. Mae hyn yn golygu bod cerrynt ond yn gallu llifo i鈥檙 cyfeiriad arall. Dyma鈥檙 graff o gerrynt yn erbyn gwahaniaeth potensial ar gyfer deuod. Fel arfer, fydd deuod ddim yn dargludo o dan foltedd penodol.