大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Pentref Cefneithin heddiw Fy Mamgu a'i chyfoedion
Mai 2003
Yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau y 19eg ganrif fe drigai gwr o'r enw William Williams mewn bwthyn o'r enw Lowland ar Gefneithin, ger Cross Hands ...
Gwr galluog a dysgedig ydoedd, ac yn amlwg mewn llawer cylch yn ardal y Mynydd Mawr (fel y gelwid y cylch yr adeg honno). Yr oedd yn wr cefnog, yn dirfeddiannwr helaeth - ef oedd perchennog Rhyd Maerdy, Heol Ddu etc. ac yr oedd yn ysgolfeistr mewn ysgol berthynol i eglwys y plwyf Llanarthneu, lle'r oedd yn aelod. Ganed iddo ef a'i wraig naw o blant, sef tri mab a chwech o ferched. Bu farw'r bechgyn yn eu babandod, ond cafodd y rhan fwyaf o'r merched fyw hyd oedran teg, gan ymsefydlu yn y cylch, ac y mae eu hiliogaeth yn lluosog yn yr ardal hyd heddiw.

Plant un o'r merched oedd William George, Heol Ddu (diacon yn Nhabernacl, Cefneithin am flynyddoedd,) a'i frawd Arthur George, a'i chwaer, sef Neli, Blaenhirwaun - mam Mrs. Mary Evans, Llwyn Bychod- a gladdwyd tua dwy flynedd yn 么l. Wyres iddynt oedd priod Mr David Jones, gwr adnabyddus yn ardal Llanlluan flynyddoedd yn 么l. Mab yng nghyfraith i'r hen ysgolfeistr oedd George Jones a fu'n flaenllaw yn agoriad glofa gyntaf Cross Hands; bu ar 么l hynny yn gysylltiedig 芒 Gwaith Olew Pontaman.

Y mae Mr. Arthur Williams, syn trigo gerllawr Neuadd Gyhoeddus, Cross Hands yn or-wyr iddo, ac yn yr un llinach gellir enwi Mr. Arthur Thomas- atalbwyswr, Tymbl; Mr D. Stephens, Capel Llanlluan- Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin eleni; Mr Emrys Jones, ysgolfeistr ym Maesybont, ac ysgrifennydd Bethania, Tymbl a Mr Jenkins Jones, bar-gyfreithiwr, Abertawe.

Yr ieuengaf ond un o blant y Lowland oedd Neli, a anwyd yn 1805. Gan fod ei thad yn ysgolfeistr , y mae'n dra thebyg iddi gael mwy o addysg na'r cyffredin yn yr oes honno, ac fe brofwyd hynny gan lawer a ddaeth i gysylltiad 芒 hi yn ystod ei gyrfa faith. Hydref 5ed, 1827 (yn Eglwys Llanarthneu) hi ymbriododd 芒 David Emmanuel, Cwm Mwyn, gerllaw Gorslas y curad, y Parch. Herbert Williams yn gwasanaethu.

Yn yr un eglwys hefyd y priodwyd tri o frodyr David Emmanuel. Ymbriododd John Emmanuel 芒 Margaret Lewis yn 1823; dyma dad-cu a mam-gu Mr Oliver Emmanuel, Post Office, Caerbryn, a'i frawd y Parch T. H. Emmanuel, Dorset; David Emmanuel, ysgolfeistr yn Llundain, a Joseph John Emmanuel, Pontardawe cyn-ysgrifennydd y Tabernacl. Y peth nesaf o'r teulu a welais yng nghofrestri'r eglwys ydyw priodas Philip Emmanuel 芒 Mary Williams. Bu ef farw'n ifanc ac wele'r arysgrif sydd ar ei garreg fedd :

Sacred to the Memory of Philip Emmanuel, Cwmmwyn,
Who died April 6, 1829. Aged 39 years.

Ffarwel Briod, ffarwel ffrindiau,
Yn ebrwydd daeth yr angau du
Lawr yn nyfnder daear obry
Aeth i bant 芒m heinioes i.

Yn yr un eglwys y priodwyd Walter Emmanuel ag Eleanor Davies, a threuliasant eu bywyd yn y Tynewydd (rhwng Gorslas a Cross Hands). Dyma rieni Hannah, priod Daniel Aubrey hen gymeriad gwreiddiol, ill dau yn aelodau gyda'r Methodistiaid ym Mhenygroes yn nyddiau cynnar yr eglwys, ac yn y fynwent honno y claddwyd hwynt. Wyr iddynt oedd John Davies, Blaen Cwm Mwyn, sef tad Mr. David Davies sydd yn athro ysgol yn Ebbw Vale ers 30ain mlynedd bellach. O'r teulu hwn hefyd yr henaf Mr. Brynmor Thomas athro yn Ysgol Sir Cwm Gwendraeth.

Preswylfod cyntaf David ac Eleanor Emmanuel ar 么l priodi oedd bwthyn bychan o'r enw Ty Coryn yn ymyl Gorslas- sef y man lle saif siop y Co-op yn awr. Ni fuont yno'n hir cyn cael ychydig dir gan yr Arglwydd Cawdor i godi ty arno; galwyd y ty wrth yr enw Gorsgoch, ac yno y treuliasant eu bywyd. Ganwyd iddynt wyth o blant, sef saith o feibion ac un ferch. Oherwydd prinder gwaith a chyflogau isel ymadawodd y bechgyn 芒'r ardal yn ifanc. Aeth John, yr hynaf, i Aberd芒r, ac ymfudodd wedyn i'r Amerig gan ymsefydlu yn Pittsburg. Bu'n llwyddiannus iawn yno, a bu'n haelionus at ei fam weddw yn ei dyddiau olaf.

Meddyliodd lawer gwaith am gael ymweld 芒'r hen wlad ond ni ddaeth ei fwriad i ben: bu farw'n sydyn ym Medi 1901, mewn canlyniad i anap ar y rheilffordd a chladdwyd ef yn y wlad bellennig honno. Aeth Phillip i'r Gweter Fawr (fel y gelwid Brynaman yn y dyddiau hynny, arferai Watcyn Wyn ddywedyd mai lle wedi ei godi o'r gwter yw Brynaman), ac yno y bu farw, ac yno hefyd y mae ei blant yn cartrefu ag eithrio Arthur, sydd wedi ymsefydlu yn Ne Affrig ers blynyddoedd, ac Ysgrifennydd Undeb y Glowyr yno, ac wedi ei enwebu lawer tro ganddynt i'w cynrychioli yn y Senedd.

Dyn cryf cadarn a chyhyrog oedd David, ond bu'n anffodus trwy gael damwain ar y rheilffordd a chollodd ei glyw oherwydd hynny. Bu ganddo gerbyd bychan i fynd ar draws y wlad i werthu llestri. Trigai yng Nghwm Mwyn - yr olaf o'r Emmanueliaid i drigo yno.

Aeth Arthur, fel ei frawd hynaf i Aberd芒r ac wedyn i Gwm Rhondda. Yr oedd ef yn ei gyfnod yn dipyn o awdurdod ar ddaeareg er na fu ei anturiaeth lofaol gyda Charadog, y cerddor enwog, yn llwyddiannus iawn yng Nghwm Ogwr. Bu farw yn 1906, a chladdwyd ef yn Aberd芒r gyda'i briod a oedd yn enedigol o Wynfe. Aeth Charles yn l6 oed a thri hanner coron yn ei boced, yng nghwmni cyfaill ar dramp.

Ymwahanasant 芒'i gilydd yng Nghastell Nedd - aeth ei gyfaill i Faesteg, a bu'n swyddog mewn glofa yno, ac ymhen blynyddoedd cyfarfu 芒'i ddiwedd mewn tanchwa, ond i Aberd芒r yr aeth Charles, ac wedyn i Dreherbert. Talodd ymweliad 芒'r Amerig gan feddwl aros yno eithr ni hoffodd anianawd y wlad, a dychwelodd adref at ei deulu. Bu'n barchus gan ei gymdogion a'i gydweithwyr yng Nglofa Ynysfeio (yr oedd yn swyddog yno) a bu'n aelod o Eglwys Carmel. Bu farw yng Ngorffennaf 1904, a chladdwyd ef yn Nhreorci. Dechreuodd Josia ei fywyd priodasol yn un o'r hen dai lle saif festri Capel Penygroes yn awr, ond yn union ymsymudodd i Gwmbach, Aberd芒r, ac yno y treuliodd ei fywyd. Galwodd ei dy yn Caerbryn House ar 么l un o ffermydd ei fro enedigol.

Collodd ei iechyd yn gynnar yn ei fywyd a bu farw yn 1901, ac erbyn hyn y mae y mwyafrif o'i blant wedi marw. Yr unig ferch a erys ydyw Mrs. M. A. James. Enfield, Treforys, aelod yn Soar, a'i phlant yn llwyddiannus iawn ym myd addysg ac yn llanw swyddi pwysig mewn amryw wledydd. Yr ieuengaf, a'r hynotaf o'r meibion oedd Lefi, yr unig un i orffen ei yrfa yn ei fro enedigol. Cymeriad gwreiddiol a galluog oedd ef, a phe buasai wedi iawn ddefnyddio'i dalent gallasai fod o wasanaeth arbennig mewn llawer cylch. Yr unig ferch oedd Charlotte Ann y mae ei hanes hi wedi ymddangos eisoes yn y golofn hon ynglyn 芒'r Eglwys Apostolaidd.

Trwy garedigrwydd y Parch W. Roger Jones, Ficer Llanarthneu, cefais olwg ar hen lyfr bedyddiadau yr eglwys a gwelwn yno i dri o blant Gorsgoch gael eu bedyddio yno, sef Arthur yn 1838, Charles a Josia gyda'i gilydd ar Fehein 13, 1846, y blaenaf yn ddwy flwydd oed a'r olaf yn faban. Tebyg i'r brodyr hynaf gael eu bedyddio yma hefyd. Yn 么l tystiolaeth Mrs. Price, Black Lion, wrthyf cafodd yr unig ferch ei bedyddio yng Nghapel Penygroes gan y Parch. Thomas Jenkins - yn un o bedwar; a'r lleill oedd Rees Price, Owen Rees. Ty'r Llyn a Rachel Phillips, Gorslas. Bellach y mae'r teulu lluosog hwn a fagwyd yn yr hen fwthyn to gwellt wedi gadael taith yr anial. Y tro nesaf soniwn am rai o'r cymdogion oedd yn trigo gerllaw.

Tom H Williams.

Erthygl o'r Amman Valley Chronicle', Tachwedd 1938.
Diolch i Dafydd Thomas am ei drosglwyddo i ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy