大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Awchu am Fac arall
Dal i golli bwyd y gorllewin

Dydd Mawrth, Mehefin 5, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd.


Mai 14, 2001 - heb ddeall y geiriau

Diwrnod digon cyffredin. Poeth iawn (eto!) -'run hen
stori!

Egluro trefn yr arholiad llafar wrth y drydedd - pob un yn edrych yn boenus dros ben! Dysgu idiomau Saesneg iddynt - wrth eu boddau yn dysgu pethau fel hyn.

Mynd i'r llyfrgell gyda'r nos. Wedi gwirio gwaith Susie drosti - safon reit uchel o dweud y gwir. Yr unig broblem yw ei bod hithau a nifer o fyfyrwyr eraill yn defnyddio geiriau nad ydynt yn eu deall!

"Roedd Moffat yno hefyd. Roedd bron a marw eisiau chwarae gwyddbwyll â mi. Pam ddwedais i fy mod yn medru chwarae - ond dwi heb chwarae ers blynyddoedd!

Siarad efo dad ar y rhyngrwyd a chydag athrawes arall yn Hunan. Mae hi'n byw yn Huaihua sydd reit bell oddi yma. 'Rhen beth yn lwcus hefyd - mae yna dy bwyta Brasiliaidd yn y dref - a'r perchenogion yn frodorion o Brasil!

Mai 15 - gwibrau a ras

Tywydd reit drymaidd heddiw. Siwr o fwrw reit fuan.
Cael gwybod bod un o staff swyddfa VSO yn Beijing yn dod yma ddydd Llun i weld os 'di popeth yn iawn yma.

Cael gwybod hefyd fod y Lotus Awards yn Changsha dros y penwythnos - seremoni wobrwyo arbennig i athrawon tramor Hunan i gyd. Bydd car y coleg yn ein danfon yno.

Diwrnod mabolgampau dros y penwythnos hefyd - wel tridia a dweud y gwir! Gobeithio bydd ein ras ar ddydd Sadwrn!

Mai 16 - tipyn o gêm

Gwersi yn y bore a pharatoi rhagor yn y prynhawn. Chwarae cardiau efo'r myfyrwyr yn y llyfrgell - wel maent yn cael ymarfer eu Saesneg!

Dysgodd Kate gwpl o gemau i'r myfyrwyr yna colli pob un ohonynt!

Mai 17- Olympaidd

Bwrw glaw - dim mabolgampau! Mae na seremoni agoriadol a phopeth yn y mabolgampau 'ma. Mae'n swnio'n ddigon tebyg i'r gemau Olympaidd gwir!

Mynd i Yiyang i brynu anrheg pen-blwydd i Kate. Gweld cath fechan mewn bag papur ar y bws a dyn newydd ddod o'r caeau yn gwisgo esgidiau gwellt!

Mai 18 - yn y bag

Gwersi yn y bore. Nifer o fyfyrwyr yn dod i siarad â mi ar ddiwedd y wers. Roedd un ohonynt yn gwrthod siarad a mi ei hun ac yn gofyn i eraill wneud drosti gan nad oedd yn credu bod ei Saesneg yn ddigon da! Be nesa!

Kate a minnau yn mynd i Yiyang i ymweld a'r doctoriaid fu'n rhoi acupuncture i Kate gan eu bod wedi dod i'r coleg i geisio rhoi lluniau iddi yr wythnos diwethaf.

Croesawgar dros ben. Trosi o Saesneg i Chinese dros Kate a'r doctoriaid. Ymarfer da i mi!

Mynd i chwilio am ddyn gwerthu bagiau am fy mod eisiau prynu bag bychan. Dod o hyd i'r stondin ble prynodd Kate fag tua deufis yn ôl a phwy oedd y perchennog ond brawd Ms Shao (yr heddferch!)

Rhoddodd fag i mi am ddim gan ein bod yn ffrindiau.

Cael cinio mewn bwyty ar ochr lôn yn Yiyang. Wel dyna sôn am sylw! Pawb wedi cyffroi yn llwyr o gwmpas yr ardal!


Mai 19 - gwobr i bawb

Mynd i Changsha. Daeth Ms Sha efo ni. Y seremoni mewn gwesty yn y ddinas. Siarad â rhai o athrawon VSO eraill ac erbyn deall mae bron yn amhosibl peidio derbyn gwobr rhyw ben!

Yn y seremoni cawsom berfformiad gan ysgol ddrama Changsha, dan gynnwys Twinkle Twinkle Little Star yn cael ei hadrodd fel barddoniaeth!

Penderfynu aros dros nos yn y gwesty gan fod gweddill yr athrawon VSO yn gwneud hynny. Cost o 168 kuai am y
noson i ddwy ohonom. Talodd y coleg. - bargen!

Kate a minnau yn penderfynu ei bod yn bosibl ymweld â Changsha am y penwythnos yn amlach!

Cael pryd yn lobi'r gwesty - digon o ddewis ond ychydig iawn o ddewis i lysieuwyr. Bwyta nifer o deisennau a llawer o ffrwythau.

Dal tacsi i far Coco yn hwyrach ymlaen. Roedd gyrru trwy Chagsha gyda'r nos yn fy atgoffa o Beijing.

Bar modern, gorllewinol. Allan yn y bar tan oriau mân y bore - ew braf!

Heb sylweddoli faint o hiraeth oedd arnai am dipyn o fywyd nes gadael y coleg wir!

Mai 20 - byrgyr arall

Mynd i siopa efo Kate i'r archfarchnad i brynu bwyd a ballu.

Mynd i McDonalds am ginio - eto! Rhyfeddod. Fyddai byth yn myn yn agos i'r lle ym Mhrydain! Mae'n rhaid fod pethau yn reit ddrwg arnai!

Bron a marw eisiau unrhyw fath o fwyd gorllewinol mae'n rhaid.

Daeth car y coleg i'n nôl ni o'r gwesty. Cyrraedd yn ôl yn y coleg ganol prynhawn a pharatoi rhagor o wersi ar gyfer wythnos nesaf.





asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy