大象传媒

Thermistorau ac LDRau

Dylet ti allu adnabod symbolau cylched thermistor ac LDR (gwrthydd dibynnol ar olau), a gwybod sut gallwn ni newid gwrthiant y cydrannau hyn.

Thermistorau

Mae thermistorau yn cael eu defnyddio fel synwyryddion tymheredd, er enghraifft, mewn larymau t芒n. Mewn thermistor, mae鈥檙 yn lleihau wrth i鈥檙 tymheredd gynyddu.

Symbol safonol am thermistor.

Ar dymheredd isel, mae gwrthiant thermistor yn uchel, ac ychydig iawn o gerrynt sy鈥檔 gallu llifo trwyddo.

Ar dymheredd uchel, mae gwrthiant thermistor yn isel ac mae mwy o gerrynt yn gallu pasio drwyddo.

LDRau

Mae LDRau yn cael eu defnyddio i nodi lefelau goleuni, er enghraifft, mewn goleuadau diogelwch awtomatig. Mae eu gwrthiant yn lleihau wrth i arddwysedd y golau gynyddu.

Symbol safonol am wrthydd dibynnol ar olau.

Yn y tywyllwch a phan fydd lefel y golau yn isel, mae gwrthiant LDR yn uchel, ac ychydig iawn o gerrynt sy鈥檔 gallu llifo trwyddo.

Mewn golau llachar, mae gwrthiant LDR yn isel ac mae mwy o gerrynt yn gallu llifo trwyddo.

Mae gwrthyddion LDR hefyd yn ddefnyddiol i reoli pa mor hir ddylai'r caead aros ar agor ar gamera digidol. Mae'r camera'n mesur newidiadau gwrthiant ac, os yw lefel y golau'n isel, mae'r caead yn aros ar agor am fwy o amser nag os yw lefel y golau'n uchel.