大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Capel y Soar Dathlu Canmlwyddiant Soar
Mawrth 2004
Hanes dathlu canmlwyddiant Capel Soar, Pontyberem.
Ddydd Iau, 15fed Ionawr, 2004, cafwyd rhagflas o ddathliadau canmlwyddiant arfaethedig Eglwys Bresbyteraidd Soar, Pontyberem mewn cyfweliad ar y radio rhwng Ray Gravell a chynrychiolaeth o'r blaenoriaid, Mrs. Bet Ambrose, Mrs. Mair Harris, Mr. Eirwyn Evans a Mr. Arthur Rees.

Ddydd Sul, y 18fed- cychwynnodd ein dathliadau gydag oedfa ddiolch yn y prynhawn, dan lywyddiaeth y Parchedig Roydn Thomas un o blant yr eglwys, godwyd i'r weinidogaeth dan y Parchedig Haydn O. John. Wedi i Mrs. Joy Williams, yr Ysgrifennydd, olrhain hanes yr achos, cafwyd cyfarchion ar ran Henaduriaeth De Myrddin gan y Parchedig Eifion Roberts a'r Parchedig D. J. Jones, ar ran Dosbarth Llanddarog gan Mr. Omri Griffiths, ar ran Tabernacl, Pontiets gan Mrs Helen Jones ac ar ran Salem, Llangyndeyrn gan Mr. Arwyn Richards. Yn dilyn gweinyddwyd defod y cymun gan y Parchedig Roydn Thomas.

Croesawyd pawb ir Festri wedyn i brofi'r danteithion baratowyd gan y Chwiorydd, a thorrodd ein blaenor hynaf, Mr. A. J. Walters, gacen y dathlu, o waith Mrs. Eryl Harries. Cafwyd cyfle hefyd i gael cipolwg ar gasgliad o hen luniau gofnodai gan mlynedd o weithgarwch yn gysylltiedig 芒 Soar.

Yn yr hwyr cynhaliwyd noson o fawl, Mr. Peter Harries yn llywyddu, Mr. ldris Jones yn arwain y canu a Mrs. Sheila Evans wrth yr organ. Cafwyd eitemau hyfryd gan ein hartistiaid gwadd, Mr. John Davies o Landyb茂e, 芒'r llais tenor swynol, a Ch么r Glannau'r Gwendraeth, dan arweinyddiaeth Mrs. Morgan, sydd wastad mor barod i rannu'u doniau amrywiol 芒 chymdeithasau'r ardal.

Diolch i Mr. Geraint Rees, cyfeilydd swyddogol amryddawn y c么r, am gyfeilio i Mr. John Davies yn ogystal.

Yn glo ar ein dathliadau nos Fawrth, 20fed Ionawr, yn y Festri cynhaliwyd Sioe Sleidiau dan ofal Mr. D Williams. Llywyddwyd y noson gan Mrs. Bet Ambrose, hithau'n weddw'r John Ambrose, gweinidog diwethaf Soar a thrwy gyfrwng llun a chofnod cafwyd cyfle i ail fyw amrywiol atgofion a phrofiadau a gweld wynebau cyfarwydd ac anghyfarwydd, annatod glwm wrth ein hymwybyddiaeth o Soar.

Ymwelodd dau westai annisgwyl 芒 ni yn ystod y noson Mr. Richard a Mrs. Bethan Thomas, yn ddau yn ffermio yn Llancwm Pontantwn, ac yn rhieni i ddau blentyn, Iwan a Nia. Mae Bethan yn ddisgynnydd i William Williams Pantycelyn yn perthyn i seithfed genhedlaeth teulu'r P锚r Ganiedydd. Rhannodd ei hatgofion 芒 ni drwy gyfrwng cyfweliad cartrefol Mrs. Mair Harries, hithau'n ferch i gyn-weinidoa Soar, y Parchedig Huw Edwards.

Yn naturiol. ac ddigon, cwmpaswyd bron dair canrif o Methodistaidd yng nghysylltiadaur tair gwraig. Mrs Bethan Thomas, Mrs. Mair Harris a Mrs. Bet Ambrose. Yn gwbl draddodiadol, uwchben cwpanaid o de a chacen pellach i sgwrsio a hel mwy o atgofion.

Dymuna aelodau Soar ddiolch yn ddidwyll i bawb gefnogodd ddathliadau'u canmlwyddiant a'u gwneud yn rhai cofiadwy.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy