大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China
Golwg arall ar ddyddiadur Cymraes yn China

Dydd Llun, Chwefror 4, 2002

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd

Hydref 27 2001 - cymharu profiadau
Cysgu tan y prynhawn oherwydd noson hwyr neithiwr. Sgwrsio a chymharu profiadau China ac enwau myfyrwyr unwaith eto.

Mynd allan o'r coleg am ginio a rhoi sioc i bawb - doedden nhw methu deall o ble roedd y ddwy dramorwraig arall wedi dod. Mynd i dy bwyta'r ferch fach unwaith eto, a Pipi yn gwmni.

Dwy athrawes arall yn cyrraedd yng nghanol y pryd - Susan (o Ganada) a Rosie. Roedden nhw wedi eu gollwng ar dop y lôn - lwcus neu bu bron iddyn nhw gyrraedd Changde (dinas fawr yng ngogledd y dalaith!) ac wedyn roedden nhw wedi cael eu tywys i'r ty bwyta gan rai o'n myfyrwyr.

Doedd Katie ddim wedi gallu dod - wedi bod allan am bryd neithiwr ac wedi methu trên oherwydd bod criw ffilmio CCTV yn y ddinas lle mae'n byw!

Cael gwahoddiad i barti perfformio yr adran Saesneg i groesawu'r flwyddyn gyntaf. Wrth eu boddau yn gweld cymaint o dramorwyr - yn sicr heb weld cymaint yn eu bywyd o'r blaen! Cael ein trin fel y teulu brenhinol: te, melysion, ffrwythau a seddi yn y blaen!

Y myfyrwyr i gyd yn perfformio - karaoke, dawnsio ayb. Grwp y tramorwyr yn canu hefyd a chael mwy o gymeradwyaeth na neb arall er nad oeddem wedi paratoi o flaen llaw o gwbl!

Mynd i dy bwyta Denver ar ôl perfformio a rhoi sioc farwol i nifer o'n cymdogion! Treulio amser maith yn yfed a sgwrsio. Teimlad braf oedd medru rhannu profiadau gyda phobl sydd yn deall Saesneg. Roedd yna dipyn o ofyn cwestiynau megis Can you use chopsticks?, a Do you like China?

Dawnsio a phopeth yn y fflat gyda'r nos - adrenalin pawb yn pwmpio dwi'n meddwl. Darganfod bod un o'r criw newydd wedi gadael China yn barod - ei fflat yn llawn llygod mawr a'r coleg yn gwrthod gwneud dim. Hefyd dim ond 3 awr yr wythnos yr oedd yn ei ddysgu tra bod ei chyd-athrawes yn dysgu 14 awr yr wythnos. Lwcus iawn yma ddwedwn i!

Hydref 28 - dinas tebyg i Beirut
Dydd Sul diog, codi yn hwyr a bwyta wyau a sglodion - fel pnawn Sul yn y brifysgol unwaith eto! Pawb yn gadael un ar ôl y llall, a'r lle yn teimlo yn wag. Ally a Lucy oedd yr olaf i adael a hynny o orsaf trenau Yiyang gyda'r nos.

Mynd â nhw i mewn i Yiyang ar y bws a chael pryd ar ochr y lôn - blas cyri Indaidd ar y bwyd - od ar y naw gan ei bod hi'n anodd prynu'r sbeis hwn yn China. Cael barn Lucy a Sally ar Yiyang - tebyg i Beirut meddai'r ddwy ohonynt! Braf cael gwybod nad dim ond y ddwy ohonom ni sydd yn meddwl hyn!

Dal y bws olaf o'r dref yn ôl i'r coleg am 6.40pm - heb fod allan yn Yiyang mor hwyr yn fy nydd. Dydw i byth am gwyno am fysiau olaf i Langefni o Fangor eto chwaith. Meddwl bod rheiny yn ddigon drwg yn gadael tua 10.30 y nos!

Hydref 31 - ffraeo ar y trên

Noson Calan Medi. Treulio'r noson ar y trên yn ôl i fyny i'r Gogledd am noson o fywyd go iawn! Ffraeo efo sawl un ar y trên am wthio heibio i mi. Dwi'n ennill bob tro oherwydd bod y bobl yn troi i edrych arna i ac yn cael sioc wrth weld wyneb gwyn yn syllu arnyn nhw!

Tachwedd 1 - newid tymheredd
Deffro yn fuan ar y trên. Cwpwl mewn oed yn yr un rhan o'r trên â mi. Dechreuodd y ddau siarad Saesneg - y ddau wedi bod yn astudio'r iaith yng Nghanada flynyddoedd yn ôl. Roedd ganddyn nhw Saesneg gwell na nifer o athrawon y coleg.

Wrth i ni gyrraedd gorsaf Beijing cael gwybod ganddyn nhw y dylwn wisgo mwy o ddillad gan ei bod yn oer dros ben.

Dyma'r anfantais o fyw mewn gwlad enfawr efo sawl system dywydd - y gaeaf er enghraifft yn y gogledd yn medru bod yn is na -18 gradd selsiws, ond yn Hainan yn y de mae'r tymheredd yn ddigon agos i 18 gradd selsiws!

Wedi cyrraedd y gwesty mynd allan i brynu bwyd. Treulio'r prynhawn a gyda'r nos gyda Addel a'r band yn y clwb salsa. Dwi dal heb ddysgu sut i ddawnsio chwaith!

Tachwedd 2 - prynu DVD
Cyfarfod Alex am ginio a threulio teirawr yn sgwrsio â hi.

Mynd i brynu chwaraewr DVD yn y prynhawn. Mae popeth fel yna yn eithriadol o rhad yma. Mae rhai i gael am lai na chan punt.

Dysgu un o ffrindiau Addel sut i siarad Saesneg. Bellach mae'n gallu ei gyflwyno'i hun ond roedd am gael gwybod sut i ofyn am rif ffôn a chynnig diod i ferched hefyd.

Cyfarfod nifer o bobl dwi'n eu hadnabod ar ôl treulio'r haf yn Beijing. Braf cael bod mewn dinas mor rhyngwladol. Cymysgfa go iawn.

Tachwedd 3
- teimlo'r oerni
Treulio'r prynhawn mewn caffi danddaearol - gwych. Brechdanau ffres! Wir - feddylies i erioed mod i'n bwyta cymaint o fara yng Nghymru nes i mi ddod yma!

Pobl y siop wedi dechrau dod i fy adnabod rwan, od mewn prifddinas ond dyna mae'n debyg yw mantais bod yn weledol wahanol yn y wlad yma.

Wedi lapio yn eithriadol oherwydd yr oerni - llawer oerach na Yiyang - pawb yn chwerthin wrth i ni basio wedi lapio'n wirion! Criw o Giwba'n methu dygymod â'r tywydd yma.

Tachwedd 5 a 6
- tafodiaith wahanol
Cyfarfod Alex am ginio a siopa cyn mynd i'r orsaf trenau. Cyrraedd Changsha a phrynu mantou - bara diflas Tsineaidd. Roedd y gwerthwr wrth ei fodd fy mod yn medru siarad yr iaith a dywedodd wrth ei ffrindiau i gyd!

Dechreuodd dynes arall siarad â mi yn nhafodiaith Changsha (sy'n dipyn gwahanol i dafodiaith Yiyang) ac roeddwn i'n gallu ateb ei chwestiynau. Roedd hi wrth ei bodd ac yn meddwl fy mod i'n deall y dafodiaith ond a bod yn onest dim ond dyfalu wnes i. Yr un cwestiynau sy'n cael eu gofyn ymhobman!

Yn ôl yn Yiyang ar gyfer y wers methodoleg. Darganfod mai dim ond hanner y dosbarth oedd wedi gwneud y gwaith cartref. Anodd cael unrhyw un o'r myfyrwyr i wneud unrhyw beth heb arweiniad llwyr.

Gyda'r nos rhoi darlith ar Noson Galan Gaeaf. Kate a finnau yn gwisgo fel gwrach ac ysbryd. Doedd dim angen i ni wneud rhagor, roedd y myfyrwyr wrth eu boddau gyda hynny!

Sôn am hanes y traddodiad, a'r hyn sy'n digwydd yn y Gorllewin. Roedden nhw wrth eu boddau yn cael clywed a chymryd rhan. Chwarae trick or treat hefo nhw, rhoi'r goleuadau i ffwrdd a dweud stori arswyd dan olau cannwyll.

Pob un o'r myfyrwyr wedi gwirioni - dim ond o lyfrau maen nhw'n cael yr hanesion fel arfer - ac mae'r rheiny yn hen ffasiwn!

Tachwedd 7 - teimlo fel mwnci perfformio
Jenny a'r dynion trydan yn dod i'r fflat i drwsio'r socedau a gafodd eu llosgi yn ôl ym mis Mawrth! Cynnig ail weirio'r fflat i gyd neu brynu gwresogydd newydd - a hwn i fod yn goleg tlawd yng nghanol y wlad! Dim llawer o synnwyr cyffredin yma nac oes!

Gyda'r nos cael pryd gyda dau fachgen 16 mlwydd oed sy'n symud at eu mam i Oregon yn yr Unol Daleithiau ddechrau mis Rhagfyr. Roedd eu tad am iddyn nhw gyfarfod tramorwyr cyn mynd yno.

Teimlo fel mwnci perfformio ac roeddwn i bron â hitio'r tad am siarad â mi yn araf, araf mewn Tsineaidd. Hefyd gwnaeth i mi ddweud brawddegau er mwyn iddo gael fy nghlywed yn siarad Tsineaidd. Gwrthodais ond parhau i drosi dros Kate fel eu bod yn gwybod cymaint dwi'n ei ddeall !

Am fynd i wersi taiqi hefo'r bechgyn fory. Trefnu'r pantomeim Nadolig yn y llyfrgell heno hefyd - roedd rhai o'r genethod wrth ei boddau am nad oedden nhw erioed wedi gwneud pantomeim o'r blaen.

Tachwedd 8
- coginio pryd gorllewinol
Diwrnod cyffredin. Pedair myfyrwraig yn dod draw i de. Coginio pryd Gorllewinol iddyn nhw - pasta, bara garlleg a chrempogau!

Roedden nhw wrth eu boddau - y tro cyntaf erioed iddyn nhw flasu bwyd gorllewinol. Rhyfedd meddwl am hyn gan ein bod ni yn y tai bwyta Tsineaidd mor aml! Bwytaodd y dair bob tamiad gan gynnwys y crempogau er bod y syniad o gael crempog melys yn od iddyn nhw.

Cael gwers taiqi. Myfyriwr yw'r athro, boi digon annwyl ac roedd yn amyneddgar iawn efo fi a choeliwch fi mae angen bod yn hynod o amyneddgar!

Tachwedd 9 - ymweld â thy myfyrwyr
Cael gwahoddiad i dy dau o'm myfyrwyr. Treulio bore difyr efo criw o fyfyrwyr yn eu hystafell. Roedd yn rhaid i ni gerdded trwy ystafell wely perchennog y ty i gyrraedd y grisiau ac i ystafell y bechgyn! Ystafell sylfaenol dros ben - llawr concrid, waliau heb addurniadau (heblaw posteri'r ddau) ac un gwely dwbl.

Tachwedd 14 - ugain mlynedd yn hwyr
Prynu popcorn tu allan i'r coleg - 2 kuai (16 ceiniog) am fag plastig enfawr. Y gwerthwr yn ymarfer hynny o Saesneg yr oedd yn ei wybod arna i, sef - Hello, Thank You, Long Live Chairman Mao - doeddwn i ddim yn hoffi dweud wrtho bod hwnnw wedi marw ers cyn yr wythdegau!

