|
|
Gweld bywyd go iawn Beijing
Tipyn gwahanol i fywyd canol y ddinas Dydd Llun,Medi 3, 2001
|
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd yn dilyn ymweliad â Beijing KFC yn y parc - 29 Mehefin 2001 Treulio diwrnod ym Mharc Beihai (Môr Gogledd - na nid oes môr yn agos i Beijing!)).
Mae'r parc yn enfawr ac yn brydferth - a bod yn onest, yn llawer rhy fawr a methais yn lân a cherdded o gwmpas yr holl le. Un peth gwir o'i le - mae chwyldroad 'modern' y byrbrydau cyflym wedi cyrraedd y parc gyda KFC mawr ar ochr y llyn. Wedi i mi orffen euthum am dro tuag at Wangfujing - prif stryd siopa Beijing ond methais yn lân a ffoniais fy ffrind Ming a mynd i siopa gyda ef a ffrind arall o Brydain, Jason (cyfarfod y ddau nôl yn 1997 pan fum yn astudio yn y coleg yma) Aeth y tri ohonom yn ôl i fflat Jason sy'n byw mewn "chinese housing" - sydd yn anghyfreithlon ac y mae'n bosib i'r heddlu archwilio'r fflatiau a thaflu unrhyw dramorwr allan heb rybudd. Cyfraith y wlad yw fod fflatiau arbennig ar gyfer tramorwyr yn Beijing ond bod y rhataf yn costio dros fil o ddoleri y mis, a fflatiau Tsineaidd yn costio 600-1500 kuai y mis (rhwng $90 a $200 y mis!) Bum yn fflat Ming wedyn. Mae o'n byw mewn fflatiau gwahanol - ble mae tramorwyr a brodorion y wlad yn cael byw. Brodor o Beijing ydy Ming, mae ei gyn-wraig yn byw yn Lerpwl gyda'u dwy ferch. Mae'n rhyfedd ei glywed yn siarad a nhw ar y ffôn gan ei fod yn magu acen Lerpwl gref dros ben! Mynd i gyfarfod ffrindiau yn yr hostel. Mynd allan am ambell i ddiod a darganfod bod y drws wedi e gloi, felly rhaid oedd dringo i fewn trwy'r ffenestr - lwcus bod hwnnw ar agor! Helbulon cariad - Mehefin 30 Cariad Alex wedi gadael, hithau dipyn yn drist; felly ffwrdd a ni i wneud pethau benywaidd fel siopio, prynu cd's a dvd's a chael coctel yn Sanlitun (stryd bariau Ewropeaidd ei naws). Cyfarfod nifer o bobl o'r hostel ieuenctid am bryd nos. Mynd am Hwyaden Beijing (er nad ydw i'n bwyta cig fy hun te!!) pryd go lew yn unig ydoedd ac mewn bwyty reit ddrud. Cael digon o hwyl efo'r criw fodd bynnag - criw rhyngwladol go iawn; finnau o Gymru, Alex o Loegr, Akenba o Tanzania, boi o Ganada, a boi o Singapor sydd wedi dod i Beijing i chwilio am ei gariad. Rhedodd honno i ffwrdd oddi wrtho i Beijing tua deufis yn ôl! Disgyblion newydd - Mehefin 31 Gweithio yn y bore. Dim disgyblion newydd felly llond dosbarth o blant o Corea rwan a Draun o Fei Fei ydi'r unig un nad yw yn deall yr iaith! Mynd allan am bryd i fwyty bychan Xinjiang (gogledd-Orllewin China) ardal fwslemaidd. Staff yn siarad tafodiaith yma nid y Tsineaeg dwi wedi ei dysgu. Cael bara Naan yma - gwych!!!!! Helynt tri thenor - Gorffennaf 1 Un ferch newydd Chinese o'r enw Janey yn y dosbarth, Cwmni i Fei Fei! Cyfarfod Carolynn a'i gwr mewn bwyty Thai. Bwyd reit flasus a sgwrs diddorol. Darganfod fod dipyn o helynt wedi bod yn ystod perfformiad y Tri Thenor. Cafodd gohebydd o America ei guro gan yr heddlu yma am iddo dynnu lluniau o'r heddlu yn curo rhyw ddyn tu allan i'r Ddinas Waharddedig. Caniatâd i dynnu lluniau o'r tenoriaid a'r perfformiad yn unig oedd ganddo! Tybed beth ddigwydd os caiff Beijing yr Olympics? Damwainyn y dosbarth - Gorffennaf 2- 5 Gwneud mobiles bob prynhawn gan ddefnyddio cyfrifiadur a phopeth - dipyn o helynt efo llond dosbarth o blant 5-11 oed!
Neidiodd un o'r bechgyn amser chwarae ddydd Gwener a thorri ei arddwrn. Carolynn yn dweud i hyn ddigwydd o'r blaen yn yr ysgol a bod y nyrs wedi anfon y plentyn yn ôl i'r dosbarth yn syth. Felly, gyrrwyd y bachgen y tro hwn ar ei union i'r ysbyty. Staff yr ysgol yn hollol wael - i fod i ffonio'r tad fel ei fod yn cyfarfod â'r bachgen yn yr ysbyty, ond yn dweud wrtho am ddod i'r ysgol!!! DVDio - Gorffennaf 6-8 Penwythnos ddigon cyffredin. Mynd allan chydig go lew a phrynu rhagor o dvd's! Mae'n werth bod yma wir - er dwn i'm pa bryd dwi am brynu chwaraewr dvd's!!! Mynd am bryd arall i fwyty Thai. Bwyd rhesymol yn unig. Braf cael y dewis yma yn Beijing fodd bynnag!
|
|