大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Ray Gravell gyda disgyblion Ysgol Carwe Brecwasta
Chwefror 2007
Trefnwyd wythnos Brecwast Ewropeaidd yn Ysgol Carwe er mwyn hybu clwb brecwast yr ysgol yn ogystal 芒 chynyddu gwybodaeth y disgyblion am y dimensiwn Ewropeaidd.
Derbyniodd pob disgybl basbort i fynychu'r wythnos, ac ychwanegwyd stamp newydd pob diwrnod i gynrychioli'r gwledydd gwahanol. Cafwyd hwyl ar y dydd Llun wrth i'r plant gael eu cyfarch gyda neuadd yn llawn o wrthrychau Ffrengig. Yn y cefndir roedd cerddoriaeth 'cafe' yn chwarae'n dawel ac arogl croissants cynnes yn llenwi'r aer. Ar 么l gwers Ffrangeg a chanu nifer o ganeuon syml, cynyddwyd ymwybyddiaeth y plant yn fawr iawn.

Ray Gravell oedd yno i gwrdd 芒'r plant ar y dydd Mawrth. Roedd wrthi'n cyflwyno'i raglen frecwast ar Radio Cymru, tra roedd y selsig Gwyddelig yn coginio. Daeth tad un o blant yr ysgol (Gwyddel yn wreiddiol) i siarad 芒'r plant. Bu llawer o holi prysur am fara soda ac am gacennau tatws. Ar 么l y brecwast aeth y plant i sgwrsio 芒 phlant Iwerddon trwy ddefnyddio system `First Class'. Trefnwyd y sgwrs yn dilyn ymweliad gan aelodau o staff yr ysgol 芒'r Iwerddon er mwyn creu cysylltiadau gydag ysgol yn Nulyn. Bu llawer o chwerthin wrth i blant Carwe holi'r plant am eu gwlad ac ateb cwestiynau ar Gymru.

Gwelwyd baneri'r Almaen yn hedfan ar y dydd Mercher wrth i'r plant gael cyfle i flasu brecwast traddodiadol Almaenig. Cig wedi'i sychu, bara a jam oedd ar y fwydlen. Daeth Haika Griffiths (Almaenes leol) i siarad 芒'r plant am fwyd, pobl ac ysgolion yr Almaen.

Gorffennwyd yr wythnos ar y dydd Iau gyda (yn 么l rhai o'r plant) brecwast gorau'r wythnos - brechdan bacwn i gynrychioli Denmarc. Cafodd y plant hwyl a sbri wrth greu modeli allan o Lego. Efelychwyd gweithgaredd `First Class' ddydd Mawrth hefyd ond gyda phlant Denmarc y tro hwn. Eglurodd disgyblion Ysgol Carwe i blant Denmarc eu bod yn hoff iawn o frechdanau bacwn a chytunodd y Daniaid.

Ar 么l wythnos lwyddiannus, roedd dealltwriaeth y plant wedi ei ddatblygu, ac roedd llawer o ddisgyblion yn holi pryd oedd yr wythnos nesaf o'i thebyg. Profodd rhai o'r plant fwyd nad oeddynt erioed wedi ei flasu (ac yn 么l rhai - ar 么l blasu'r cig wedi'i sychu, byth eisiau ei flasu `to!)

Creodd plant yr ysgol gysylltiadau 芒 phlant Iwerddon a phlant Denmarc, ac maent yn edrych 'mlaen i gynnal 'sgwrs' eto yn fuan. Mae cardiau Nadolig oddi wrth y plant yn gweithio'u ffordd i'r Iwerddon ac i Ddenmarc, ac mae'n wir i ddweud mai nid dim ond y parsel gwreiddiol fydd yn cael ei basio o hyn ymlaen, ond digonedd o lythyron, gwaith, dymuniadau, a phrofiadau gwerthfawr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy