´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Medi 2008

Ac awn yn ôl... at y dechreuad

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 30 Medi 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na duedd weithiau wrth sgwennu am wleidyddiaeth i ymddwyn fel pe bai datganoli wedi cychwyn yng nghanol yr ugeinfed ganrif...yn y pumdegau neu chwedegau efallai. Y gwir amdani yw bod y broses wedi cychwyn ymhell cyn hynny gyda sefydlu nifer o adrannau llywodraethol cenedlaethol Cymreig ar gychwyn y ganrif ddiwethaf.

Sefydlwyd Cyngor Addysg Cymru yn 1906 ac adran Gymreig y Weinyddiaeth Amaeth yn 1919. Sefydlwyd y pwysicaf o'r cyrff hyn o bell ffordd o'r cyrff hyn yn yr un flwyddyn sef Bwrdd Iechyd Cymru. Am dros ddeugain mlynedd y Bwrdd oedd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd Cymru gan oroesi chwyldro 1948 pan sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Cododd y Bwrdd adeilad ysblennydd ym Mharc Cathays fel pencadlys i'w hun. CP1 yw enw syddogol yr adeilad heddiw ond mae'r rhan fwyaf o bobol yn dal i ddefnyddio'r hen enw- "Y Swyddfa Gymreig".

Y prynhawn yma cyhoeddodd Edwina Hart ei chynlluniau ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. O'r flwyddyn nesaf ymlaen fe fydd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan... Fwrdd Cenedlaethol. Fe fydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog ac fe fydd y cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd.

Dw i wedi colli cownt o faint o weithiau mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cael ei ad-drefnu. Fel CP1 mae Ty Hywel yn ffrwyth un o'r adrefniadau hynny. Nawr ar ôl hanner canrif o newid diddiwedd rydym yn dychwelyd, mwy neu lai, at gyfundrefn wnaeth weithio'n ddigon effeithlon am ddegawdau lawer. Oedd angen arbrofi cymaint, dywedwch?

Ceiniogau Prin y Werin

Vaughan Roderick | 14:42, Dydd Mawrth, 30 Medi 2008

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn economegydd. A dweud y gwir dw i ddim hyd yn oed yn rhywun sy'n dda ac arian. Does gen i ddim siars ac mae'r hynny o gynilion sy gen i wedi claddu rhywle yng nghrombil Cymdeithas Adeiladu.

Trwy lwc, wrth edrych yn ôl (er bod hi'n ymddangos yn anlwc ar y pryd) roedd y gymdeithas honno yn un o'r rhai wnaeth benderfynu peidio ymuno â moch Gerasa'r sector gydweithredol trwy ruthro at y Farchnad Stoc.

Y "Nationwide" yw'r gymdeithas honno a'i haelodau hi, mae'n debyg, sy'n gyfrifol am y ffaith bod y sector ariannol gydweithredol yn dal i fodoli. O drwch blewyn pleidleisiodd yr aelodau yn erbyn newid statws y Gymdeithas gan wrthod y cannoedd o bunnau y byddai'r newid wedi rhoi yn eu pocedu. Pe bai'r bleidlais yn wahanol go brin y byddai na'r un gymdeithas adeiladu yn bodoli heddiw. Wedi'r cyfan mae'r Nationwide yn gyfrifol am fwy o asedau na'r holl gymdeithasau eraill gyda'i gilydd.

Fe fu'n rhai i fwrdd a rheolwyr y "Nationwide" weithio'n galed i ddarbwyllo'r aelodau i beidio derbyn yr abwyd ond roedd ganddynt un fantais sef traddodiadau'r Gymdeithas. Cyn iddi fabwysiadu'r enw presennol Cymdeithas Adeiladu'r Co-op oedd y "Nationwide" ac roedd cyfran sylweddol o'i haelodau yn dal i arddel egwyddorion y mudiad cydweithredol.

Canlyniad y bleidlais oedd bod yn rhaid i'r Gymdeithas barhau i weithredu o fewn y rheolau llym sy'n bodoli yn y sector gydweithredol. Yn y bôn roedd y Gymdeithas ond yn cael gwneud dau beth sef denu cynilion gan unigolion a defnyddio'r arian hwnnw i wneud benthyciadau morgais. Mae'n fusnes hen-ffasiwn ond yn gadarn yn ariannol.

Does dim rhyfedd felly bod rheolwyr ac aelodau'r Gymdeithas- a chymdeithasau adeiladu eraill yn poeri gwaed bod rheolau Cynllun Iawndal y Sector Ariannol yn golygu y bydd yn rhaid i'r cymdeithasau dalu rhan o'r gost o achub Banc Bradford a Bingley. Mae'n debyg y bydd hynny'n costi wythdeg miliwn o bunnau i'r cymdeithasau.

Mae 'na un cysur, wrth gwrs. Maen nhw yma o hyd. Mae pob un o'r cymdeithasau wnaeth ymuno a'r Farchnad Stoc wedi eu traflyncu neu wedi mynd yn fethdalwyr. Dyw mynd yn groes i'r ffasiwn ddim o reidrwydd yn beth gwael.

Arch Noa

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Mawrth, 30 Medi 2008

Sylwadau (0)

Fe fu'n rhaid gohirio cyfarfod o un o bwyllgorau'r cynulliad y bore 'ma oherwydd bod dŵr yn tywallt trwy do'r Senedd. Yn ôl un o'r cynrychiolwyr undeb oedd yn cyflwyno tystiolaeth roedd y sefyllfa yn "Shambles". Mae yn llygad ei le. Beth ar y ddaear sy'n bod ar benseiri a chontractwyr y Cynulliad?

Dyma flas o'r hyn ddigwyddodd;

Jeff Cuthbert ; I do appololgise we have a leak in the welsh assembly - of the wrong sort- this is very embarrassing. But we will continue.

Rhai munudau'n ddiweddarach a'r dŵr yn dal i bistyllu...

Kirsty Williams; Do we carry on Jeff?
Jeff Cuthbert; Yes - let's carry on.

A Noa bellach yn dechrau hebwrwng anifeiliaid i fewn i'r arch...

Jeff Cuthbert- Sorry it;s getting worse. We are getting to the point. It's quite frankly ridiculous. Shall we seek adjournment?
Phil Wootcombe (Llywydd yr ASCL- tyst)This is is potentially the most earth shattering thing that could hit the educational sector - and I would happy to give up a couple of mornings to continue with this discussion.

Dy'n ni ddim am fynd i Firmingham...

Vaughan Roderick | 18:54, Dydd Sul, 28 Medi 2008

Sylwadau (2)

Draw ar flog Betsan mae 'na newyddion ynghylch adroddiad hir-ddisgwyliedig Wyn Roberts ar bolisi datganoli'r Ceidwadwyr. Yn ôl Betsan (a dyw fy nghyd-olygydd byth yn anghywir am y pethau hyn) dyw 'r adroddiad ddim yn mynd i gael ei gyhoeddi yn ystod Cynhadledd y Ceidwadwyr. Fe fydd hynny'n siomi nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg.

Ond pam yr oedi? Ydy'r adroddiad yn un ymfflamychol a allai ychwanegu at y rhwygiadau o fewn y blaid? O'r hyn dw i'n clywed y gwrthwyneb sy'n wir. Methiant Arglwydd Roberts i gyrraedd casgliadau pendant ar ddiwedd adroddiad hir a manwl sydd wrth wraidd y broblem. Hynny yw, mae'r dadansoddiad o broblemau'r cynulliad, mae'n debyg, yn un penigamp ond does na fawr o ymdrech i gyfeirio'r blaid i unrhyw gyfeiriad arbennig nac i gynnig atebion.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Gwener, 26 Medi 2008

Sylwadau (0)

Mae'r podlediadau wedi ail-gychwyn. Gwasgwch y botwm ar y dde i glywed sylwadau Betsan Powys ynglŷn â'r sefyllfa wleidyddol a'r rhifyn cyfredol o "Dau o'r Bae".

Chwaden Gloff

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Gwener, 26 Medi 2008

Sylwadau (1)

Yn ystod y dyddiau nesaf fe fydd y Ceidwadwyr yn cyhoeddi eu hadolygiad nhw o record Rhodri Morgan wrth i'r Prif Weinidog gychwyn ar ei flwyddyn olaf yn y swydd. Dw i ddim am dorri'r embargo ond mae casgliad o ddyfyniadau gan Rhodri yng nghefn yr adroddiad yn wych. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gyfarwydd ond mae 'na un neu ddau nad ydw i wedi eu clywed o'r blaen. Dw i'n siŵr na fydd y Torïaid yn poeni os ydw i'n eu rhannu nhw.

Jonathan Morgan's suddenly discovered commitment to nurse training is rather like King Herrod worrying about the drop in blue Babygro sales in the Jerusalem branch of Mothercare.
He (Alun Cairns) looks like a Victorian undertaker looking forward to winter.

A'r gorau ohonyn nhw i gyd

Lionel Jospin's socialism is popular in Wales; in Llanelli they sing Jospin Fach.

Y Price Free Press

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 26 Medi 2008

Sylwadau (3)

Un o'r pethau am flogio yw eich bod chi'n gallu gwyntyllu syniad neu sylw a pha mor bynnag wirion yw'r peth mae'n debyg y bydd rhywun yn rhywle yn ei ddarllen. Mae'n golygu ychydig bach o waith wrth gwrs ac mae'n ddigon posib na fyddai cyfanswm y gynulleidfa yn ddigon i lenwi'r festri.

Mae 'na ffordd haws a mwy effeithlon o rannu'ch safbwyntiau. Yr hyn sydd angen arnoch chi yw lladmerydd, rhiw oracl delffaidd i adleisio eich neges, pregethwr i ledaenu'r newyddion da.

Mae Adam Price yn ddyn ffodus. Mae e wedi llwyddo i ffeindio'r union ladmerydd, yr oracl perffaith, pregethwr huawdl sydd a deugain mil o bobol yn ei braidd. Mae'n ymddangos mae'r cyfan sydd raid i Adam ei wneud yw peswch a bydd y Martin Shipton yn sicrhâi bod y pesychiad hwnnw yn haeddu tudalen llawn yn y Western Mail.

Yr wythnos hon yn unig, cafwyd erthygl hir gan Martin am y ffaith bod aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn dathlu ei ben-blwydd, dwy stori ynghylch ei alwad am gronfa cyfoeth sofran i Gymru ac un arall yn galw am drefnu dim rygbi Ewropeaidd i gymryd lle'r Llewod Prydeinig.

Dyna i chi bedwar neu pum tudalen o gyhoeddusrwydd mewn wythnos- faint fyddai hynny'n costi mewn hysbysebion tybed?

O Foel y Parc, Nebo a Phreseli...

Vaughan Roderick | 13:43, Dydd Iau, 25 Medi 2008

Sylwadau (0)

Pan oeddwn yn grwt pedair sianel oedd ar gael ar ein hen deledu du a gwyn. Dw i'n cofio'r rhifau hyd heddiw; ´óÏó´«Ã½ Bryste ar sianel pump, Teledu Cymru ar sianel saith, TWW ar sianel deg a ´óÏó´«Ã½ Cymru ar sianel 13.

Dros y blynyddoedd fe drodd Teledu Cymru a TWW yn Harlech ac yna'n HTV cyn diweddu fel ITV Cymru- yr enw answyddogol fu gan y sianelu masnachol o'r cychwyn. Heb os mae ITV wedi bod yn rhan hanfodol o'n bywyd cenedlaethol ers dros hanner canrif ac mae'r toriadau a gyhoeddwyd heddiw yn ergyd drom i'r gwylwyr ac i fywyd gwleidyddol y genedl. Dyna o leiaf yw barn Alun Fred Jones, y gweinidog diwylliant. O gofio hynny, oni fyddai hi wedi bod yn syniad i sicrhâi bod ymateb Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion Ofcom wedi cyrraedd cyn y diwrnod cau?

Cyn i'r gwrthbleidiau gwyno am y methiant hwnnw mae'n werth nodi sawl ymateb a ddanfonwyd i Ofcom gan bleidiau gwleidyddol Cymru a'u haelodau cynulliad. Dim un.

Y Gwir yn erbyn...

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Iau, 25 Medi 2008

Sylwadau (1)

Mae grŵp o'r enw "Gwir Gymru" yn cael ei lansio heddiw i ymgyrchu yn erbyn ymestyn pwerau'r cynulliad. Hwn yw'r grŵp y bu David Davies yn ceisio ei gydlynu ac yn ôl ei ddatganiad mae'n cynnwys aelodau Llafur a chynghorwyr annibynnol yn ogystal â David ei hun.

Fe gawn ni weld pa mor arwyddocaol yw'r datblygiad hwn. Mae mudiadau gwleidyddol yn gallu datblygu yn y modd rhyfedda. Yn ôl yn 1997 roedd hi'n ymddangos am gyfnod a fyddai 'na ymgyrch "Na" yn y refferendwm datganoli. Roedd y Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio ag ymgyrchu fel plaid ac roedd eu harweinwyr yn gwybod yn iawn y byddai gosod Torïaid amlwg ar flaen y frwydr yn arwain at grasfa. Pwy felly oedd arwain yr ymgyrch?

Rhai wythnosau'n unig cyn y bleidlais derbyniais alwad ffôn i ddweud bod dau aelod Llafur o'r Rhondda wedi dechrau casglu enwau ar ddeiseb yn gwrthwynebu sefydlu'r cynulliad. Doedd na fawr o sylwedd i'r peth- nac unrhyw awgrym bod y ddwy yn siarad ar ran unrhyw fath o fudiad neu ymgyrch. Serch hynny roedd hi'n fendith i ni'r darlledwyr oedd yn cael trafferth ddifrifol i sicrhâi unrhyw fath o falens gwleidyddol rhwng y ddwy ochor. Dyna'r rheswm dros enwogrwydd byrhoedlog Betty Bowen a Carys Pugh.

Gwelodd un Aelod Seneddol Llafur ei gyfle. Fe wnâi ddim o'i enwi- ond dyw e ddim yn anodd dyfalu am bwy 'dw i'n son. Yn fuan roedd yr aelod hwnnw ar y ffôn byth a hefyd yn canmol Betty a Carys ac yn mynnu eu bod yn siarad ar ran mwyafrif mud yn rhengoedd y Blaid Lafur.

Mae'n ddigon posib y gallai "Gwir Gymru" ddatblygu yn yr un modd. Y broblem i'r aelodau ar hyn o bryd, dybiwn i, yw llunio neges eglur ac atyniadol. Hynny yw pan (os?) ddaw'r refferendwm y dewis i'r etholwyr fydd ymestyn pwerau'r cynulliad neu gadw at y drefn bresennol. Does dim dwywaith y bydd "Gwir Gymru" yn apelio at wrthwynebwyr datganoli- y rheiny byddai'n dymuno diddymu'r cynulliad ond dyw hynny ddim yn ddigon. Mae'n annhebyg y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn rhoi cydnabyddiaeth na chymorth i gwrp ymgyrchu oedd yn dadlau achos oedd yn amherthnasol i'r cwestiwn ar y papur pleidleisio.

Y dasg sy'n wynebu "Gwir Gymru" yw llunio neges s'yn esbonio pam bod y drefn bresennol yn rhagori ar gynulliad a phwerau deddfu llawn. Dyna, wedi'r cyfan yw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn. Pob lwc iddyn nhw!

R-bost

Vaughan Roderick | 16:08, Dydd Mercher, 24 Medi 2008

Sylwadau (0)

Beth yw hwn? E-bost gan Jenny Randerson ynghlch amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd. Fe wnâi ddarllen honna ar ôl darllen yr e-bost gan Jenny wnaeth gyrraedd awr yn ôl ynglŷn â chynlluniau PFI a'r un ddaeth bore 'ma ynghylch meddygon teulu. Tri datganiad o fewn ychydig oriau. Oes 'na etholiad, tybed?

Dyw Jenny ddim wedi cyhoeddi eto p'un ai ydy hi'n bwriadu sefyll yn yr etholiad i olynnu Mike German fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ai peidio. Dw i'n ddigon parod i gredu bod hi rhwng dau feddwl. Mae'r swydd yn un digon diddiolch ar hyn o bryd yn wyneb mwyafrif sylweddol y llywodraeth yn y cynulliad ac etholiad cyffredinol ar y gorwel lle mae gan y blaid fwy i golli nac i ennill.

Ond ma gan Jenny broblem arall hefyd. Dyw'r rheolau ar gyfer yr etholiad ddim wedi eu penderfynu eto ond fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd mae angen enwebiad gan aelod cynulliad arall er mwyn sefyll. Gyda Peter Black a Mick Bates yn cefnogi Kirsty a Mike German yn mynnu ei fod e'n niwtral dim ond Eleanor Burnham sydd ar ôl. Mae Eleanor yn gobeithio am newid yn y rheolau i alluogi iddi sefyll ei hun . Does dim pwynt i Jenny ofyn iddi hi am enwebiad, felly.

Mae 'na ddigon o bobol yn y blaid sy'n synhwyro y byddai coroni Kirsty yn ddiwrthwynebiad oherwydd rheolau'r broses enwebu yn niweidiol. Wedi'r cyfan dim ond deunaw mis sy 'na ers y tro diwethaf i'r blaid groeshoelio'i hun ar gymhlethdodau ei chyfansoddiad.

Oherwydd hynny dw i'n argyhoeddedig y bydd Jenny (ac efallai Eleanor) yn cael sefyll os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae 'na arwyddion amlwg bod cefnogwyr Kirtsy yn credu y byddai etholiad yn llesol ac y byddai'n gwbwl derbyniol o'u safbwynt nhw pe bai Mike German yn cynnig enwebu ymgeisydd er mwyn sicrhâi bod 'na ornest.

Cwis bach

Vaughan Roderick | 17:30, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Sylwadau (1)

Does dim gwobrau, gyda llaw!

Meddyliwch amdani. Mi ydych chi'n Brif Weinidog. Mae'r arolygon barn yn drychinebus. Mae 'na etholiad ar y gorwel. Mae rhai o aelodau eich plaid yn ceisio tanseilio eich arweinyddiaeth. Mae angen araith arbennig iawn yn eich cynhadledd- rhywbeth i dawelu'r beirniaid ac argyhoeddi'r etholwyr. Beth i ddweud?

Wel beth am son am eich profiadau eich hun? Rhywbeth sy'n dangos eich bod chi'n foi cyffredin sy'n deall problemau dydd i ddydd yr etholwyr. Rhywbeth fel hyn efallai;

Thanks to the NHS, my sight was saved by care my parents could never have afforded. And so it's precisely because I know and have heard from others about the miraculous difference a great surgeon and great nurses and great care can make that I'm so passionate about the values of the NHS and so committed to reforming it to serve these values even better.

Neu efallai bod hwn yn well...

When I was a boy, my father was elderly and sick, and my mother was frail. Their life wasn't comfortable; they needed treatment regularly. They got it from the National Health Service. They had no money to pay, but they weren't asked for any. I saw then, not only how well they were treated by the National Health Service, but the security of mind it gave them to know that it would always be available. I have never forgotten it.

Ie wir, fe ddylai un o rheiny weithio! Nawr beth am dipyn o gig coch i'r cynrychiolwyr... ymosodiad ar ddiffyg profiad eich gwrthwynebwyr. Fe wnaiff hwn y tro, efallai.

It's one thing for them to say what market research has told them that people would like to hear. But it's quite another to deliver it.

Ond o bosib fe fyddai'n bosib dweud rhywbeth hyn yn lle...

Their strategy is to change their appearance, to give the appearance of change, and to conceal what they really think.And when salesmen won't tell you what they are selling, it's because they are selling something no-one should buy.

Beth am dipyn o wladgarwch? Fe ddylai hynny weithio.

With Britain's great assets - our stability, our openness, our scientific genius, our creative industries, and yes our English language - I know that this can be a British century and I'm determined it will be.

Neu mewn geiriau eraill...

That is Britain today, stripped of the masking-tape so often placed above it. So let's recognise what we are, look with confidence at the new world, and go out and put our own distinctive British mark on it.

Iawn, dyma'r cwis. Mae tri o'r dyfyniadau uchod o araith Gordon Brown ym Manceinion heddiw a thri o araith John Major yng Nghynhadledd y Torïaid ar drothwy etholiad 1997. Ydych ch'n gwybod p'un yw p'un?

Bil a Ben

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Sylwadau (1)

Mae Gordon Brown newydd ennill cymeradwyaeth fyddarol ym Manceinion wrth iddo gyhoeddi na fydd pobol sy'n dioddef o gancr a chlefydau tymor hir eraill yn Lloegr yn gorfod talu am bresgripsiwn yn y dyfodol . Digon teg. Ond tybed beth fydd ymateb y Gweinidog Iechyd, Ben Bradshaw?

Dw i'n siwr eich bod chi'n cofio Mr Bradshaw- y dyn wnaeth ddweud wythnos union yn ol;

I get fed up being told by some of the media that England suffers from health apartheid ... because millionaires in Wales get their prescriptions free or Scotland plans to allow anyone who wants to to park in busy hospital car parks for free.What about the fact that in England you get your operation much more quickly, you don't have to wait for more than 4 hours in A and E any more and it's easier to see a GP when you want.These things matter more to the public, we're delivering them in England and we've doing so while spending less per head on health than in Scotland and Wales.

Dw i'n sicr hefyd eich bod chi'n cofio geirau Harold Wilson bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth!


Rhod yn troi

Vaughan Roderick | 14:07, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Sylwadau (0)

Mae'r cynulliad wedi ail-ymgynnull. Mae'n bryd felly i ni danio'r peiriannau yma yn uned wleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru- er efallai bod y peirannau hynny'n debycach i greadigaethau Heath-Robinson na'r Hadron Collider.

Mae S4C2 wedi ail-gychwyn y prynhawn yma. Fe fydd CF99 yn dychwelyd nos yfory a Dau o'r Bae a'r podlediadau ddydd Gwener.

Mae hi hefyd yn gychwyn ar flwyddyn olaf Rhodri Morgan fel Prif Weinidog- efallai.

Mae 'na gryn amser ers i Rhodri gyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol ar ei ben-blwydd yn saithdeg ym Mis Hydref 2009. Ar y pryd ychwanegodd un amod bach sef y gallai'r dyddiad newid gan ddibynnu ar amseriad etholiad cyffredinol.Ar y pryd doedd hynny'n golygu fawr ddim. Wedi'r cyfan roedd hi'n amlwg y byddai'r etholiad nesaf yn cael ei gynnau ymhell cyn hynny.

Nid felly y bu pethau wrth gwrs. Does neb dwi'n nabod yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal cyn Hydref 2009 man cyntaf- os ydy Gordon Brown yn parhau fel arweinydd y Blaid Lafur. Lle mae hynny'n gadael Rhodri? Wel, mae'n amlwg na fyddai Rhodri'n ymddeol ar ei ben-blwydd pe bai 'na etholiad ar y pryd. Ond beth os oedd yr etholiad o hyd heb ei gynnal- hynny yw bod y bleidlais i'w chynnal yn hanner cyntaf 2010?

Fe fyddai Rhodri wedyn yn wynebu dipyn o broblem wleidyddol. P'un fyddai orau ymddeol gan roi digon o amser i arweinydd newydd roi ei stamp ei hun ar lywodraeth Cymru neu oedi gan dderbyn y cyfrifoldeb a pheth o'r bai am ganlyniad gwael posib yn etholiad San Steffan? Dyw'r cwestiwn ddim yn un hawdd- a does dim rhai i Rhodri ei ateb eto. Un peth sy'n sicr yn fy meddwl i- fe fyddai Rhodri yn gwneud beth bynnag oedd yn orau i'r Blaid Lafur o dan y fath amgylchiadau. Os oedd hynny'n golygu cymryd clatsied dros ei blaid fe fyddai'n gwneud hynny.

Dyma beth oedd ganddo fe i ddweud heddiw;

" Dw i wedi dweud o'r cychwyn bod yn rhai i fi ffitio'r cynlluniau personol o gwmpas yr amgylchiadau gwleidyddol- hynny yw etholiad cyffredinol. Dyw e erioed wedi bod mor syml a dweud Oce, dw i'n ymddeol ar fy mhen-blwydd. Efallai y byddai'n gallu, efallai ddim..."

Dydw i ddim yn siŵr os ydy hi'n bosib darogan unrhyw beth mawr o'r geiriau hynny... ac eithrio'r ffaith bod y drws yn fwy na chil agored. Os ydy Llafur yn dymuno i Rhodri oedi cyn gadael mae'n fodlon gwneud.

Chwalfa

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Sylwadau (0)

Fel y rhan fwyaf ohonom, dw i'n amau, dw i'n ei chael hi'n anodd deall maint y problemau economaidd sy'n ein bygwth ar hyn o bryd. Heb os mae'r ffigyrau yn arswydus a bron yn ormod i'w dirnad. Cymerwch un ystadegyn bach fel enghraifft. Mae dyled llywodraeth yr Unol Daleithiau bellach yn $3,278 am bob un person yn y wlad. Mae'r cyfanswm yn ddeg gwaith yr hyn mae'r wlad yn gwario ar addysg ac mae hynny cyn ychwanegu'r $700,000,000,000 y mae'r Arlywydd Bush yn bwriadu gwario ar achub y banciau.

Roedd hi'n drawiadol bod Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones wedi dewis agor cynhadledd newyddion heddiw trwy son am helyntion economi America a'r effaith posib ar bawb ohonom. Efallai bod eu taith i Kentucky wedi tanlinellu maint y peryglon yn eu meddyliau.

Roedd Rhodri yn ddi-flewyn ar dafod. Hwn oedd yr argyfwng bancio gwaethaf ers 1929 meddai ac roedd hi'n bosib bod y byd cyfan yn wynebu'r fath o sioc economaidd wnaeth haneru gwerth farchnad stoc Japan dros nos yn 1987- cwymp sy'n llesteirio economi'r wlad honno hyd heddiw.

Ac eithrio ar yr ymylon does 'na fawr ddim y gall llywodraeth y cynulliad wneud ynghylch hyn. Y gwir amdani yw bod unrhyw fesurau posib fel piso drys bach yn y môr o gymharu â'r grymoedd economaidd sy'n ein hwynebu. Mewn gwirionedd does 'na ddim llawer y gall llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud ychwaith.

Roedd hi'n rhyfedd felly bod y Ceidwadwyr wedi dewis heddiw i alw am ragor o ddefnydd o gwmnïau preifat i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Onid oedd hi braidd yn rhyfedd i wneud hynny ar yr union adeg yr oedd George Bush yn cyflawni'r rhaglen fwyaf o wladoli yn hanes dynoliaeth? Dyna oedd y cwestiwn i David Melding y bore 'ma. Gofynnais iddo (a'n nhafod yn saff yn fy moch) oedd e'n gyffyrddus i fod i'r dde o Sarah Pallin?

Chwerthin yn hytrach na gwrido gwnaeth David ond mae 'na ryw deimlad yn y Bae ein bod yn dawnsio ar ymyl y dibyn gyda ffactorau economaidd allanol yn debyg o ysgubo pob dadl arall i'r neilltu yn hwyr neu'n hwyrach.

Ambell i beth

Vaughan Roderick | 14:51, Dydd Gwener, 19 Medi 2008

Sylwadau (1)

Cymerais i ddiwrnod bant o'r gwaith ddoe er mwyn gwylio cynhyrchiad yr RSC o Hamlet yn Stratford. Oes, mae gen i ddiddordebau y tu hwnt i wleidyddiaeth! Peidiwch a becso. Dydw i ddim am gynnig adolygiad nac ychwaith tynnu cymhariaeth rhwng Tywysog Denmarc a Gordon Brown na Polonius ac ambell i wleidydd yn y cynulliad o ran hynny!

Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys un newid dadleuol i'r ddrama. Yn hytrach na'r geiriau arferol ceir rhain "There are more things in Heaven and Earth, Horatio, than are dreamt of in our philosophy". Un gair (un llythyren mewn gwirionedd) sydd wedi newid "our" yn lle "your"- newid bach sy'n creu newid sylfaenol yn ystyr yr olygfa- ac yn wir y ddrama gyfan.

Dyw'r naill fersiwn na'r llall yn "gywir". Mae'r ddwy i'w canfod yn y copïau cynnar o'r ddrama. Serch hynny mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd dewis ein geiriau'n ofalus.

O gofio hynny pwy ar y ddaear yn swyddfa wasg y cynulliad sgwennodd y datganiad canlynol "One of the most comprehensive surveys undertaken in Wales to gauge public understanding of the Principality's political landscape has shown....". "Principality"! Och, gwae ni... a hynny ym mrawddeg gyntaf datganiad newyddion! Mae'r fersiwn Gymraeg yn gallach. Cewch wybod, gyda llaw beth sydd wedi ei ganfod ddydd Llun.

Ond nid y swyddog i'r wasg oedd yn gyfrifol am y frawddeg honno sy'n ennill y wobr am benderfyniad mwyaf rhyfedd yr wythnos. Draw yn Kentucky mae Ieuan Wyn Jones wedi cwrdd â Muhammad Ali ar gyrion Cwpan Ryder gan gyflwyno anrheg arbennig iddo o Gymru. Beth oedd yr anrheg? Grog. Grog o Muhammad Ali. Grog. Does gen i ddim o'r geiriau.

Wes Wes

Vaughan Roderick | 12:17, Dydd Gwener, 19 Medi 2008

Sylwadau (3)

Mae'n hynod o beryglus i ddarllen gormod o ganlyniadau isetholiadau lleol- yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r ymgeisydd yn aml iawn yn bwysicach na'r blaid. Serch hynny yn wythnos eu cynhadledd dyw'r canlyniad o Landudoch yn Sir Benfro ddim yn newyddion da i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ann.; 496
Dem. Rhydd.177,
Dim Disgrifiad 160
Ceid.;57

Mae hynny o gymharu â'r canlyniad ym Mis Mai;

Dem Rhydd.; 677
Ann; 421

O diar! Yn ôl gwefan y cyngor sir mae hynny'n golygu mai dau aelod yn unig sydd ar ôl yn y grŵp "D Rh Plws". Y cwestiwn yw p'un yw'r "D Rh" a p'un yw'r "plws"?

Diweddariad (er mwyn tegwch!); Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cysylltu i frolio eu bod wedi ennill isetholiad cyngor tref yn Aberystwyth neithiwr. Y canlyniad yn ward Rheidol oedd Dem. Rhydd.; 243, PC;167. Yn y cyfamser ar gyngor plwy Cwmsgwt...

Diweddariad i'r diweddariad... Fe gipiodd Plaid Cymru sedd mewn isetholiad arall yn Aberystwyth. Mae'r manylion yn y sylwadau!

Nawr lanciau rhoddwn glod...

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Gwener, 19 Medi 2008

Sylwadau (2)

Mae Liam Byrne, y gweinidog mewnfudo wedi dychwelyd at un o'i hoff bynciau- natur Prydeindod. Mewn a gyhoeddwyd gan Demos yr wythnos hon mae'n ymhelaethu ar ei alwad am ŵyl banc arbennig i ddathlu'r Deyrnas Unedig. Am y tro cyntaf mae'n rhestri dyddiadau posib ar gyfer gŵyl o'r fath. Yn eu plith mae "Hastings Day, Trafalgar Day, Magna Carta Day, Empire Day" ac, wrth gwrs "St George's Day".

Ydych chi wedi sylwi ar y broblem amlwg?

Tic Toc

Vaughan Roderick | 16:53, Dydd Mercher, 17 Medi 2008

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn gwybod llawer am yr awdur LP Hartley. Yn wir, os nad oeddwn wedi gweld y "Go-between" ar ryw sianel ffilmiau rhywbryd byswn yn argyhoeddedig mai fe oedd y boi oedd yn chwilio am lyfr pysgota ar hysbyseb Yellow Pages ers talwm. Serch hynny mae 'na frawddeg o eiddo LP Hartley sydd wedi goroesi, brawddeg gyntaf y "Go-between", fel mae'n digwydd, sef hon "the past is a different country they do things differently there".

Roeddwn yn meddwl am y frawddeg honno wrth ail-ddarllen Hansard 1978 y dydd o'r blaen- ydw, dw i mor drist â hynny! Roeddwn yn hanner meddwl sgwennu rhyw fath o ddarn ynghylch refferendwm 1979, refferendwm 1997 a'r refferendwm arfaethedig posib.

Mae rhai o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ôl yn 1979 yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Dyna i chi aelod Henffordd oedd yn ofni y byddai datganoli yn arwain at drais ar strydoedd y ddinas honno.

I do not think that hon. Members in other parts of the country understand the intensity of feeling that exists on either side of the border. In the past 450 years, we have increased understanding, and no longer will a man get thumped in Hereford on a Saturday night if he says he is Welsh. There is tolerance. Members will understand why we are wary about a Bill that seeks to re-establish differences
.

Neu beth am yr aelod oedd yn credu bod y ffaith bod ganddo etholaeth yng Nghernyw yn rhoi rhyw ddealltwriaeth arbennig iddo.?

We have our little local nationalism. I am a Cornishman and I can vouch for that. We have our little local cultures.

Mae 'na fwy... llawer mwy gan gynnwys un aelod seneddol Llafur wnaeth gyhuddo hen gyngor Morgannwg o wrthod swyddi i athrawon oedd yn aelodau o'r Blaid Lafur. Fe fydd unrhyw un sy'n cofio'r cyngor hwnnw yn gwybod bod yr aelod hwnnw'n troi'r hanes ar ei ben!

Ond yng nghanol hyn i gyd mae 'na ambell i gwestiwn sydd o hyd yn berthnasol. Yn eu plith mae hwn gan Donald Anderson aelod Llafur Dwyrain Abertawe.

If there is one party in power in Cardiff and another party in power in Westminster, the former will feel constrained to say "It is those English who are not giving us the hospitals, the roads and so on that we so desperately need in Wales.There are also basic tendencies of human nature to take into account. I think, for example, of empire-building, the willingness of the Assembly always to seek to increase its powers.

Os ydych chi'n coelio arolygon barn (a does na fawr ddim rheswm i beidio) mae'r diwrnod hwnnw lle fydd 'na llywodraethau o wahanol liwiau yng Nghaerdydd a San Steffan yn brysur agosau.

Tan gwmwl

Vaughan Roderick | 10:34, Dydd Mercher, 17 Medi 2008

Sylwadau (2)

Pam mae argyfyngau ariannol wastad yn digwydd yn ystod cynadleddau'r Democratiaid Rhyddfrydol? Gall yr un newyddiadurwr oedd yn bresennol yn Harrogate yn ystod "black wednesday" anghofio'r diwrnod hwnnw. Wrth i'r cynadleddwyr barhau i drafod trethi gwyrdd, hawliau lleiafrifol neu beth bynnag oedd ar yr agenda fe wagiodd ystafell y wasg wrth i bawb heglu hi am Lundain. " Great story...great story...of course I've lost my house..." oedd geiriau un cyfaill i mi wrth iddo ymuno a'r exodus.

Gan fy mod wedi pechu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddiweddar fe ddylwn i ychwanegu'n syth nad ydw i'n beio'r blaid honno am yr hyn sy'n digwydd ar y marchnadoedd arian yn ddiweddar! Ar ôl dweud hynny fe fydd y blaid yn diawlio'i hanlwc bod ei chyfle mawr i gyflwyno ei pholisïau i'r etholwyr wedi ei golli - a hynny oherwydd ffactorau ymhell y tu hwnt i'w rheolaeth. Am wn i mae bran y Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o dderyn du i Gordon Brown gan ddenu'r sylw i ffwrdd o'r gwrthryfel yn erbyn ei arweinyddiaeth. Ar y llaw arall mae gorfod delio'r gyflafan ar y marchnadoedd yn gythraul o bris i dalu am gladdu newyddion drwg!

Poenus!

Vaughan Roderick | 14:31, Dydd Gwener, 12 Medi 2008

Sylwadau (0)

Dyw heddiw ddim yn ddiwrnod da i Lembit!

Y bore 'ma cafodd Aelod Maldwyn wybod gan y nad yw nifer o fawrion y blaid Gymreig yn fodlon ei gefnogi yn yr etholiad i ddewis Llywydd y blaid Brydeinig.

Gobeithio ei fod wedi cadw draw o brif flog ei blaid "". Gallai hwnnw ychwanegu at ei boen. Mae'r safle wedi bod yn cynnal pôl i ddewis aelodau mwyaf a lleiaf effeithiol cabinet y blaid. Dyw e hi ddim yn syndod gweld pwy sydd ar y brig- Vince Cable a sgôr o +96.9%. Ond pwy sydd ar y gwaelod a sgôr o -35/4%? Oes angen dweud?

Cwffio yn KL

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Gwener, 12 Medi 2008

Sylwadau (0)

Dyma i chi ffordd newydd o ddelio ac Aelodau Seneddol trafferthus. Mae 'na argyfwng gwleidyddol ym Malaysia ar hyn o bryd a allai arwain at newid llywodraeth yno am y tro cyntaf ers i'r wlad sicrhâi ei hannibyniaeth yn 1963.

Yn y bôn mae arweinydd clymblaid y gwrthbleidiau, Anwar Ibrahim, yn ceisio darbwyllo llond dwrn o gefnogwyr y llywodraeth i groesi llawr y Tŷ er mwyn diswyddo'r Prif Weinidog, Abdullah Ahmad Badawi. Mae Mr Abdullah wedi ymateb trwy ddanfon deugain o'i gefnogwyr mwyaf simsan ar daith i astudio amaethyddiaeth yn Taiwan!

Doniol efallai ond mae'n werth cadw llygad ar ddatblygiadau ym Malaysia gan fod y sefyllfa yno'n dirywio'n gyflym. Oherwydd cyfyngiadau ar ryddid newyddiadurol mae'r gwrthbleidiau wedi dibynnu'n helaeth ar y we i ledaenu ei neges. Y bore 'ma mae'r llywodraeth wedi dechrau arestio blogwyr a blocio safleoedd.

Nawr, mae hyn o ddiddordeb i mi gan fod gen i berthnasau yn Selangor a KL- ond fe ddylai fod o bwys i bawb. Mae gan Falaysia boblogaeth hynod o gymysg o ran crefydd ac ethnigrwydd ac mae'n un o'r ychydig wledydd a mwyafrif Mwslimaidd sydd yn gymdeithas fodern a chymharol agored. Trigain mlynedd yn ôl bu bron i'r wlad gwympo'n ddarnau gyda'r gwahanol grwpiau wrth yddfau ei gilydd. Os oedd hynny'n digwydd eto fe fyddai'r effeithiau yn ddifrifol nid yn unig i Asia a'r byd Mwslimaidd ond i bob un ohonom.

Dolen

Vaughan Roderick | 10:33, Dydd Gwener, 12 Medi 2008

Sylwadau (0)


Mae Peter Black wedi ymateb i fy sylwadau ynghylch y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei , Mae'n cyflwyno ei ddadl yn huawdl ac ystyrlon ac mae'n werth ei ddarllen.

Cyfri Geiriau

Vaughan Roderick | 16:29, Dydd Iau, 11 Medi 2008

Sylwadau (1)

Mae 'na naw o eiriau yn y gyffes ffydd Islamaidd, chwedeg wyth yng Ngweddi'r Arglwydd, 4,543 yng nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau a 13,447 yng nghyfansoddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Jyst dweud.

Dilyn Betty

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Iau, 11 Medi 2008

Sylwadau (2)

Mae penderfyniad Betty Williams i beidio sefyll yn etholaeth newydd Aberconwy yn gwbwl dealladwy. Pam ar y ddaear ddylai hi gynnig ei hun fel rhyw fath o aberth wleidyddol mewn sedd sydd i bob pwrpas yn amhosib ei hennill i Lafur y tro nesaf?

Problem Llafur yn fan hyn wrth gwrs yw'r ffaith bod ffiniau hen sedd Conwy wedi newid yn ogysal a'r enw. Gyda Bangor a Dyffryn Ogwen wedi diflannu o'r etholaeth a Nant Conwy wedi ei ychwanegu does dim gobaith caneri i Lafur ei hennill yn yr hinsawdd bresennol.

Yn 2005 yn hen etholaeth Conwy roedd gan Betty fwyafrif digon parchus o bron i ddeg y cant. Dyma'r canlyniad llawn;

Llafur 12479 (37.1%)
Ceidwadwyr 9398 (27.9%)
Dem. Rhydd. 6723 (20%)
Plaid Cymru: 3730 (11.1%)

Mwyafrif 3081 (9.2%)

Ond beth fyddai wedi digwydd pe bai'r ffiniau newydd yn bodoli bryd hynny? Mae'r academyddion wedi bod wrthi'n analeiddio a'u barn nhw yw y byddai Betty wedi ennill- ond dim ond o drwch blewyn. Dyma eu hamcangyfrif.

Llafur 9119 (31.5%)
Ceidwadwyr 8875 (30.6%)
Dem. Rhydd. 5733 (19.8%)
Plaid Cymru 4186 (14.4%)

Mwyafrif: 243 (0.8%)

Os ydy'r academyddion yn gywir fe fyddai hynny yn gosod Aberconwy yn bumed ar restr dargedi'r Ceidwadwyr. Dyw hynny ddim yn lle cyffyrddus i Aelod Seneddol fod. Ond mae angen gair o rybudd yn fan hyn.

Er ein bod ni newyddiadurwyr i gyd yn eu defnyddio nhw mae'r amcangyfrifon academaidd yma yn llawer llai dibynadwy yng Nghymru nac yn Lloegr. Y rheswm am hynny yw eu bod wedi ei seilio'n rhannol ar ganlyniadau etholiadau cyngor ac mae presenoldeb nifer sylweddol o ymgeiswyr annibynnol mewn ardal fel Aberconwy yn cymylu'r dystiolaeth honno.

Yn ffodus man na ddarn bach arall o wybodaeth ar gael. Fe ddefnyddiwyd y ffiniau newydd yn etholiad y cynulliad llynedd. Hwn oedd y canlyniad bryd hynny.

Plaid Cymru 7,983 (38.6%)
Ceidwadwyr 6,290 (30.4%)
Llafur 4,508 (21.8%)
Dem. Rhydd. 1,918 (9.3%)

Mwyafrif 1693 (8.2%)

Mae hynny'n ganlyniad gwahanol iawn i'r amcangyfrif ond mae 'na resymau da dros hynny. Yn gyntaf mae'n werth nodi bod canran pleidlais y Ceidwadwyr yn debyg iawn yn yr amcangyfrif ac yng nghanlyniad y cynulliad. Y gwahaniaeth yw bod canran Plaid Cymru llawer yn uwch a chanlyniadau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol llawer yn is yn 2007. Mae hynny'n rhannol oherwydd safon yr ymgeiswyr ond mae 'na ffactor bwysig arall. Mae ymchwil Richard Wyn a'i griw yn Aber wedi dangos bod pobol sydd wedi eu geni yng Nghymru yn llawer tebycach o bleidleisio yn etholiadau cynulliad nac yw pobol sydd wedi symud i mewn. Mae hynny'n ffactor arbennig o bwysig ar arfordir y gogledd er bod angen nodi bod y canran wnaeth bleidleisio yn Aberconwy yn 2007 (46.9%) yn barchus iawn

Beth yr argoelion felly? Wel, yn yr hinsawdd bresennol mae'n anodd dychmygu unrhyw un ar wahân i Guto Bebb yn cynrychioli Aberconwy yn y senedd ar ôl yr etholiad nesaf.

Serch hynny gallai ymddeoliad Betty wneud hi'n haws i wasgu'r bleidlais Lafur yn dactegol- ond pwy sy'n debyg o wneud hynny? Fel deiliaid sedd y cynulliad mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref ond mae'n werth cofio bod hen etholaeth Conwy ar frig rhestr targedau'r Democratiaid Rhyddfrydol am flynyddoedd.

Yn y pendraw dw i'n amau y bydd etholiadau seneddol yn Aberconwy yn datblygu i fod yn frwydrau rhwng y Torïaid a Phlaid Cymru- ond mae'n bosib y bydd angen mwy nac un etholiad cyffredinol i'r patrwm dod i'r amlwg.

Aber Aber Aber

Vaughan Roderick | 11:29, Dydd Iau, 11 Medi 2008

Sylwadau (2)

Nid fy mod i'n un am gredu stereoteip y Cardis -ond ydy unrhyw un yn gallu esbonio pam fod safle yn cynnwys dolen i wefan o'r enw "moneysavingexpert.com"?

Yn Aberystwyth, wrth gwrs, y mae Plaid Cymru yn cyrraedd ei chynhadledd eleni. Dw i'n cadw draw o hon, nid fel protest yn erbyn pa bynnag ynfytyn wnaeth ganiatáu dymchwel Neuadd y Brenin, y neuadd gynadleddau orau yng Nghymru, ond oherwydd fy mod yn synhwyro na fydd hon yn gynhadledd ddiddorol iawn. Mae newyddiadurwyr yn hoffi ffeits a does 'na ddim arwydd o unrhyw gwrthdaro difrifol yn Aber y penwythnos hwn.

Yn y cyd-destun hwn mae sylwadau Dafydd Wigley yn y Daily Post y bore 'ma yn ddiddorol (fersiwn brint yn unig). Apelio am amynedd mae Dafydd yn y bôn. Mae'n dadlau bod hi'n gynnar i fesur perfformaid gweinidogion Plaid Cymru gan fod y peirianwaith llywodraethol o reidrwydd yn symud yn araf. Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y selogion yn Aber yn derbyn y cyngor hwnnw. Dydw i ddim yn siŵr bod yr un peth yn wir am rai o gefnogwyr traddodiadol y Blaid sy'n llai cibddall yn eu teyrngarwch.

Mae 'na un sylw arall gan Dafydd Wigley y dylai'r Blaid ystyried yn ofalus sef hwn;

"Mae Ieuan Wyn Jones yn wynebu dilema. Fel gweinidog economaidd o'r radd flaenaf mae'n adeiladu hygrededd laid Cymru. Fel arweinydd Plaid mae'n rhaid iddo gymryd golwg fwy eang o'r sefyllfa wleidyddol gan gadw hyd braich o'r manylion dydd i ddydd. Mae angen amser arno i weld y darlun cyfan".

Nawr, mae'n bosib bod Dafydd ond yn gwneud pwynt cyffredinol yn fanna ond mae'n anodd credu nad yw e hefyd yn cyfeirio at gymeriad a phersonoliaeth arweinydd ei blaid.
Dyn manylion yw Ieuan Wyn Jones ac yn ôl gweision sifil mae'n feistr ar ofyn y cwestiynau cywir a mynnu'r holl wybodaeth angenrheidiol cyn cyrraedd penderfyniad.

Ond ydy hynny'n ddigon? Roedd Mike German yn weinidog da ac roedd Jenny Randerson yn weinidog diwylliant penigamp ond doedd hynny o ddim lles etholiadol i'r Democrataid Rhyddfrydol. Roedd gan y blaid strategaeth i geisio elwa o fod mewn llywodraeth. Roedd hi'n strategaeth dda hefyd, wedi ei hanelu at berswadio cefnogwyr Llafur i fwrw eu hail bleidlais ranbarthol dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond rhywsut roedd y blaid yn rhu prysur yn mwynhau llywodraethu i wireddu'r strategaeth honno.

Ydy'r un peth yn debyg o ddigwydd i Blaid Cymru? Dyna, mae'n ymddangos, yw ofn Dafydd Wigley.

Mae strategaeth Plaid Cymru yn wahanol i un y Democratiaid Rhyddfrydol. I gamddyfynnu Tony Blaid mae'n dibynnu ar dri pheth "etholaethau, etholaethau, etholaethau". Oherwydd natur ddiffygiol system etholiadol y cynulliad lle nad yw'r nifer o seddi rhanbarthol yn ddigon i sicrhâi cynrychiolaeth sy'n wir gyfrannol yr unig fordd i unrhyw un o'r pleidiau eraill dorri crib y Blaid Lafur yw trwy ei churo ar lawr gwlad yn y frwydr etholaethol.

O edrych ymlaen at etholiad nesaf y cynulliad mae'n ddigon hawdd llunio senario lle byddai Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr i gyd yn ennill rhwng pymtheg ac ugain o seddi. Ond i hynny ddigwydd mae'n rhaid i'r Cenedlaetholwyr a'r Torïaid gipio seddi etholaethol Llafur yn enwedig yn y tri rhanbarth trefol.

Dyna yw'r "darlun cyfan" y mae Dafydd Wigley yn cyfeirio ato. Ydy Ieuan yn ei weld? Efallai cawn ni ateb yn araith yr arweinydd yfory.

Barn y Bwci

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Mercher, 10 Medi 2008

Sylwadau (0)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau Jack Brown newydd fod ar y ffon i gynnig ei farm am arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol. Os ydy Jenny Randerson yn sefyll mae Karl yn awgrymu'r prisiau canlynol.

Kirsty Williams 1-2 (ffefryn)
Jenny Randerson 6-4

Os ydy Elinor Burnham yn llwyddo i ddod o hyd i rywun i'w henwebu mae'r prisiau'n newid rhyw ychydig.

Kirsty Williams 8-15 (ffefryn)
Jenny Randerson 11-8
Elinor Burnham 8-1

Curo'r Consensws

Vaughan Roderick | 15:04, Dydd Mercher, 10 Medi 2008

Sylwadau (0)

Am unwaith dyw Google (na Cuil o ran hynny) ddim yn gallu helpu. Dw i wedi bod yn ceisio canfod tarddiad dyfyniad sy'n crynhoi problem sylfaenol y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi methu'n llwyr. Os oeddwn yn gwbwl ddigywilydd fe fyswn yn esgus mai fi fy hun wnaeth feddwl am y peth.

Ta beth, dywedodd rhyw un, rhyw bryd "The Liberals problem is that everone has voted for the once but nobody has voted for them twice". Mae hynny'n gor-ddweud wrth reswm ond mae 'na wirionedd sylfaenol yn y sylw.

Problem fawr plaid y canol ers dyddiau Lloyd George yw nad oes ganddi hi bleidlais graidd sylweddol. Mae'n blaid sy'n gorfod brwydro am bob pleidlais a phob sedd. Mae gan y pleidiau eraill etholaethau lle fyddai unrhyw ffŵl yn cael ei ethol pe bai'n gwisgo'r lliwiau cywir- mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gorfod cwffio'n galed i gael eu pobol i mewn- boed y rheiny'n ffyliaid neu beidio!

O bryd i gilydd mae ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol wedi cwyno fy mod yn llawdrwm wrth feirniadu'r ffordd y mae'r blaid yn ymgyrchu. Dydw i ddim am ail-dorri hen gŵys ond fe ddywedai hyn. Dydw i erioed wedi darllen unrhyw beth mor sinigaidd a diegwyddor a'r llawlyfrau etholiadol a gyhoeddir gan Gymdeithas Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol. Dim ond aelodau'r blaid sydd i fod i'w gweld nhw. Twff. Mae'r cyfan ynddynt- sut i gamddefnyddio ystadegau etholiadol, yr holl nonsens "ras dau geffyl" yna, sut mae cyfiawnhau disgrifio rhyw un fel "local campaigner" pam does ganddyn nhw nemor ddim cysylltiad â'r ardal ayb, ayb.

Nawr dyw hynny ddim yn golygu nad oes gan Democratiaid Rhyddfrydol egwyddorion. Mae gan y blaid athroniaeth gadarn a gwerthoedd hawdd eu hedmygu ynglŷn â hawliau sifil a rhyddid yr unigolyn ond nid ar rheiny y mae'r blaid yn seilio'i hymgyrchoedd. Yn ddieithriad bron sylfaen ymgyrchoedd y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r honiad eu bod rhyw sut yn fwy "lleol" na'r pleidiau eraill ac mai dim ond nhw sy'n gallu trechu Plaid A/Plaid B yn yr etholaeth neu'r ward honno.

Mae Kirsty Williams, yr ymgeisydd cyntaf i gyhoeddi ei bod am sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Gymreig yn deall y broblem. Mewn araith drawiadol flwyddyn yn ôl fe ddywedodd Kirsty hyn;

It seems to be popular journalistic shorthand these days to ask what the Liberal Democrats, and the Welsh Liberal Democrats are for? It is not a question that engages me. I have always known. But perhaps we need to remind the people of Wales. To recall the great reforms of the forgotten past. To recall what politics used to be, and what it could be again. Somewhere along the way we lost the... brand. The tenant farmers know what Liberals stood for. They knew that my predecessors understood their problems. We had a brand then, I'm not sure we have that any more.

Gellir darllen y ddarlith gyfan yn ac mae'n werth gwneud. Neges Kirsty oedd bod yn rhaid i'r blaid wahaniaethu ei hun o'r hyn mae'n galw "the gloopy grey consensus that Welsh Politics has become".

Digon teg. Ond mae 'na broblem. Yn ei haraith mae Kirsty yn honni bod y Cymry yn genedl ryddfrydol- mai gwerthoedd rhyddfrydol yw gwerthoedd y mwyafrif ohonom. Mae 'na wirionedd yn hynny- plaid ryddfrydol yw Plaid Cymru i bob pwrpas ac mae rhyddfrydiaeth yn rhan o DNA nifer o aelodau Llafur Cymru a rhai o'r Ceidwadwyr hefyd.

Edrychwch ar y cynulliad ac anghofiwch y ffiniau pleidiol. Beth, mewn gwirionedd sy'n gwahaniaethu David Melding a Jane Davidson o safbwynt eu gwerthoedd sylfaenol, neu Gareth Jones a Mike German o ran hynny?

Os ydy Kirsty'n gywir bod 'na ormod o gonsensws yn y Bae gellir dadlau mai consensws rhyddfrydol yw hwnnw. Edrychwch ar gytundebau "Cymru'n Un" a "Chymru Gyfan". Beth yw eu hanfodion? Gwasanaethau cyhoeddus cryf. Amddiffyn a hybu buddiannau lleiafrifoedd. Brwydro yn erbyn tlodi ac angen. Mae'r rheiny i gyd yn werthoedd y byddai Lloyd George yn eu harddel.

Dyma'r cwestiwn felly. Sut ar y ddaear y gall plaid rhyddfrydol wahaniaethu ei hun o gonsensws rhyddfrydol?

Gwaed ar ei ddwylo

Vaughan Roderick | 12:13, Dydd Mawrth, 9 Medi 2008

Sylwadau (5)

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio apel i adfer cerflun o HM Stanley yn Kinshasa yn y Congo. Maen nhw hefyd yn gobeithio codi copi o'r cerflun yn Ninbych. Mae'r cyngor wedi clustnodi pum mil o bunnau i dalu am ymgyrch i godi arian.

Maddeuwch i mi am beidio cyfrannu.

Ydy cynghorwyr Sir Ddinbych wedi oedi am eiliad i ystyried pam fod trigolion y Congo wedi gadael i'r cerflun bydru? Tybed oes a wnelo hynny a'r ffaith bod Stanley yn gyfrifol am ddarganfod ffordd heibio i raeadrau Afon Congo ar ran Brenin Leopold y Belgiaid? Ydy hi'n bosib nad yw trigolion y Congo yn ddiolchgar i Stanley am alluogi sefydliad y drefedigaeth fwyaf gwaedlyd o holl drefedigaethau gwaedlyd Ewrop yn Africa? Ydyn nhw'n cofio efallai mai Stanley wnaeth lunio'r cytundebau a alluogodd Leopold i osod cenedl gyfan mewn caethwasiaeth? Ydyn nhw'n teimlo nad yw hi'n briodol anrhydeddu dyn a ddywedodd hyn wrth gyfiawnhau ei gyrchoedd gwaedlyd "the savage only respects force, power, boldness, and decision"?

Gadewch i ni fod yn gwbwl blaen yn fan hyn. Fe hanerwyd poblogaeth y Congo yn y deugain mlynedd ar ôl i Stanley ddarbwyllo penaethiaid llwythau'r wlad i gyrraedd cytundebau a'r Belgiaid. Amcangyfrifir bod deg miliwn o bobol wedi eu lladd neu wedi marw o newyn. Llosgwyd pentrefi. Cadwyd cannoedd o filoedd o fenywod a phlant yn gaeth mewn pentrefi er mwyn gorfodi ei gwyr i gasglu rwber i gyfoethogi Brenin trachwantus y Belgiaid a'i was cyflog, Henry Morton Stanley. Mae 'na derm am yr hyn wnaeth Leopold a Stanley- hil-laddiad.

Rydym yn gwybod hyn oll oherwydd ymdrechion rhyfeddol dyngarwr o'r enw Edmond Morrel- clerc llongau o gefndir tlawd wnaeth treulio'i fywyd ac aberthu ei iechyd yn ymgyrchu i geisio dadwneud yr erchyllterau yr oedd Stanley yn rhannol gyfrifol amdanynt.

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd dyw cartref Edmond Morrell ddim yn bell o Ddinbych. Roedd e'n byw ym Mhenarlâg. Os ydy Cyngor Sir Fflint yn dymuno codi cofeb iddo mi ddanfonai siec yn syth.

Ffeit!

Vaughan Roderick | 14:51, Dydd Gwener, 5 Medi 2008

Sylwadau (1)

Dw i'n cymryd y bydd bron pawb sy'n darllen y Blog yn gyfarwydd erbyn hyn a gwefan Cymraeg newydd y . Does dim angen dweud bod hwn yn ddatblygiad i'w groesawi. Yr hyn sy'n ddiddorol yw cymhellion y cwmni.

Fe wnaeth y Daily Post gais aflwyddiannus am yr arian a gynigiwyd i hybu'r wasg Gymraeg yn sgil y ffrwgwd ynghylch "Y Byd". Cwmni oedd yn llwyddiannus, wrth gwrs, gan dderbyn addewid o £600,000 o bunnau dros dair blynedd.

Pam felly bod Trinity Mirror y Gogledd wedi penderfynu bwrw ymlaen a'r cynlluniau ar ei liwt ei hun? Dw i ddim yn meddwl bod angen bod yn arbenigwr ar fusnes na newyddiaduraeth i ganfod yr ateb. Bwriad syml y cwmni yw curo ymdrechion Golwg yn rhacs o safbwynt y defnydd o'r safle. O wneud hynny fe fyddai'r cwmni mewn sefyllfa gref i gystadlu yn erbyn Golwg am gymhorthdal ymhen tair blynedd neu i ofyn am gymhorthdal ychwanegol at yr hyn y mae Golwg yn cael cyn hynny.

Beth yw canlyniad hyn oll? Wel, am y tro cyntaf ers dyddiau "Y Dydd" a "Heddiw", "Y Cymro" a "Banner ac Amserau Cymru" fe fydd 'na gystadleuaeth go iawn ym myd newyddiaduraeth Cymraeg- ac mae hynny'n gythraul o beth da. Os na chyflawnodd "Y Byd" unrhyw beth arall roedd hwn yn rhywbeth oedd yn werth ei gyflawni.

Pwy sy'n debyg o ennill y frwydr felly? Am resymau amlwg fe wnâi eithrio "Cymru'r Byd" o'r ddadl- ond peidied neb a meddwl na fyddwn ni yn fan hyn yn cwffio'n galed!

Mantais fawr y Daily Post yw'r nifer sylweddol iawn o Gymry Gymraeg sy'n ymweld â gwefan Saesneg y papur. Mae'n haws perswadio rhywun i glicio trwodd i'r safle Cymraeg nac yw e i ddenu darllenwyr i safle newydd.

Ar y llaw arall mae gan Golwg dwy fantais. Yn gyntaf fe fydd y gwasanaeth yn un cenedlaethol. Fe fyddai' sefyllfa'r Daily Post yn gryfach pe bai'r Western Mail yn rhan o'r arbrawf ond mae anallu dau is-gwmni Cymreig Trinity Mirror i gydweithio yn ddiarhebol.

Mantais arail Golwg yw y bydd y cynnwys yn unigryw. Ar hyn o bryd cyfieithiad yw safle'r Daily Post yn y bôn. Hyd y gwelai i, dyw e ddim hyd yn oed yn cynnwys erthyglau unigryw Gymraeg atodiad "Yr Herald". Gallai hynny newid, wrth gwrs, ac mae angen hynny. Mae profiad "Cymru'r Byd" yn awgrymu bod 'na lawer mwy o ddarllen ar straeon ac erthyglau nad ydynt ar gael ar wefan Saesneg ´óÏó´«Ã½ Cymru nac ar y rheiny sydd ar gael yn y ddwy iaith.

I ofyn y cwestiwn eto- pwy sy'n debyg o ennill? Yr ateb i hynny, greda i, yw pob un ohonom sy'n darllen a defnyddio'r Gymraeg.

Uchel eu cloch

Vaughan Roderick | 12:13, Dydd Gwener, 5 Medi 2008

Sylwadau (0)

Pam ar y ddaear y mae pobol yn tanseilio eu dadleuon eu hun trwy ddweud pethau hurt?

Mae 'na ffrae leol ym Miwmares heddiw ar ôl i swyddogion iechyd amgylcheddol y cyngior rybuddio'r Eglwys i beidio chwarae'r clychau'n ormodol ar ôl i drigolion gwyno am y sŵn.

Nawr, fe fyddai'r rhan fwyaf ohonom, dw i'n amau, yn tueddu ochri a'r Eglwys. Mae clychau'r Llan wedi bod yn rhan o'n bywydau ers canrifoedd ac, o gymryd nad yw clychau Biwmares yn cael eu chware bob awr o'r dydd a'r nos, fe ddylid parhau a'r traddodiad.

Ond oedd angen i un o swyddogion yr Eglwys wneud y sylw yma- "if this lovely building served Mohammed, would the bureaucrats dare to seek to muzzle the Muezzin at the Mosque!"

Yr ateb syml i'r cwestiwn wrth gwrs yw y byddai'r swyddogion yn gweithredu yn yr amgylchiadau hynny. Mae'n ddyletswydd statudol arnyn nhw i wneud.

Nonsens pur yw awgrymu bod Mwslemiaid yn derbyn triniaeth fwy ffafriol na Christnogion yn y Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, nid cynrychiolwyr y ffydd Fwslimaidd sydd â hawl awtomatig i seddi yn Nhŷ'r Arglwyddi!

A hithau'n wythnos gyntaf Ramadan nid clychau Biwmares sydd angen eu tawelu!

Dim Croeso

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Gwener, 5 Medi 2008

Sylwadau (3)

Ydy "" wedi rhoi i fyny? Mae'n anodd peidio dod i'r casgliad hwnnw wrth ymweld â'i gwefan Cymraeg. Er bod yr hafan yn ddigon prydferth yr olwg does dim un o'r dolenni i adrannau eraill y gwefan yn gweithio

Cofiwch efallai bod hynny'n dda o beth o ystyried peth o'r nonsens sydd ar y safleoedd Saesneg.

Cymerwch, fel enghraifft, yr hyn y mae yn cael gwybod am hanes "the friendly, green, hilly bit on the western side of Britain".

Wel. yn 1066-77 fe sefydlodd y Normaniaid arglwyddiaethau ar ororau Cymru.

Yn ôl y gwefan ddigwyddodd ddim byd wedyn nes i Owain Glyndŵr wrthryfela yn 1400.

Nawr mae 'na rai degawdau ers fy nyddiau ysgol ond oni ddigwyddodd rhywbeth bach yn y 1280au- rhywbeth ynglŷn â choncwest a chestyll?

Roedd Glyndŵr, gyda llaw, yn ôl Croeso Cymru yn "charismatic but tyrannical". Nawr efallai fy mod yn dipyn o ramantydd J.E Lloydaidd ond ai lle swyddogion marchnata Llywodraeth y Cynulliad yw barnu bod arwr cenedlaethol Cymru yn deyrn?

Pwy ar y ddaear sy'n sgwennu'r stwff yma?

Efallai bod swyddogion Croeso Cymru yn teimlo nad oes 'na lawer o bwynt ceisio denu ymwelwyr gyda mis o law yn syrthio mewn diwrnod!

Y Peiriant Pres

Vaughan Roderick | 19:01, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Sylwadau (0)

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn faint o dreuliau y mae gweinidogion a dirprwy weinidogion wedi ei hawlio rhwng ers etholiad 2007.

Y dirprwy brif weinidog Ieuan Wyn Jones sydd ar frig y rhestr ar ôl hawlio £15,793. Mae'n debyg bod hynny'n cynnwys rhiw ddeng mil o bunnau'n ymwneud a hyrwyddo masnach mewn gwledydd tramor gyda rhiw dair mil yn mynd i bocedi Highland Airways am deithiau rhwng Y Fali a Chaerdydd.Rhodri Morgan (£11,702) yw'r nesaf ar y rhestr. Unwaith yn rhagor mae'n debyg mai teithiau i hyrwyddo masnach yw'r esboniad. Gwenda Thomas (£646) sydd wedi hawlio'r swm lleiaf.

