Daeth llawer ynghyd i gymeryd rhan ar y noson. Cymerodd Mrs. Hazel Charles Evans y rhannau arweiniol sef y croesawu a rhoi trefniadau 'r noson ger bron y gynulleidfa. Roedd naws hapus a chyfeillgar i'r noson a phawb yn cymeryd diddordeb yn y gweithgareddau. Bu Elen Davies a Donald Williams yn dangos sleidiau ar Batagonia a gwerthfawrogwyd eu gwaith yn fawr iawn. Bu Tito Lewis a'r Dr. Dafydd Lloyd yn egluro ac yn arddangos yr eitemau ar y byrddau a bu Gareth Jones o Lyfrgell Rhydaman yn arddangos bwrdd llyfrau am hanes yr Ariannin. Dangosodd Hazel stori ddigidol o'r enw 'Brics i Batagonia' a gafodd ei gwneud yn arbennig i'r 大象传媒 a bydd y stori hon ar y We yn y dyfodol. (ar safle yma - Cipolwg ar Gymru) Daeth y noson i ben gyda chanu emynau yn yr iaith Sbaeneg a thiwtor y dosbarth, Mr. Steve Morris yn arwain y canu gyda Mrs. Sheila Evans, aelod o'r dosbarth Sbaeneg, yn cyfeilio. Bu'r raffl yn llwyddiannus iawn yn nwylo Colin Smith a Berwyn Hughes. Daeth noson hyfryd i ben a'r gwmn茂aeth yn fendigedig. Hoffai aelodau'r Dosbarth ddiolch i'r prif noddwyr Mr. R. W. Evans, Mr. Tom Gravell a Mr. David Gravell, Mr. Bill Hughes a Menter Cwm Gwendraeth am eu haelioni. Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd wobrau at y raffl am eu caredigrwydd. Codwyd y swm anrhydeddus o 拢750 tuag at ddefnydd Canolfan Gymraeg Esquel - yn yr Andes.
|