大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Eifion Roberts Anrhydeddu Eifion
Tachwedd 2008
Mae'r cyn-gynghorydd lleol Eifion Roberts wedi cael ei anrhydeddu mewn noson arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru.

Cafwyd seremoni arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth ar 12 Medi i ddiolch i un o gyn-gynghorwyr Cymuned Cwm Gwendraeth am ei wasanaeth i'w gymuned ac i'r Blaid.

O flaen neuadd lawn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, cyflwynodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, dystysgrif Gwobr Cyfraniad Arbennig i Eifion Roberts, Bancffosfelen i gydnabod 34 mlynedd o wasanaeth di-dor ar Gyngor Cymuned Llangyndeyrn. Yng Ngwanwyn 1974 enillodd Eifion Roberts sedd ar hen Gyngor Plwyf Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, mewn is-etholiad - y person cyntaf i ennill sedd yn enw Plaid Cymru ar y Cyngor yma. Dyna ddechrau'r chwyldroad sydd wedi gweld y Blaid yn tyfu yng Nghwm Gwendraeth ac erbyn hyn wedi cipio pob un o'r 14 sedd ar y Cyngor yma ers 2004. Llwyddodd Eifion i gadw ei sedd drwy gydol y 34 mlynedd ddilynol nes iddo benderfynu eleni ei fod yn dymuno ymddeol oherwydd dirywiad yn ei iechyd.

Talodd Adam Price deyrnged gynnes a diffuant iawn i Eifion, un o gymeriadau mawr y Cwm, gan gydnabod ei gyfraniad mawr nid yn unig i'w filltir sgw芒r ond i achos y Blaid yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

Yn gynharach eleni, cafodd Cyngor Cymuned Llangyndeyrn gyfle i gydnabod gwasanaeth Eifion mewn cinio arbennig ble y cyflwynwyd pl芒t arbennig iddo. Yn y cinio, darllenwyd dau ddarn o farddoniaeth gan feirdd lleol, Heddwyn Jones a Llyr Iwan Evans.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy