|
|
AIDS a Big Mac
Profiadau Cymraes yn China Dydd Llun, Mai 28, 200
|
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd.
Mai 1, 2001 - diwrnod o wyliau Gwyliau cenedlaethol - Labour Day ydy'r trosiad. Daeth Ms. Sha in nôl ni. Aethom am ginio hefo Ms. Sha, ei theulu. teulu pennaeth yr heddlu, teulu brawd Ms Sha, a theulu brawd pennaeth yr heddlu! Aethom i dy bwyta sy'n arbenigo mewn pysgod. Mynd i'r cefn a chael dewis pysgod o sinc concrid llawn o bob math o bysgod. Roedd brawd Ms Sha am imi drosi enwau pob un o'r pysgod o Chinese i Saesneg! Lladdwyd y pysgod o'n blaenau trwy eu gollwng ar eu pennau cyn torri eu pennau i ffwrdd â chyllell finiog! Mynd i goedwig bambw Taojiang ar ôl cinio lle mae unig amgueddfa fambw y wlad! Gweld ty wedi ei wneud yn gyfangwbl o fambw - y dodrefn a phopeth. Cael blasu te arbennig Taojiang a thynnu llun efo pob aelod o'r teuluoedd nifer o weithiau! Mynd yn ôl i Yiyang yng nghar brawd pennaeth yr heddlu gan fod ganddo fab 17 oed sy'n medru Saesneg yn dda iawn. Mynd o Taojiang i "Dy'r Ffermwr Hapus" sydd y tu allan i Yiyang. Medru mynd yn reit gyflym gan ein bod wedi defnyddio golau heddlu! Cael pryd traddodiadol ffermwyr - llond lle o gig, reis wedii gymysgu efo tatws melys a rhyw datws efo grefi digon tebyg ir rhai Prydeing! Mai 2 - trafferthion tocyn Crwydro dipyn o gwmpas Yiyang. Methu a chael tocyn trên eto. Maen dal yn broblem oherwydd y gwyliau! Archebu un ar Mai 8 ar ôl y gwyliau - ond chawn ni mohono tan y seithfed! Mai 3- gwneud ffrindiau Poeth ofnadwy, felly gwneud dim ond mynd am dro at y bryn gyferbyn a'r coleg. Mynd am ginio. Tra'n bwyta, cwsmer arall yn gofyn am fy rhif ffôn gan ei fod eisiau bod yn ffrindiau efo mi! Mai 4 - dan annwyd Tywydd gwael eto - bwrw glaw! Wedi dal annwyd drwg - union be dwi eisiau ddiwedd y gwyliau! Mai 7- dim tocyn Mynd i nôl y tocyn trên - ond wrth gwrs dydio ddim un ar gael. Bydd yn rhaid i Gary hedfan o Changsha. Kate yn cyrraedd yn ôl o Guizhou - wrth ei bodd ar ôl y gwyliau. Mai 12 -barn myfyrwyr Mynd i siopa i Yiyang efo dau o fyfyrwyr Kate. Mae'r myfyrwyr yn dal i feddwl na fedrwn ni wneud dim ar ein pennau'n hunain. Diwrnod trybeilig o boeth. Crwydro o gwmpas y ddinas a mynd i dy bwyta gorllewinol - oes mae na un yma! Digonedd o alcohol ond pan yn ceisio archebu pryd - wrth gwrs nid oedd y bwyd ar gael! Kate yn gyrru parsel i Phil. Cael ei anfon mewn cas gobennydd wedi ei wnïo !Diddorol! Mae Phil yn Beijing ar hyn o bryd gan ei fod wedi torri ei ffêr. Roedd wedi ceisioi gwella drwy driniaeth Tsineaidd ond cafodd ddigon ar hynny gan fod yn rhaid iddo yfed rhyw ffisig hefo bai jiu, bwyta llynghyrod daear, llosgi ei goes hefo bai jiu a thân a neidio i fyny ac i lawr ar ffêr oedd wedi torri! Mai 11 - AIDS a Big Mac Holi'r myfyrwyr am HIV ac AIDS gan fod dysgu am hyn yn rhan o'n gwaith VSO. Does ganddyn nhw fawr o syniad am y clefydau. Yn ôl rhai ohonynt mae'n bosib dal HIV trwy gusanu a phroblem orllewinol yn unig yw. Dal bws-cysgu (mae gwelyau ar rai o'r bysiau yma) i Changsha a chrwydror stryd fawr yn chwilio am head cleaner i'r camera fideo. Sôn am helynt. Dod o hyd i un mewn siop enfawr Siapaneaidd yn y diwedd. Cael cinio yn Macdonalds - mae'n rhyfedd beth mae bod yma'n ei wneud i rywun gan na fyddai byth yn twllu'r lle adref! Dod o hyd i archfarchnad sy'n gwerthu pob math o bethau blasus - pob math o fara dan yr haul (nid bara melys ychwaith!), diet coke a chrempogau! Roedd hi fel Nadolig arnai! Cyfarfod merch o'r enw Rain ar y ffordd adref. Yn byw yn Chnagsha roedd ar ei ffordd i Yiyang i sefyll rhyw arholiad ac roedd yn gyfeillgar dros ben a bum yn siarad a hi yr holl ffordd yn ôl. Ar y bws o Yiyang i'r coleg mae rhyw ddyn eisiau gwybod os oeddwn in wir yn dramorwraig. Ni allai ddeall sut y gallwn fod yn Brydeines gan fy mod yn siarad Tsineaeg!
|
|