大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Decharu gorymdaith Cynrychiolwyr y Gwledydd Celtaidd yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Nghilkenny Taith Cantorion y Rhyd i Cil Channaigh
Mehefin 2002
Ar 么l y Pasg, aeth aelodau o Gantorion y Rhyd a ieuenctid Cantorion y Winllan i'r Wyl Ban Geltaidd.
Gwyl yw hon sy'n rhoi cyfle i'r Gwledydd Celtaidd - yr Alban, Ynys Manaw, Cymru, Yr Iwerddon, Cernyw a Llydaw i ddod at ei gilydd i gystadlu a mwynhau'r awyrgylch Geltaidd amlddiwylliannol ac amlieithog.

Yn y gorffennol mae'r wyl wedi cael ei chynnal mewn amryw o drefi yn Iwerddon fel Galway, Ennis, Killarney neu Tralee. Ond eleni cafodd ei chynnal yng Nghil Channaigh.

Noson agoriadol mewn castell
Cafodd noson agoriadol yr wyl ei chynnal yng nghastell Cil Channaigh ac yn nes ymlaen yn yr wythnos, cafwyd gorymdaith o gynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd trwy ganol y ddinas, gyda chorau o Gymru, dawnswyr o Gymru a'r Alban, ac offerynwyr o Iwerddon.

Gyda'r nos cafwyd cyngherddau anffurfiol gydag offerynwyr o Iwerddon ac acordwyr piano o'r Alban mewn sawl tafarn leol, a chafwyd diferyn neu ddau o Ginis yn y fargen.

Yn y gystadleuaeth C芒n Pan Geltaidd daeth Elin Fflur, enillydd C芒n i Gymru, yn fuddugol gyda'r g芒n Harbwr Diogel gyda chystadleuydd Cernyw yn dynn wrth ei sodlau.

Cyngerdd mawreddog
Nos Wener, cafodd Cantorion y Rhyd gyfle i ganu mewn cyngerdd mawreddog yng Nghadeirlan St. Candice. St. Candice ywr Eglwys fwyaf yn Iwerddon, gyda'r acwstics gorau yn Ewrop . Yn dilyn hyn aeth y c么r i berfformio yng nghyngerdd Noson y Cymru yn un o westai'r ddinas. Un o uchafbwyntiau'r noson oedd i Jac a Catrin ganu hen g芒n werin gyda'i gilydd.

Y dydd Sadwrn canlynol bu'r c么r yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Gorawl y Corau Gwledig. Ar 么l diwrnod o gystadlu, daeth y c么r yn ail y ddwy g芒n oedd Gwanwyn Deyrn Llon a Cennin Aur.

Braf yw gallu dweud i'r daith fod yn llwyddiant ysgubol gan ei bod yn gyfrwng i dynnu pawb at ei gilydd. Cafodd ieuenctid Cantorion y Winllan gyfle i fwynhau eu hunain. Diolch i bawb a weithiodd i sicrhau cydweithrediad a llwyddiant y daith.

Edrychwn ymlaen yn awr at gystadlu yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi ac am y daith i'r Amerig y Pasg nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy