大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Profi hiliaeth yn Beijing
Delyth Roberts yn cael ei rhwystro rhag mynd i glwb nos oherwydd lliw ei chroen

Dydd Llun, Hydref 15, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd

Gorffennaf 19, 2001
Mynd efo Sally i lan y môr. Diogi drwy'r dydd ac yfed
llefrith cnau coco ar lan y môr.

Treulio'r gyda'r nos mewn bar ar lan y môr, digon
distaw - hollol wahanol i China a dweud y gwir!

Gorffennaf 20, 2001
Penderfynu mynd ar daith efo Sally i "Ynys y
Mwncïod". Trafferth cyrraedd oherwydd nad oedd staff y
gwesty yn sicr lle roedd o.

Cymryd bws lleol ac wrth gwrs fe gafodd y brodorion dipyn o hwyl yn gweld dwy Lao Wai efo'i gilydd ar y bws i ganol le'n byd ar ôl ymladd am docynnau yn yr orsaf bysiau.

Mae pob taith fel ymladd rhyfel yma. Mae'n rhaid cicio a brathu bron i fedru prynu tocynnau. Wrth gwrs mae'r fantais o fod yn medru siarad a gweiddi yn ôl ar bobl yn eu hiaith eu hunain yn gweithio'n wych yma, ychydig iawn sy'n credu bod tramorwyr yn medru'r iaith.

Rhaid oedd dal tacsi beic modur o ganol le'n y byd i'r dref lle roedd yr ynys.

Tydi tacsi beic modur ddim yn ddiogel o bell ffordd, yn rhannol oherwydd bod y car ochr yn eithriadol o fychan ac yn symud o ochr i ochr, ac oherwydd bod y gyrrwr yn benderfynol o gyrraedd pen y daith cyn gynted â phosib.

Cyrhaeddom ben y daith, tref fechan ar lan y môr eto.
Porthladd oedd yno ac roedd rhywbeth am y lle yn fy atgoffa o Gonwy a Chaernarfon am ryw reswm (heblaw am yr haul a'r coed palmwydd wrth gwrs!) - y môr a'r cychod mae'n debyg!

Cefais dipyn o sioc yn gweld car cebl yn rhedeg o'r dref at ynys y mwncïod, er y dyliwn fod wedi rhagweld hyn ar ôl bod ar y car cebl ar Fur China.

Cyrraedd yr ynys a chael ein croesawu gan fwncïod Guangzhou, roedd y rhain wedi arfer ag ymwelwyr yn eu bwydo.

Mae'n braf ar un llaw bod y rhain yn cael eu gwarchod yn eithaf rhydd ar yr ynys (mae parciau anifeiliaid y wlad hon yn warthus). Ond roedd nifer ohonynt wedi eu hyfforddi i roi sioe ar gyfer yr ymwelwr ac eraill wedi eu clymu'n hapus (yn ôl y staff - er bod y mwncïod yn ymladd â'i gilydd) wrth bolion er mwyn cael tynnu eu lluniau.

Wedi treulio cwpl o oriau ar yr ynys dyma benderfynu
eistedd i lawr a chael diod. Syniad digon call a chysidro'r tywydd.

Tra roedd Sally a finnau yn sgwrsio neidiodd un o'r mwncïod ar y bwrdd, gafael yn niod meddal Sally a rhedeg gydag o i fyny coeden. Wedi cael blas ar ddiodydd melys yr ymwelwyr yn amlwg. Digon digrif, er nad oedd yn llawer o ddaioni i'r mwnci dwi'n siwr!

Gorffennaf 21, 2001

Mynd â Sally i'r orsaf bws i brynu tocyn i Haikou er mwyn dal cwch cyn mynd am dro i lan y môr a'r maes awyrennau. Rhaid cyfaddef i mi fynd i'r archfarchnad hefyd i brynu rhagor o mayonnaise,a siocled!

Cyrraedd y maes awyrennau mewn da bryd ond darganfod
bod rhaid disgwyl yno am ddwy awr ychwanegol.

Cefais baned o goffi oer (dwi ddim yn siwr pam na chefais
goffi poeth - un o brofiadau China mae'n debyg!) a
digon o amser i synfyfyrio!

Cyrraedd Beijing erbyn tua 11 y nos, mynd yn ôl i dy
Alex fy ffrind a phenderfynu mynd allan gan ei bod yn
ben-blwydd arni hi o fewn awr!!!! Mynd yn ôl i'r clwb nos
Ciwbaidd a chyfarfod y band unwaith yn rhagor!

Diwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst

Gwneud dim bron ond ymlacio a threulio llawer o amser
yn gweld fy nghyfeillion o gwmpas Beijing.

Treulio nifer o ddyddiau yng nghwmni chwaraewr trwmped y band Ciwbaidd.

Mynd i barc adloniant Beijing gydag o. Digon o bobl yn syllu gan ei fod yntau'n groen ddu a finnau'n wyn. Ni oedd yr unig dramorwyr yn y parc, yn peryglu ein bywydau ar y gwahanol beiriannau adloniant - dwi'n reit sicr nad ydy'r un ohonynt wedi eu newid na'u trwsio ers i'r parc agor flynyddoedd maith yn ôl!

Cael profiad hynod o anghynnes hefyd wrth geisio cael mynediad i glwb nos.

Bum i a fy ffrind Sally (do - wedi fy nilyn i Beijing!) mewn clwb nos sy'n honni bod angen cerdyn aelodaeth i fynd i mewn. Ofynnodd neb i mi erioed am gerdyn aelodaeth yno.

Gadawodd y ddwy ohonom y clwb er mwyn mynd i nôl Addel ( y chwaraewr trwmped) yna wrth geisio mynediad eilwaith, cawsom ein gwrthod.

Edrychodd y ddau ddyn wrth y drws ar groen Addel a phenderfynu nad oedd unrhyw un ohonom am gael mynd i mewn. Sefais yno yn ceisio rhesymu a'r ddau ddyn pam fod y polisi mynediad wedi newid mor sydyn , heb gael ateb iawn gan unrhyw un ohonynt.

Daeth perchennog y clwb allan ar ôl fy nghlywed yn siarad â'r ddau ddyn mewn Tsineaidd a dweud nad oedd unrhyw broblem a bod croeso i ni fynd i mewn. Trodd y tri ohonom ar ein sodlau a mynd am glwb arall.

Mae achosion cyffelyb o hiliaeth yn digwydd ar hyd a lled y wlad, mae'n anodd deall pam yn union.

Efallai fod hyn yn rhan o gred y genedl bod croen golau yn well na chroen tywyll. Mae'r mwyafrif o ferched y wlad yn
defnyddio colur arbennig sy'n gwynnu'r croen, ac yn ceisio cadw o'r haul oherwydd nad ydyn nhw eisiau croen tywyll.

Mae croen tywyll yn cael ei ystyried yn rhywbeth eithaf israddol yma, gan ei fod yn brawf o dlodi, a bywoliaeth yn y caeau ("peasant" chwedl fy
myfyrwyr).




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy