大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Y criw Dod 芒'r West End i Bontyberem
Ebrill 2007
Nos Wener, Ebrill 20fed bydd holl glitz a glamour llwyfannau Llundain yn cyrraedd Neuadd Pontyberem.

Mae cwmni enwog a thalentog 'First Night' wedi cytuno i gynnal noson yn y Neuadd ac mae'n argoeli i fod yn noson wych.

Gr诺p cabaret o ardal Llundain yw `First Night' sy'n arbenigo mewn canu close harmony, ac fe fydd y noson yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd y West End yn ogystal 芒 musicals Hollywood a jazz a pheth opera yn ogystal.

Mae'r artistiaid sy'n perthyn i'r cwmni yn perfformio ar hyn o bryd ar lwyfannau'r West End yn Llundain mewn sioeau fel Les Miserables, Cats. Phantom of the Opera, Sunset Boulevard a Beauty and the Beast. Mae rhai o'r cwmni wedi bod yn gweithio ac yn perfformio gyda chwmn茂au operatig ar draws y byd.

Ym Mhontyberem bydd y cwmni yn perfformio eu sioe llawn, sef First night on Broadway. Byddant yn perfformio `medleys' o'r sioeau mawr fel Les Miserables a Miss Saigon, The King and I, a llawer mwy ynghyd 芒 chaneuon ar them芒u arbennig.

Mae'r caneuon wedi eu trefnu yn benodol ar gyfer `First Night' gan Simon Gray, cyfarwyddwr cerddorol y cwmni ac yn ogystal a'u clywed yn fyw ar y noson fe fyddant yn gwerthu cop茂au o'u CD diweddaraf hefyd.

Cysylltiad 芒'r Cwm
Mae yna gysylltiad 芒'r Cwm gan fod merch yng nghyfraith Gwilym a Hefina Davies, Cysgod y Dderwen, Capel Scion, sef Paula Scott, wedi bod yn aelod o'r gr诺p am sawl blwyddyn. Er fod Paula erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda Chwmni Opera Cymru, fe fydd hi yn ymuno 芒'r cwmni unwaith eto ar y noson fel gwestai arbennig.

Mae'n argoeli i fod yn noson fawreddog yn Neuadd Pontyberem a phobl eisoes yn gofyn am docynnau. Mae'r tocynnau ar werth yn Neuadd Pontyberem a thrwy Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth. Pris y tocyn yw 拢7 gyda gostyngiad i blant a'r henoed. Fe fydd y Neuadd yn si诺r o fod yn llawn felly peidiwch a chael eich siomi - archebwch eich tocynnau yn awr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy