大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
T卯m rygbi g锚m gyntaf clwb Rygbi Mynydd y Garreg yn erbyn Crymych, Medi 1985 Y Clwb Rygbi yn Ugain Oed
Rhagfyr 05/ Ionawr 2006
Roedd Clwb Rygbi Mynydd-y-garreg yn dathlu ei ugeinfed pen blwydd yn 2005.

Mae'r clwb wedi gweld llawer o newidiaeth ar hyd y cyfnod. Breuddwyd oedd y clwb rygbi i un chwaraewr sef Michael Thomas, ac ef aeth o amgylch y pentre yn cnocio ar ddrysau i ofyn am chwaraewyr ac yn y blaen. Nid oedd gan y clwb ar y dechrau, ddim adnoddau, dim lle i chwarae, dim `kit' ac wrth gwrs dim arian. Cafwyd cyfarfod yn Neuadd Mynydd-y-garreg a daeth llawer ynghyd i ddechrau clwb ym mis Mai 1985.

Bu Clwb Rygbi Pontiets yn garedig iawn drwy ganiatau i'r gemau 'cartref' gael eu Symudwyd ymlaen i gael 'pencadlys' yn Nhafarn y 'Prince of Wales' ym Mynydd-y-garreg ac yno bu'r cyfarfodydd am beth amser. Yna drwy haelioni y Llywydd, Cyril Williams, cafwyd 'portocabins' a phrynwyd cae ym Mharc Gwenllian a dyna ddechrau addawol. Doedd yna ddim trydan a phrynwyd generodwr i gyflenwi trydan. Mae rhai yn y clwb heddiw sydd 芒'r ddawn i droi olwyn dechrau'r ' genny' ! !

Drwy gynnal cyfarfodydd codi arian, haelioni ffrindiau a noddwyr cafwyd trydan i'r cae a'r adeiladau. Gweithiwyd yn ddygn iawn gan fand o wirfoddolwyr a gwelwyd y ffordd yn glir i gael cawodydd ac ystafelloedd newid i wneud bywyd y chwaraewyr brwd yn fwy boddhaol. Y prif weithredwr yn y cynllun hwn oedd aelod oes, Arthur Lewis, ac iddo ef a'i griw o wirfoddolwyr mae diolch mawr. Aeth y clwb ymlaen o nerth i nerth ac o'r diwedd cafwyd gwared ar y portocabins', oedd wedi gwneud gwasanaeth da iawn a phenderfynwyd adeiladu Clwb newydd a chegin ac ystafell pwysau. Arthur Lewis oedd y 'clerk of the works' eto!

Mae pob gwasanaeth yn y Clwb yn cael ei wneud yn wirfoddol a dyna yn bennaf sy'n gyfrifol am lwyddiant y Clwb. Mae rhai chwaraewyr yn chwarae hyd heddiw ac mae pawb fel un teulu mawr.

Mae llawer iawn a allai gael eu henwi ond y trwbwl yw ofn gadael rhywun allan yn anfwriadol. Ar y cae chwarae lan a lawr yw'r hanes. Maent wedi cael anrhydeddau lawer a llawer iawn o bosibl i ddod eto. Cadw gyda'n gilydd yw prif nod y clwb a chadw'n hapus.

Llywydd - Cyril Williams
Cadeirydd - Wyn Smith
Aelodau Oes - Ray Gravell, Arthur Lewis, Fred Smith
Ysgrifennydd Gemau - Huw Walters
Trysorydd- Mike Baxter
Ysgrifenyddes - Eirlys Evans


Cyfrannwch

Byd o Bant, Gwlad Gatre
Dewch mlaen bois mynydd y garreg!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy