Damcaniaeth ginetigNwy dan wasgedd, cyfaint a thymheredd
Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.
Mae'r cam hwn yn edrych ar ymddygiad swm penodol o nwy dan wahanol wasgedd, cyfaint a thymheredd.
Gallwn ni ddefnyddio model y ddamcaniaeth ginetig i egluro priodweddau solidau, hylifau a nwyon drwy ystyried y moleciwlau sydd ynddynt a'u mudiant.
Ar gyfer nwyon, mae model y ddamcaniaeth ginetig yn egluro bod gwasgedd nwy yn cael ei achosi gan y gwrthdrawiadau rhwng y gronynnau a'u cynhwysydd. Hwn yw'r gwasgedd tuag allan ac mae fel arfer yn fwy na gwasgedd normal yr atmosffer y tu allan i'r cynhwysydd.