大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Dwy flynedd yn China
Merch o Gymru yn helpu'r Tsieineaid ddysgu Saesneg

Dydd Mercher, Chwefror 7, 200

Y mae merch ifanc o Gymru newydd adael am China lle bydd yn treulio dwy flynedd yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr mewn coleg hyfforddi.

Bydd Delyth Roberts o Langefni, Sir Fôn, sy'n medru siarad Tsieineeg, yn gweithio ar gynllun VSO mewn Coleg Hyfforddi Athrawon yn Yiyang yn nhalaith Hunan yn ne canolbarth China.

Yn ystod ei chyfnod yno bydd yn cyfrannu i 大象传媒 Cymru'r Byd.

"Ardal wledig, ddifreintiedig yw hon ac yn dra gwahanol i ddinasoedd mawr fel Beijing a Shanghai," meddai Delyth.

Dydi China ddim yn wlad gwbl ddieithr iddi, fodd bynnag.

"Bum yn astudio ym Mhrifysgol y Bobl, Beijing, am flwyddyn rhwng 1997 a 1998," meddai.

Dywedodd fod ganddi ddiddordeb mewn pethau Tsieineaidd er pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni pryd yr oedd ganddi gyfeillion-trwy-lythyr oddi yno.

"Ac yr oeddwn yn darllen llawer am y wlad," meddai.

Pan aeth i brifysgol yn Durham, Ffrangeg a Tsieineeg oedd ei phynciau.

Disgrifiodd yr iaith fel un "anodd ofnadwy" i'w dysgu ar y cychwyn oherwydd ei bod mor wahanol i ieithoedd eraill yr ydym ni yn fwy cyfarwydd a hwy.

"Un anhawster yw fod pedair tôn i'r iaith pan ydych yn ynganu ac y mae ynganiad yn newid ystyr gair," meddai.

Mae'n un o griw o 30 sy'n mynd i China yn awr a bydd cartref yn cael ei baratoi iddi yn y coleg a bydd yn derbyn cyflog lleol.




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy