大象传媒

Cynhyrchu trydanEgni solar

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Egni solar

Figure caption,
Peiriant tocynnau sy鈥檔 defnyddio p诺er solar

Mae egni solar yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan a d诺r poeth. Mae egni solar yn egni sy鈥檔 cael ei ryddhau gan yn yr Haul.

Celloedd solar (ffotofoltaidd)

Dyfeisiau sy鈥檔 trawsnewid egni golau yn uniongyrchol yn egni trydanol yw celloedd solar, a chelloedd ffotofoltaidd yw鈥檙 enw cyffredin amdanyn nhw. Efallai dy fod wedi gweld celloedd solar bach mewn cyfrifianellau. Caiff rhesi o gelloedd solar eu defnyddio i ddarparu p诺er ar gyfer arwyddion ffyrdd mewn ardaloedd anghysbell ac, ar raddfa fwy, ar gyfer lloerennau sy鈥檔 cylchdroi o gwmpas y Ddaear.

Paneli solar

Dydy paneli solar ddim yn cynhyrchu trydan 鈥 maen nhw鈥檔 gwresogi d诺r. Yn aml maen nhw鈥檔 cael eu gosod ar doeon adeiladau lle maen nhw鈥檔 gallu derbyn egni gwres gan yr Haul.

Diagram yn dangos sut mae panel solar yn cynhesu d诺r. Mae'r diagram yn dangos panel solar, pwmp d诺r, tanc storio d诺r poeth a boeler.

Mae d诺r oer yn cael ei bwmpio i fyny i鈥檙 panel solar, mae鈥檔 gwresogi ac yn cael ei drosglwyddo i danc storio. Mae pwmp yn gwthio d诺r oer o鈥檙 tanc storio drwy bibellau yn y panel solar. Mae鈥檙 d诺r yn cael ei wresogi gan egni gwres o鈥檙 Haul ac yn dychwelyd i鈥檙 tanc. Mae rhai systemau yn defnyddio boeler confensiynol i gynyddu tymheredd y d诺r.

Manteision egni solar

  • Adnodd egni adnewyddadwy heb unrhyw gostau tanwydd yw egni solar.
  • Does dim nwyon niweidiol sy鈥檔 llygru yn cael eu cynhyrchu.

Anfanteision egni solar

  • Dydy paneli solar ddim yn gweithio yn ystod y nos.
  • Mewn hinsawdd heulog iawn, efallai mai dim ond d诺r poeth iawn fydd paneli solar yn ei gynhyrchu, ac mewn mannau oerach, efallai y bydd angen defnyddio boeler confensiynol i鈥檞 hategu nhw.
  • Er eu bod nhw鈥檔 gallu cynhyrchu d诺r cynnes hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog, dydy paneli solar ddim yn gweithio yn ystod y nos.