Ar ddydd Sadwrn, Mai 10fed, aeth criw o gerddwyr o Gwm Gwendraeth ar Daith Goffa Dilwyn Roberts sydd yn rhan o 诺yl y Gwendraeth. Cyfarfu 31 o bobl yn y safle picnic ar Fynydd Penbre uwchben Trimsaran.
Roedd y daith rhyw saith i wyth milltir ar hyd lonydd a 1lwybrau'r ardal. Gydag ychydig o ddringo yn ystod y bore a'r prynhawn cafodd y cerddwyr fwynhau'r panorama godidog o Gwm Gwendraeth a golygfeydd o Fae Caerfyrddin a G诺yr.
Roedd pawb wedi mwynhau'r hanes a gawsant ar hyd y daith. Hoffem ddiolch i bawb a fu ar y daith ac i'r trefnwyr.
|