大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Dim dwr, dim trydan
Profiadau Cymraes yn China
Dydd Llun, Mai 21, 20

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd.


Ebrill 10, 2001

Dim dwr na thrydan bore'ma felly molchi mewn powlen hefo dwr o fflasg (cadw fflasgiau dwr poeth yn barod - jyst rhag ofn!).

Gwylltio dipyn, yna cofio mai dyma fywyd nifer o bobl yn y wlad beth bynnag!

Derbyn parsel pen-blwydd gan fy nghariad sy'n dysgu Saesneg yn Inner Mongolia. Wedi ei anfon dros bythefnos yn ôl! Mae'n cymryd mwy o amser i bethau gyrraedd yn genedlaethol nag yn rhyngwladol!

Treulio'r prynhawn yn e-bostio, a gwneud copi o gêm Scrabble ar gyfer y llyfrgell. Mynd i English Corner hefyd. Dysgu Brother John (Frere Jaques) i'r myfyrwyr.

Mynd allan am bryd i Lao Difang, a Denver yn rhoi bwyd am ddim inni oherwydd ein bod yn ffrindiau bellach

Ebrill 11 - dysgu gwers

Mewn un wers darganfod fod nifer o'r myfyrwyr yn gwneud pob dim ond yr hyn oeddynt i fod i'w wneud! Cymerais bob llyfr a llythyr gan y myfyrwyr nad oedd yn gweithio. Daeth un ohonynt atai ddiwedd y wers i ymddiheuro!

Ebrill 12 - helynt awyren

Kate yn mynd i Beijing i weld y doctor heddiw. Dysgu, yna e-bostio. Siarad hefo'r 大象传媒 i roi'r newyddion diweddaraf am y ddamwain awyren Americanaidd.

Mae'n newyddion ofnadwy yma. Y wlad eisiau ymddiheuriad ond yr Unol Daleithiau'n gwrthod - does wybod faint fydd y broblem yn parhau!

Ar ôl dadlwytho instant messenger i'r cyfrifiadur gallaf gysylltu â nifer o gyd-athrawon dros y wlad! Defnyddiol a rhatach o lawer na ffonio!

Cael cinio cyn i Kate adael. Pryd blasus ond drud -12kuai - punt! Mae'n safonau wedi newid!
Tywydd braf felly cael eistedd allan ar y balconi yn darllen llyfr a bwyta pinafal!

Ebrill 13 - bara beunyddiol a dawns

Dysgu'n y bore - ond dim golwg o gwningen wen ddaeth un o'r myfyrwyr gyda hi i'r dosbarth yr wythnos ddiwethaf! Peth digon annwyl!

Prynu bara neis i ginio am 1 kuai.Balch ein bod ni'n medr prynu bara nad yw yn felys wir! Pobl eraill o gwmpas y wlad yn methu'n glir a dod o hyd i fara nad yw yn felys !!!

Ffonio Ms Xia i ddarganfod pryd mae'r gwyliau mis Mai. Erbyn gweld mae'n rhaid disgwyl hysbys genedlaethol!

Heddlu Yiyang wedi gwahodd y ddwy ohonom i ginio dydd! Mynd fy hun fydd raid gan fod Kate yn Beijing o hyd.

Ar ôl te derbyn galwad ffôn gan Mabel a gwahoddiad i fynd i ddawnsio gyda hi a'i ffrindiau.

Mae ystafell gefn un o'r siopau gyferbyn a'r coleg yn llawn o fyfyrwyr yn dawnsio! Nid disgo ond dawnsio clasurol! Cefais wersi sut i wneud y rhumba ar tango gan Mabel a Lisa ac ambell i fyfyriwr arall!

Sgil ddiddorol i'w dysgu yn China!

Rhyw ddyn yn gofyn imi ddawnsio - methu'n glir a deall pam nad oeddwn yn gyfarwydd a'r "Tri cam Sylfaenol"

Mabel o'r farn petai Kate yn dod yno na fyddai'n medru dawnsio gan ei bod lawer yn rhy dal i gael partner! (1 medr 84 ballu)

Ebrill15 - yn nwylo'r heddlu

Mynd allan hefo aelodau o'r PSB (yr heddlu). Galwodd Ms. Shao acw, y blismones ddaru ein gwahodd i'w chartref o'r blaen, hefo aelod o'r swyddfa sy'n medru siarad rhywfaint o Saesneg.

Dod acw tua 11 y bore cyn mynd â fi i Karaoke bar enfawr yng nghanol dinas Yiynag.

Mewn ystafell fechan (oedd yn cynnwys soffa, teledu, cyfrifiadur.... fel ystafell fyw fechan go iawn) cael ffrwythau i'w bwyta a diod o de.

Ms Shao yn gyndyn fy mod yn canu cân dim ots faint o brotestio o'n i'n ei wneud! Fedrai ddim canu nodyn ond yn ôl Ms Shao roeddwn yn canu'n wych.... y gân o'r ffilm Titanic!!!!!!

Yn y cyfamser daeth Pennaeth yr Heddlu a'i ferch i'r bar karaoke. Profiad a hanner ac ymarfer gwych i fy Chinese gan nad ydynt yn medru rhyw lawer o Saesneg.

Mynd i dy bwyta moethus wedyn am ginio. Cael ystafell breifat yno a digon o sylw.

Archebu llond lle o fwyd, pysgod, crancod, chou doufu (tofu drewllyd, arbenigedd talaith Hunan ac un o hoff fwydydd Mao yn ôl pob sôn) a phob math o lysiau.

Yr heddlu i gyd yn gyfeillgar iawn ac yn holi llawer am gostau astudio ym Mhrydain er mwyn eu plant.

Yfed gwin coch sych (mae tuedd yma i roi siwgr ymhob dim) yr unig broblem oedd eu bod hefyd wedi ychwanegu Sprite a ciwcymbyrs at y ddiod!

Cael fy mwydo gan Ms Shao - mae'n draddodiad yma i ddangos parch trwy roi bwyd ar blât rhywun arall... felly bwyta llawer gormod rhag pechu!

Cael cynnig mynd i'r wlad neu i bysgota hefo nhw wedyn ond ffoniodd Wang Jun i ddweud bod Kate wedi cyrraedd yn ôl ac wedi ei chloi allan o'r fflat!

Gwneud cynlluniau i fynd 'i chwarae' (trosiad llythrennol o'r Chinese sydd yn cael ei ddefnyddio'n aml yma mewn Saesneg hefyd!) eto hefo'r heddlu gan nad oeddem wedi chwarae digon!

Ebrill16 - diwrnod heb saim

Penderfynu peidio bwyta saim heddiw gan fod y bwyd yma yn llawn saim er yn flasus dros ben!

Aeth Kate i'r farchnad i brynu llysiau ond - wrth gwrs - tra yng nghanol paratoi diffoddodd y trydan

Dod o hyd i mosquito repellent Titanic yn un o'r siopau tu allan i giât y coleg!

Ebrill 17 - diwrnod golchi

Dwr a thrydan ymlaen ac i ffwrdd bob munud heddiw. Cymryd oriau i olchi dillad.

Ebrill 18 - sêr teledu

Diwrnod prysur. Cael bod yn sêr teledu unwaith eto! Yn y prynhawn daeth dau fyfyriwr draw i holi Kate a minnau ynglyn â gwneud rhaglen deledu ar gyfer Yiyang Education TV.


Mynd i'r Ysgol Ganol ar y campws am hanner awr wedi tri i ddisgwyl i'r criw ffilmiau ddechrau ffilmio. Wrth gwrs rhaid oedd disgwyl am oes pys!

Eistedd yn ystafell y prifathro sy'n dra gwahanol i ystafell prifathrawon ysgolion cynradd Cymru - llawr concrit, dim trydan (eto!) a thua phedwar person arall yn gweithio yno hefyd, pawb yn ysmygu....)

Roedd mam Jerry yn y swyddfa hefyd ac wrth ei bodd ein bod ni yno. Prynodd guazi (hadau blodyn haul), bisgedi blas chilli, siocled a phapur i Kate a finnau, a rhyw fath o hufen iâ od wedi ei wneud o ffa soya.

Mae dros ddwy fil o ddisgyblion yn yr ysgol a nifer ohonyn nhw yn cysgu'r nos yno.

Mynd i fyny at y lawnt tu allan i lyfrgell y coleg i baratoi ffilmio hefo aelodau clwb Saesneg yr Ysgol Ganol.

Yr holl beth wedi ei drefnu fel perfformiad enfawr er nad oedd unrhyw un wedi dweud gair am hyn wrth Kate a finnau.

Erbyn deall mae Kate a finnau yn aelodau o'r clwb Saesneg er na wyddem am fodolaeth y clwb tan heddiw!

Ar ôl tynnu llun hefo nifer fawr o'r plant a rhai o athrawesau Saesneg yr ysgol Ganol - Merched croesawgar, hwyliog, iawn - mynd am 'wledd' unwaith eto gyda gwin coch a chwrw.

Bwyd od eto - 'like turtles but not turtles'?! a chlustiau moch.

Y criw ffilmio yn cynnig gan bei i ni a dweud nad ydynt erioed wedi yfed hefo merched sy'n medru yfed o'r blaen - dydan ni ddim yn siwr os ydy hyn yn beth da ta'n beth drwg!

Criw ffilmio yno hefyd yn cynnig i ni fynd allan i Yiyang i le karaoke, i far ac i ddisgo. Y coleg yn penderfynu am ryw reswm na ddyliem fynd allan.... o wel!

Ebrill19 - storm

Tresio bwrw y prynhawn - storm o fellt a tharanau felly doedd dim trydan na dwr.

Mr Yang yn gofyn imi edrych dros erthygl a sgrifennodd ar gyfer cylchgrawn academaidd, Teaching English in China.

Ebrill 20 -
Heb drydan a dwr y rhan fwyaf o'r diwrnod eto.

Noson ddiddorol yn annisgwyl. Cael pryd yn Lao Difang gyda'r nos. Pobl sydd yn byw fyny grisiau hefyd yn cael pryd yno. Pobl neis iawn. Bwyta hefo ni yn y ty bwyta.

Cael cynnig malwod dwr ganddynt.

Trydan i ffwrdd am weddill y noson, sgwrsio hefo Kate yng ngolau cannwyll.

Ebrill 28 - gweld lluniau

Mynd i dy MS Sha a chael gweld pob llun oedd ganddi o'r teulu - o bawb a phob dim, bob oedran a phob gwyliau!

Coginiodd bryd enfawr, 'roedd ei merch, ei gwr, pennaeth yr heddlu, ei wraig a'i blentyn yno hefyd.

Cawsom brydau cyffredin - llysiau a chrancod, yn ogystal a rhyw fath o slugs! Neis iawn!

Roedd pennaeth yr heddlu yn feddw yn sgwrsio mewn hanner Tsineag a hanner Saesneg gan geiso ein hannog i fynd i ganu karaoke.





asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy