|
|
Helyntion biwrocrataidd
Profiadau Cymraes yn China.
|
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China.
17 Mawrth 2001 - mynd i barti wyau Bore digon prysur. Codi'n fuan i baratoi mynd i barti wyau yn Zhuzhou (dinas tua phedair awr or fan hyn). Na, nid rhyw fath o draddodiad Tsineaidd, ond parti gwisg ffansi wedi ei drefnu gan wirfoddolwraig arall. Daeth Duran Duran draw am tua hanner awr wedi naw, Jerry (y bachgen bach 11 oed sydd yn cael gwersi Saesneg gennym) tua un ar ddeg a chefais alwad ffôn gan Bella yn y cyfamser. Daeth un o weithwyr y coleg draw i fynd a chawod Kate oddi yma i'w newid - wn i'm sut mae o'n bwriadu trwsio'r gawod gan ei bod hi wedi meddalu i gyd! Ond dyna ni - China! Gadael y fflat tua hanner dydd i ddal bws i Changsha. Gofyn i gwpl mewn oed tu allan i'r coleg o ble ddyliem ddal y bws a daeth y ddau i ddisgwyl hefo ni - a mynnu ein bod yn bwyta, trar oedd y ddau ohonynt yn disgwyl am y bws. Ar y bws o Changsha i Zhuzhou roedd pawb yn syllu. Yn enwedig pan gefais ffrae hefo rhyw ddyn am wthio tra'r oeddem yn prynu tocynnau! Golygfeydd bendigedig ac od, hefyd - pobl yn mynd a moch am dro! Cyrraedd y coleg ar ôl hwyl a sbri dal tacsi i'r coleg anghywir. Nifer o athrawon VSO Hunan yno. Pedair ohonom newydd gyrraedd ar rhan fwyaf o'r lleill yn gadael yn yr haf. Rhannu profiadau bywyd China, teithio a dysgu, dros ambell i botel o gwrw! Pawb wedi gwisgo fel rhyw fath o wy! Diddorol! Aeth Kate a minnau a'r wyau drewllyd hefo ni.... ffordd wych o gael gwared â nhw! 18/3/01: hiraeth mawr - am gaws! Codi yn y bore a ffarwelio a phawb i ddychwelyd i Changsha. Penderfynu mynd i chwilio am gaws a bara yn Changsha - gan fod sôn ei bod yn bosibl prynu rhyw fath o gaws yma! Mae'n rhyfedd faint da ni yn hiraethu am gaws!!!!!!! Mae fel aur bron yn y wlad yma! Mynd i siop fawr yn Changsha, ond methu dod o hyd i gaws! Cafodd Kate dipyn o helynt hefo'i cherdyn credyd gan nad oedd yn bosib ei ddefnyddio yn yr archfarchnad er ei bod yn bosib ei ddefnyddio yng ngweddill y siop! Saesneg elfennol oedd gan weithwyr y siop felly pan dsiaradais i Chinese hefo nhw 'roeddynt wrth eu boddau. Cefais hanes teuluoedd y gweithwyr i gyd a rhif ffôn un ohonynt oherwydd bod ei mab yn hoff iawn o ddysgu Saesneg! Dod o hyd i fara Ffrengig bendigedig yn yr archfarchnad - ew 'da ni yn hawdd y'n plesio bellach! Dal bws yn ôl i ganol dinas Yiyang, a bws lleol wedyn o fan'no at y coleg. Sôn am siwrne - pawb ar y bws bron a marw eisiau gwybod pwy oeddem ni, be oeddem yn ei wneud, pa mor dal ydy Kate (mae hin llawer talach na fi!) diddorol a dweud y lleiaf er bod y ddwy ohonom wedi blino'n lân! 19/3/01: Helynt y parsel pethau neis Diwrnod dysgu arferol. Dim ond yn dysgu'r ail gan fod y drydedd wedi cael pythefnos o wyliau i chwilio am swyddi! Dosbarth da ar fore Llun. Parod iawn i ddysgu - edrych arnai'n geg agored bron! Mynd i'r llyfrgell Saesneg i orffen twtio'r lle yn syth ar ôl y wers. Byddai'n braf medru agor (mae wedi bod ynghau ers i'r athrawon tramor diwethaf adael dros wyth mis yn ôl!). Dychwelyd i'r fflat amser cinio. Gadawodd Kate nodyn yn dweud fod parsel imi yn swyddfa bost y ddinas yn hytrach na swyddfa bost y coleg oherwydd mai un rhyngwladol oedd o - pethau neis gan mam a dad! Mynd i'r swyddfa bost yn syth ar ôl cinio. Talu 1.5 kuai (tua 10 ceiniog!) i fynd i'r dref ar y bws. Cyfarfod un o fy myfyrwyr, Apple (ia, afal - efallai ei bod hi'n hoff iawn o ffrwythau!) ar y bws ar y ffordd adref a chynigodd ddangos imi bler oedd y swyddfa bost a ballu. Diolch byth iddi ddod. Cyrhaeddais y swyddfa gyda ffotocopi o fy mhasport (yr un go iawn gan yr heddlu o hyd!) a nifer o bethau efo llun ac enw a ballu a phapur o'r swyddfa bost ei hun. Wrth gwrs, gan nad oedd digon o stampiau swyddogol arnynt methais a chael fy mharsel a bun rhaid dychwelyd i'r coleg am lythyr yn profi mai Delyth oeddwn i - wn I ddim sawl Delyth arall sydd yn y ddinas ond dyna ni! Mynd i swyddfa'r coleg efo Apple i ofyn am lythyr gydag Apple ei hun sgwennur llythyr i brofi pwy oeddwn i. Wedi ir llythyr gael y stamp coch holl bwysig I ffwrdd a ni yn ôl am Yiyang! Cefais y parsel ar ôl talu 5 kuai! Trefn od ar y naw wir! Sôn am wlad biwrocratiaeth! Chwynai byth am, Brydain eto! Dychwelyd yn ddigon hapus ar y bws Ir coleg. Yna stopiodd y bws. Erbyn gweld nid oedd gan y gyrrwr drwydded i yrru ar y lôn benodol yma. Sôn am hwyl a sbri. Dyna lle bu Apple a minnau yng nghanol yr helynt i gyd a hithaun hi'n trosi drostai o'r dafodiaith leol. Roedd cylch enfawr o bobl o gwmpas yr heddwas a perchennog y bws, yna cylch dipyn yn llai wedi hel o fy nghwmpas i! Dywedodd Apple mai fi oedd "bargainig chip" perchennog y bws - pa fath o argraff mae hyn yn ei roi i dramorwyr o heddweision China?" ayyb. Tywyswyd y bws oddi yno gan yr heddlu, felly cefais sawl cynnig gan ddynion ar gefn beiciau modur i fynd a fin ôl - ond rhaid oedd gwrthod pob un!!! Dynion oedd yn mynd â bws i Yueyang (dinas reit dwristaidd heb fod yn bell oddi yma) yn cynnig mynd a fi yno. Pawb yn meddwl ei bod hi'n ddigrif iawn fy mod yn ateb mewn Chinese! Pen hir a hwyr dyma ddal bws yn ôl i'r coleg, dan gael fy nhrafod bob cam o'r ffordd. Credai rhai fy mod yn frodor o China - o ardal Xinjiang ble mae nifer o fwslemiaid gorllewinol yr olwg yn byw! Syniad diddorol! 20/3/01: peryglon bwyd a diod Yn sâl fel ci drwy'r prynhawn! Meddwl fy mod wedi para'n dda. Rhywbeth o'n i wedi ei fwyta ddoe yn amlwg! Yn ôl rhai o fy myfyrwyr rhywbeth i wneud ag yfed 'run amser a bwyta nid y budreddi.......! 21/3/01: Trafferthion ffôn Gwneud dim a dweud y gwir. Teimlo'n reit ddigalon am rhyw reswm. Ceisio defnyddio fy ffôn efo cerdyn ffôn rhad sy'n gweithio trwy'r rhyngrwyd rywsut. Doedd o ddim yn gweithio er ei fod yn gweithio yn ystafell Kate ...... aaaaaaaaa! 23/03/01:Pobol cartwn Mwynhau'r wers yn y bore. Mynd am ginio i Laodifang eto - 'da ni wedi penderfynu bellach fod perchennog y lle yr un ffunud a chymeriad cartwn Denver The Last Dinosaur, sy'n peri inni chwerthin gan fod gennym bellach holl griw Roland Rat, hanner criw Sesame Street a rwan Denver! Cyfarfod Wang Jun yn y prynhawn i fynd i'r swyddfa heddlu eto i geisio cael gafael ar gerdyn gwaith a ballu. Roedd yr heddwas tu ôl i'r ddesg (wel, tu ôl i fariau ddylwn i ddweud!) wrth ei fodd fy mod yn medru'r iaith. Gofynnodd imi yn araf, araf, bach - "Ni jiao shenme mingzi?" ("Beth ydy dy enw?") cwestiwn reit elfennol o ystyried ei fod yn gwybod fy mod wedi astudio'r iaith yn y brifysgol. Ac meddai Kate, "I even understood that!" Dechreuodd fy holi wedyn, pam, pwy , lle ac yn y blaen. Yna estynnodd ddarn bach o bapur o ddesg a gofyn imi sgwennu fy enw Tsineaidd arno er mwyn iddo gael gweld os o'n i'n medru! Wrth gwrs chawsom ni mo'r cerdyn gwaith a ballu. Roedd rhywbeth o'i le hefo'r gwaith papur - dim digon o stampiau mae'n debyg! Cael cinio gyda'r nos yn un o gantîns y coleg - 5 kuai (35c ballu) i dri!
|
|