Dwn i ddim beth oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl darganfod ond mae'n beth da bod y ffigyrau yn gyhoeddus- hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn ddigon rhesymol.

Pethau peryg

Vaughan Roderick | 18:05, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Sylwadau (1)

Peth peryg yw'r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yma. Efallai dylai rhywun rybuddio Syr Emyr!

Mae Llafur Cymru wedi dod ar draws y sylw yma ar dudalen "Facebook" Glenn Broadbent ymgeisydd Ceidwadol mewn isetholiad cyngor yn swydd Efrog.

"Proud to be English and sick of paying tax to support lazy people, imported spongers and subsidising the Scots and Welsh."

Efallai y dylen ni gyflwyno gwobr ddyddiol am ddweud pethau hurt ar wefannau. Gwobr Goffa Levi Johnson efallai?

Thanciw

Vaughan Roderick | 15:56, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Sylwadau (1)


Dw i newydd ddarganfod fy mod wedi ennill gwobor yng . Diolch yn fawr i chi gyd. Nawr dw i'n teimlo'n wirioneddol euog am beidio postio ym Mis Awst!

Fel arwydd o ddiolchgarwch ac edifeirwch dyma ambell i ddolen.

Yn gyntaf i Sarah Palin. Gan aros yn yr UDA mae yn safle gwych i gadw llygaid ar yr arolygon barn.

Mae ein cyfeillion yn ´óÏó´«Ã½ Alba yn paratoi i lansio'r sianel deledu ar yr ugeinfed o fedi. Gellir cael rhagflas ar Sianel 169 ar Sky rhwng wyth a deg bob nos.

Mae Andy Bell sy'n gohebu'n achlysurol o Awstralia i Radio Cymru ac S4C wedi cychwyn sioi newydd ar orsaf radio yn Melbourne. Mae'n cynnwys peth cerddoriaeth Cymraeg ar ei raglen sydd i glywed (yn y wlad hon) rhwng 12 a 2 ar brynhawniau Sadwrn.

..

TC

Vaughan Roderick | 13:38, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Sylwadau (0)

Diolch byth am David TC Davies. Fe fyddai heddiw wedi bod yn dawel hebddo fe! Mae gan rai o staff y cynulliad ormod o amser ar eu dwylo. Mae hwn newydd ein cyrraedd;

Top Cat!
The indisputable leader of the gang.
He's the boss, he's a pip, he's the championship.
He's the most tip top,
Top Cat.
Yes he's a chief, he's a king,
But above everything,
He's the most tip top...
leader of the No Campaign.

O Na!

Vaughan Roderick | 11:21, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Sylwadau (3)

Dyw penderfyniad aelod seneddol Mynwy David Davies i lansio ymgyrch yn erbyn cynyddu pwerau'r Cynulliad ddim wedi achosi rhiw lawer o syndod yn y bae. Mae safbwyntiau David (a'r ddau aelod seneddol Ceidwadol arall o Gymru o ran hynny) yn ddigon adnabyddus. Yr hyn sydd yn rhyfedd efallai yw'r amseriad- o gofio nad yw canlyniadau adolygiad Wyn Roberts o bolisi datganoli'r blaid eto wedi eu cyhoeddi.

Mewn un ystyr dyw cynlluniau David ddim yn broblem i'r Blaid Geidwadol. Mae hi wedi bod yn hysbys ers tro y byddai'r blaid yn caniatáu i'w haelodau ymgyrchu i'r naill ochr neu'r llall mewn refferendwm. Mae 'na hen ddigon o Dorïaid fyddai'n gweithio'n egniol dros bleidlais Ie gan gynnwys bron pob un o'r aelodau cynulliad ynghyd a nifer o ddarpar ymgeiswyr sy'n debygol o fod yn aelodau seneddol ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae'n bosib dadlau bod cyhoeddiad David Davies yn fwy o broblem i wrthwynebwyr rhagor o ddatganoli nac yw e o fendith. Yn y ddau refferendwm blaenorol prif broblem yr ymgyrchoedd "Na" oedd amharodrwydd ffigyrau blaenllaw yn y Blaid Lafur i gydweithio a'r Ceidwadwyr.

Yn 1979 roedd 'na ddwy ymgyrch "Na"- un yn cynnwys aelodau o'r Blaid Lafur ac un i bawb arall. Yn 1997 er mai Ceidwadwyr oedd y rhan fwyaf o weithwyr yr ymgyrch "Na" defnyddiwyd wynebau newydd fel arweinwyr. Yn eironig ddigon Nick Bourne a David Davies oedd dau o'r wynebau hynny. Serch hynny, ac eithrio llond dwrn o bobol (gan gynnwys y fythgofiadwy Carys Pugh) prin oedd yr aelodau Llafur oedd yn fodlon cysylltu eu hun a'r ymgyrch yn gyhoeddus.

Nawr efallai fy mod yn anghywir yn hyn o beth ond mae'n anodd credu y byddai unrhyw wleidydd Llafur o bwys yn fodlon cysylltu ei hun ac ymgyrch oedd wedi ei sefydlu gan Geidwadwr- yn enwedig Ceidwadwr o stamp David Davies.

Gallai hynny fod yn broblem enfawr i wrthwynebwyr rhagor o ddatganoli yn y refferendwm nesaf oherwydd y bydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal o dan amodau'r "Political Parties, Elections and Referendums Act (2000)". Mae'r ddeddf honno yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol rhoi cymorth i ymgyrchoedd "Ie" ac "Na" mewn refferendwm- ond dim ond i un ymgyrch "Ie" ac un ymgyrch "Na". Er mwyn derbyn y cymorth hynny mae'n rhaid i ymgyrch brofi ei fod yn cynrychioli ystod eang o'r rheiny sydd yn ceisio sicrhâi'r naill ganlyniad neu'r llall.

Mae'n ddigon posib y bydd penderfyniad David Davies i geisio sefydlu grŵp ar ei liwt ei hun yn fwy o rwystr nac o gymorth wrth geisio sefydlu ymgyrch "Na" unedig. Oni fyddai'n gallach i ddisgwyl i Lafurwr amlwg (rhywun o'r enw "Kinnock" efallai) i wneud y symudiad cyntaf?

Os mêts, mêts

Vaughan Roderick | 16:59, Dydd Mawrth, 2 Medi 2008

Sylwadau (1)

Ydych chi'n ffrind i Syr Emyr? Mae angen cyfeillion arno.

Wrth drafod gwaith Confensiwn Cymru Gyfan heddiw broliodd Syr Emyr Jones Parry am lwyddiant safle'r confensiwn ar Facebook. Roedd y safle wedi denu cyfranwyr annisgwyl, meddai, gan gynnwys gŵr busnes o Efrog Newydd.

Faint o gyfeillion sydd gan Syr Emyr felly?

Wel, dim cymaint a'r 1,517,947 sy'n ffrindiau a Barak Obama. Llai hefyd na'r 88,220 o bobol sy'n sgwrsio am "Doctor Who". Yn anffodus mae safle Syr Emyr yn llai poblogaidd na rhai "Only Men Aloud" (2,061) ac Ysgol Glanaethwy (1,360).

Faint o gyfeillion sydd gan Syr Emyr felly?

226.

Helo

Vaughan Roderick | 12:02, Dydd Mawrth, 2 Medi 2008

Sylwadau (4)

Hirfelyn tesog? Go brin. Mae'r hynny o haf a gafwyd yn 2008 ar ben a'r Senedd a ThÅ· Hywel yn dechrau bywiogi.

Os ydych chi'n dyfalu am y diffyg diweddaru ar y blog -y gwir amdani oedd fy mod wedi fy nharo'n wael ar ddydd Mercher yr Eisteddfod. Mae'n gythraul o beth. Am y tro cyntaf (ac am wn i'r unig dro) yn fy mywyd roedd yr Eisteddfod o fewn cerdded i fy nghartref -a minnau'n gorfod gwylio'r brifwyl (a'r gemau Olympaidd o ran hynny) o fy ngwely.

Ta beth, dw i ddim yn credu fy mod wedi colli llawer. Straeon gwaelod y gasgen sydd wedi bod yn llenwi'r papurau a safleoedd newyddion Cymreig yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae pethau'n wahanol iawn yn San Steffan, yr Alban a'r Unol Daleithiau. Fel tamaid i aros pryd felly dyma ychydig i ddanteithion o'r tu hwnt i Gymru.

Dw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi gweld gwleidydd yn edrych mor anghyffyrddus mewn cyfweliad a'r canghellor wrth iddo gael ei holi gan fy nghyfaill Brian Tailor. Nid ei sylwadau dadleuol ynglŷn â'r economi oedd problem Alistair Darling ond yr honiad ei fod wedi awgrymu nad yw cyn-arweinydd Llafur yr Alban yn berson hoffus. Gellir gweld y cyfweliad yn

Yn yr Unol Daleithiau dewis John McCain fel Dirprwy Arlywydd sydd wedi corddi'r dyfroedd. Mae'n ymddangos bod Sarah Palin yn wynebu amryw drafferthion. Un sy ddim wedi cael llawer o sylw hyd yma yw'r honiad yn y ei bod hi'n gyn-aelod o'r "". Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n ymwybodol o fodolaeth "pleidiau cenedlaethol" o fewn yr UDA ond mae'n anodd credu bod cefnogi annibyniaeth i un o'r taleithiau o gymorth i wleidydd mewn gwlad lle mae gwladgarwch mor bwysig!

.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.