Dychwelodd y Gweinidog Chwaraeon, Alun Ffred, i'r ysgol er mwyn cyhoeddi bod 98% o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru wedi cofrestru bellach gyda chynllun gweithgarwch corfforol 5x60.
Wedi'i lansio fis Hydref 2006 ac wedi'i chefnogi gan fuddsoddiad o 拢7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r rhaglen - a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru - yn ceisio helpu i sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o chwaraeon a gweithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Gwnaed y cyhoeddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle bu'n cwrdd ag ieuenctid o Ysgol Gyfun Brynteg ac Ysgol Arbennig Heronsbridge, a oedd wrth law i arddangos eu sgiliau dawnsio stryd, p锚l fasged, rygbi tag a badminton. Nawr bod y rhaglen wedi sefydlu fframwaith 5x60 ym mhob ysgol prif lif yng Nghymru bron, bydd Cyngor Chwaraeon Cymru'n adeiladu ar y momentwm hwn ac yn treialu'r rhaglen mewn ysgolion arbennig, a bydd hynny'n cael ei ymestyn ymhellach yn nes ymlaen eleni. Yn wir, Ysgol Heronsbridge oedd un o'r ysgolion arbennig cyntaf i ddechrau cymryd rhan yn y rhaglen.
Gydag amrywiaeth eang iawn o weithgareddau'n cael eu cynnig - yn cynnwys codi hwyl mewn gemau, gweithgareddau antur awyr agored a chwaraeon mwy traddodiadol - dawns a ph锚l droed sydd wedi profi fwyaf poblogaidd ymhlith y merched tra bo'r bechgyn yn ffafrio camu ar gae p锚l droed a hefyd yn mwynhau p锚l osgoi.
Dywedodd y Gweinidog, "Mae'r rhaglen 5x60 yn cysylltu ag ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu ein plant i ddatblygu arferion egn茂ol, a fydd yn para am oes, ac mae hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at annog disgyblion ysgolion uwchradd i fyw'n fwy egn茂ol ac iach.
"Nod Un Gymru - yr agenda cynyddol ar gyfer llywodraeth Cymru yw gwella safon byw pobl yn holl gymunedau Cymru. Gan weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, clybiau cymunedol a Chyngor Chwaraeon Cymru, rydym wedi cael effaith sylweddol ar droi neuaddau a buarthau ysgolion yn fwrlwm o weithgarwch, ac mae hynny'n darparu'r cychwyn gorau posibl i'n plant wrth eu hannog i gael digon o ymarfer."
Er bod y cynnydd wedi bod yn dda iawn, nid yw Cyngor Chwaraeon Cymru am laesu dwylo ar ei rwyfau.
Meddai Cadeirydd y Cyngor Chwaraeon, Philip Carling, "Gyda 218 o ysgolion uwchradd prif lif yn rhan o'r rhaglen, a swyddog 5x60 yn cael ei gyflogi ym mhob ysgol er mwyn darparu cyfleoedd allgyrsiol i fod yn heini, dyma'r amser i symud ymlaen. Un elfen allweddol o 5x60 yw bod y disgyblion eu hunain yn dewis y gweithgareddau maen nhw eisiau rhoi cynnig arnynt."