Un o'r chwaraewyr talentog hynny sydd yn gwneud enw iddo'i hun ac ynte dim ond yn ddwy ar bymtheg oed yw Lee Williams o Bentyberem. I ddweud y gwir cymaint yw'r galw am ei ddawn ar y cae rygbi prin iawn yw ei amser sb芒r. Mae Lee yn aelod o garfan 'elite' Cymru. Carfan yw hon sydd yn adnabod talent arbennig ar y cae rygbi ac yn rhoi help a chefnogaeth arbennig iddynt trwy roi'r cyfle gorau posib iddyn nhw i gyrraedd y brig. Ond nid yr elite' yn unig sydd angen Lee i roi ei amser prin i, o na mae yn aelod o d卯m h欧n Ysgol Maes Yr Yrfa, t卯m ieuenctid Pontyberem a charfan dan 18 oed rhanbarthol Llanelli. Mae'r hyn oll yn golygu fod Lee yn gorfod ymarfer o leiaf saith gwaith yr wythnos a dwy waith y dydd ar ambell ddiwrnod. Ond mae un peth yn bendant, bydd hyn yn si诺r o dalu ffordd i'r crwtyn ifanc talentog a chwrtais yma. Pob lwc yn y dyfodol. Nigel Owens Dyma atebion Lee Williams i holiadur Papur Y Cwm : Enw: Lee Williams, Pontyberem Dyddiad a man geni: 27-10-86, yn y car ar y ffordd i Glangwili Lle cawsoch eich magu: Pontyberem Hoff Chwaraeon: Rygbi a Ph锚l-droed Addysg: Ysgol Gynradd Pontyberem ac Ysgol Gyfun Maes Yr Yrfa Cefndir personol: Mae gen i un brawd h欧n, Adrian, ag enw'n fam yw Maggs a 'nhad Huw Hoff Gerddoriaeth: Tamaid bath o bopeth Hoff berson: Alan Smith a Shane Williams Hoff d卯m rygbi a ph锚l-droed: Llanelli a Leeds United Caru: Na, neb ar hyn o bryd Hoff Raglen Teledu: Hoff o wylio 'Neighbours', 'Home and Away', 'Eastenders' a 'Premiership' Hoff Ffilm: Remember The Titans Hoff Fwyd: Pasta a Chyw I芒r Cas Bethau: Pobl sydd ddim yn hoff o'r Nadolig a chwaraeon Hoff Bethau: Chwaraeon wrth gwrs a gwylio ffilmiau a chwarae 'Play Station 2' Diddordebau: Hoff o chwarae p锚l-droed, 'Play Station 2' a mynd allan efo ffrindiau Eiliadau gorau eich bywyd: Cael fy newis i chwarae i d卯m rygbi ysgolion Cymru o dan 16 oed ac ennill 4 cap a sgorio dau gais yn erbyn Lloegr a'r Eidal Eiliadau gwaetha' eich bywyd: Colli yn erbyn Lloegr yn y g锚m i ffwrdd yn Plymouth Uchelgais ym myd chwaraeon: Chwarae rygbi yn broffesiynol a chael fy newis i chwarae dros fy ngwlad Uchelgais Bywyd: Cwblhau fy addysg lefel A yn llwyddiannus a mynd i ddilyn cwrs yn UWIC Caerdydd Pentref y Cwm yr hoffech fyw ynddo: Pontyberem Pwy yw eich ffrind / ffrindiau gorau: Bois rygbi t卯mau ieuenctid Pontyberem a Maes Yr Yrfa Beth yw eich barn chi ar eich hoff chwaraeon: Fe ddyle fod mwy o amser i chwaraeon ar Gwricwlwm yr Ysgol ond eto rhaid cofio bod astudio yn bwysig. A ydych yn prynu Papur Y Cwm?: Ambell Waith
|