大象传媒

Graffiau cerrynt-foltedd

Mae angen i ti wybod sut i ymchwilio i'r ffordd mae cerrynt yn newid gyda foltedd ar gyfer cydran, ee ar gyfer gwrthydd (neu wifren) ar dymheredd cyson, lamp ffilament a deuod.

Dylet ti fod yn gyfarwydd 芒'r diagram cylched a'r canlyniadau ar gyfer y gwahanol gydrannau.

Gallwn ni ddefnyddio'r gylched hon i ganfod y berthynas rhwng y cerrynt a'r foltedd ar gyfer gwahanol gydrannau.

Diagram cylched gyda chyflenwad p诺er c.u. 12 folt, un gwrthydd newidiol, un amedr, un lamp ac un foltmedr sydd yn baralel 芒鈥檙 lamp.

Gallwn ni addasu'r gwrthydd newidiol er mwyn rhoi amrywiaeth o folteddau.

Gallwn ni gofnodi'r cerrynt ar bob foltedd a phlotio graff cerrynt yn erbyn foltedd.

Graffiau cerrynt-foltedd

Gwna graff lle mae llif cerrynt wedi'i ddangos ar yr echelin fertigol a'r foltedd wedi'i ddangos ar yr echelin lorweddol. Mae hwn yn dangos, wrth i'r cerrynt newid mewn cydran, bod y foltedd yn newid hefyd.

Dylet ti allu adnabod y graffiau hyn ar gyfer gwrthyddion ar dymheredd cyson, ar gyfer ac ar gyfer deuodau.

Gwrthydd ar dymheredd cyson

Graff yn plotio Cerrynt yn erbyn Foltedd. Maen nhw mewn cyfrannedd union.

Mae鈥檙 cerrynt sy'n llifo drwy wrthydd ar dymheredd cyson mewn cyfrannedd union 芒鈥檙 foltedd ar ei draws. Os yw cydran yn rhoi graff fel hwn, rydyn ni'n dweud ei fod yn ufuddhau i .

Gallwn ni ddefnyddio'r hafaliad hwn i gyfrifo'r gwrthiant.

\(\text{gwrthiant =}~\frac{\text{foltedd (V)}}{\text{cerrynt (I)}}\)

Os yw'r gwrthiant yn gyson, bydd dyblu'r foltedd yn dyblu'r cerrynt. Gallwn ni ddweud bod y cerrynt mewn cyfrannedd 芒'r foltedd (gallwn ni ysgrifennu hyn fel I \(\propto\) V).