大象传媒

Gwrthyddion mewn cyfres ac yn baralel

Gwrthyddion mewn cyfres

Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu mewn cyfres, bydd y cerrynt drwy bob gwrthydd yr un fath. Mewn geiriau eraill, mae鈥檙 cerrynt yr un fath ym mhob man mewn cylched gyfres.

Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu mewn cyfres, mae cyfanswm y foltedd (neu'r gwahaniaeth potensial) ar draws pob gwrthydd yn hafal i gyfanswm y folteddau ar draws pob gwrthydd.

Mewn geiriau eraill, mae鈥檙 folteddau o gwmpas y gylched yn adio i roi foltedd y cyflenwad.

Mae cyfanswm gwrthiant nifer o wrthyddion mewn cyfres yn hafal i gyfanswm pob gwrthiant unigol.

Diagram cylched gydag un batri a thri gwrthydd mewn cyfres. Mae鈥檙 gwrthiant wedi鈥檌 labelu ag R1, R2 ac R3. Mae鈥檙 foltedd wedi鈥檌 labelu 芒 V1, V2 a V3 ac mae鈥檙 cerrynt wedi鈥檜 labelu ag I1, I2 ac I3.

Yn y gylched hon, mae'r canlynol yn berthnasol.

I1 = I2 = I3

VT = V1 + V2 + V3

a, RT = R1 + R2 + R3

Gwrthyddion yn baralel

Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu'n baralel, mae cerrynt y cyflenwad yn hafal i gyfanswm y ceryntau drwy bob gwrthydd. Mae'r ceryntau yng nghanghennau cylched baralel yn adio i roi cerrynt y cyflenwad.

Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu'n baralel, bydd y gwahaniaeth potensial ar draws pob un yr un fath. Mae'r gwahaniaeth potensial ar draws unrhyw gydrannau paralel yr un fath.

Er mwyn cyfrifo cyfanswm gwrthiant dau wrthydd sydd wedi'u cysylltu'n baralel, rydyn ni'n defnyddio'r hafaliad hwn.

\(\frac{1}{\text{R}}=\frac{1}{\text{R}}_{1}+\frac{1}{\text{R}}_{2}\)

I gyfrifo cyfanswm gwrthiant tri gwrthydd sydd wedi'u cysylltu'n baralel, rydyn ni'n ychwanegu trydydd gwrthydd at yr hafaliad (ac yn y blaen).

\(\frac{1}{\text{R}}=\frac{1}{\text{R}}_{1}+\frac{1}{\text{R}}_{2}+\frac{1}{\text{R}}_{3}\)

Question

Cyfrifa wrthiant y cyfuniad paralel hwn.

Diagram cylched gyda thri gwrthydd wedi鈥檜 cysylltu鈥檔 baralel. Mae鈥檙 gwrthyddion wedi鈥檜 labelu 芒 3 Ohm, 6 Ohm a 9 Ohm.