Tachwedd 16 - technoleg fodern
Mynd i weld yr ystafell fideo er mwyn medru dangos ffilmiau i'r myfyrwyr gyda'r nos. Gwell ystafell na Phrifysgol Durham - mae'n bosib chwarae fideos, tapiau, cryno ddisgiau a VCD's yno i mewn i gyfrifiaduron. Modern dros ben o ystyried fod y bobol yn y caeau yn trin y tir heb beiriannau o unrhyw fath!

Un o fy myfyrwyr yn ffonio a dweud yn ei ffordd arferol I am coming to your house, o.k. Finnau'n gwrthod. Mae'r myfyriwr yn y drydedd ac felly dylai wybod sut i ofyn yn iawn. Rhaid dweud wrthyn nhw yn blwmp ac yn blaen gan mai dyma yw'r arferiad yn y wlad, ac er mwyn sicrhau cael rhywfaint o lonydd!

Tachwedd 17 - chwilio am wresogydd
Mynd i Yiyang gyda Jenny a'i theulu i edrych am wresogyddion i'r ty. Dim llawer ohonyn nhw ar werth gan nad ydi hi'n ddigon oer eto medda nhw! Rhynnu bob dydd yn y ty hefyd!

Jenny a'i theulu'n cynnig prynu rhai i ni sydd yn rhy gryf ar gyfer y ty - ceisio egluro bod hyn yn wastraff arian ond unwaith eto un o'r sefyllfaoedd Tsineaidd hynny ydoedd.

Mynd i sinema'r coleg ( wel ystafell sy'n cynnwys nifer o seddi a theledu! ) i weld a oedd posib benthyg VCD's. Cael benthyg un am 1 kuai y noson - 8 geiniog!

Tachwedd 18 - tynnu sylw yn y farchnad
Mynd i Yiyang i brynu tocynnau trên i fynd i gynhadledd y VSO yn Xi'an yr wythnos nesaf a phenderfynu mynd am dro i'r farchnad.

Pobol y lle yn gwirioni. Doeddem ni erioed wedi bod yno o'r blaen felly mae'n amlwg mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ein gweld. Rhai pobol yn geg agored - yn llythrennol!

Kate yn prynu clipiau gwallt o un stondin ac yn rhoi ceiniog o dramor i'r werthwraig gan bod ganddi gymaint o ddiddordeb yn y geiniog. Roedd y werthwraig wrth ei bodd ac yn ceisio rhoi bob math o bethau am ddim i Kate. Gwaeddodd dros bob man a dweud wrth y gwerthwyr eraill i gyd ei bod wedi cael ceiniog o dramor!

Mynd i'r archfarchnad gan fod Kate am brynu pysgod aur a therapins bychan. Cael tri pysgodyn, bwyd a dau derapin am 50 kuai (tua tair punt). Roedden nhw'n gwerthu'r rhain ar ochr y stryd mewn powlenni bychain.

Roedden nhw'n gwerthu cwningod hefyd ond doedd ganddon ni ddim lle i gwningen a byddai wedi bod yn ormod o gyfrifoldeb dros y gwyliau!

Tra roedden ni'n prynu'r anifeiliaid ymgasglodd criw o bobl o'n cwmpas - dim llai nac ugain! Nid yw hyn erioed wedi digwydd i mi o'r blaen - gymaint o bobl!

Tachwedd 19 - mewn poen
Cawsom noson reit ddiddorol ond poenus yn llythrennol! Ceisio torri afal i bwdin ond yn hytrach na thorri'r afal fe dorrais fy mawd - yn ddifrifol.

Roeddwn i'n gallu gweld y tu mewn i'r bawd - doeddwn i ddim wedi mynd mor bell â'r asgwrn dim ond drwy'r croen i gyd. Rhedais o gwmpas fel peth gwirion cyn mynd i ddweud wrth Kate. Mae hithau'n casáu gwaed a briwiau ac felly ffoniodd Jenny.

Roedd rhaid mynd i glinig y coleg. Roedd Kate a finnau'n poeni ac yn meddwl am safon glendid y wlad ac felly i ffwrdd a ni am ein pecynnau cymorth cyntaf - roedd nodwyddau a phopeth ar gael ynddyn nhw ac felly fe aethom ni â rheiny efo ni.

Roedd y clinig yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un. Roedd yn edrych fel un o Oes Fictoria. Ychydig iawn o drydan oedd yno ac roedd yr adeilad yn edrych fel petai am ddymchwel unrhyw funud!

Roedd y desgiau yn ystafell y doctor fel y rhai yn y llyfrgell ac yntau mewn cot wen fudr! O diar!

Roedd pwmp ocsigen enfawr yn yr ystafell, doeddwn i erioed wedi gweld y ffasiwn beth o'r blaen - digon i godi ofn ar unrhyw un! Finnau ofn y cawn fy rhoi ar drip gan bod tueddiad yma i roi drip i bawb am resymau fel anwydau a briwiau bychain.

Nid oedd y doctor wedi gweld dim tebyg i'r nodwyddau oedd gennym yn ei fywyd o'r blaen. Rhoddodd iodin dros fy llaw i gyd hyd yn oed yn y mannau nad oedd yn agos at y clwyf!

Gofynnodd i mi wedyn ai un pwyth oeddwn i ei eisiau neu ragor! Pe bawn i'n cymryd meddyginiaeth yn erbyn y boen byddai rhaid i mi gael mwy nag un pwyth, fel arall dim ond un fyddai angen. Syniad diddorol - ym Mhrydain y tueddiad yw rhoi'r cyfanswm sydd ei angen o bwythau!!!!!!

Rhagor o iodin dros bob man wedyn, yna dychwelyd yn ôl i'r ty a cheisio gwneud popeth ag un llaw! Anodd dros ben.

Tachwedd 20 - cydymdeimlad
Roeddwn i'n ei gweld hi'n anodd gwneud pethau syml efo un law. Doeddwn i erioed wedi meddwl cymaint roeddwn i'n dibynnu ar ddefnyddio dau fawd o'r blaen.

Roedd y myfyrwyr i gyd eisiau gwybod be roeddwn i wedi ei wneud. Roedd un o ddosbarthiadau'r flwyddyn gyntaf yn annwyl dros ben. Myfyriwr sy'n prin medru siarad Saesneg yn cario fy mag yn ôl i'r ty drosta i chwarae teg iddi.

Ar ôl dysgu dychwelyd i'r ty a chael gwybod gan Jenny ei bod hithau, Mr Wu a Mr Yang am ddod draw yn y prynhawn. Cyrhaeddodd y tri yn y prynhawn efo bocs enfawr o afalau a theisen llawer rhy fawr i ddwy ohonom i'w fwyta!

Mynd i siarad ar radio'r coleg wedyn. Criw yn dod i fy nôl, treulio dros awr yno yn siarad â'r myfyrwyr.

Tachwedd 21 - colli'r gwersi taiqi
Dysgu drwy'r bore a chysgu yn y prynhawn. Cysgais mor drwm nes i mi golli'r gwersi taiqi - wps! A finnau angen llawer mwy o wersi na Kate hefyd! Mae'r myfyriwr yn methu deall pam fy mod i mor anobeithiol! Dywedodd wrtha i y dyliwn ddysgu gan Kate! Nid yw'n gallu siarad Saesneg felly mae'n ymarfer gwych i mi gan fod yn rhaid i mi drosi rhyngddo fo a Kate.

Mynd i dy bwyta Denver a gweld Ms. Xia yno - y cyn ddirprwy. Roedd wedi cymryd dau ddiwrnod i ffwrdd 'yn sâl' er mwyn medru dod i Yiyang i weld ei ffrindiau! Efallai y dylwn innau ddechrau gwneud hyn hefyd!




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy