|
|
Prydferthwch Chineaidd
Golwg arall ar ddyddiadur Cymraes yn China Dydd Llun, Ionawr 14, 2002
|
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd
19/10/01 - pethau sydd ar gael Yn yr archfarchnad yn Yiyang rhyfeddu fod yr hyn sy'n cael ei werthu yn newid mor aml, e.e. bariau siocled (hollbwysig!) ddim i'w cael yn unman ar hyn o bryd ond digonedd o sudd ffrwythau oedd yn amhosibl i'w cael gwpl o fisoedd yn ôl! Hanner cant o hwyaid yn cael eu harwain i lawr y lôn fawr gan ddyn efo polyn. Golygfa ryfedd dros ben! 20/10/01 - bara go iawn Mynd am dro a dod o hyd i fecws sy'n gwerthu bisgedi gwych! Blasu fel rhai go iawn! Yn yr ysgol ganol - tua hanner cant o ddisgyblion yn chwarae gemau, canu caneuon a chynnal cwis Saesneg. Treulio awr yn y clwb Saesneg a chael tynnu ein lluniau - wrth gwrs! Derbyn anrheg ganddynt - chwe gwydr yr un (erbyn diwedd ein hamser yma bydd casgliad enfawr o wydrau gennym!). 21/10/01 - hyfforddi'n filwyr Dynion yn gwneud cwiltiau gwlan y tu allan i'r coleg gan ddefnyddio peiriant cartref a dull hen ffasiwn o ymestyn y gwlan a'i rwymo gyda'i gilydd. Gwnued hyn i gyd â llaw. Mynd i ymarfer ar gyfer twrnament pel foli. Penderfynu peidio gwneud ffwl ohonof fy hun ond gwylio'r lleill yn ymarfer. Gweld Moffat - un o fyfyrwyr Kate (wedi enwi ei hun ar ôl grwp pop o Canada) a mynd am de gyda fo. Y flwyddyn gyntaf yn gwneud eu hyfforddiant milwrol. Syniad diddorol ond ni allaf y'i weld yn gweithio ym mhrifysgolion Prydain! 22/10/01 - prydferthwch Ar ganol gwers, myfyrwyr yn gweiddi arnof "Oh you are so beautiful!" Y syniad o brydferthwch yma ydi croen gwyn. 24/10/01 - lladd ieir Gweld ieir yn cael eu lladd a'u pluo ar ochr y lôn.! Glanhau'r ty ar gyfer parti y penwythnos yma. Athrawon VSO i gyd o Hunan yn dod yma. 26/10/01 - Saesneg o iawn o'r diwedd Rhoi gwers ar greulondeb i anifeiliaid. Gofyn pwy fyddai'n fodlon talu am weld eirth yn dawnsio, pwy sy'n meddwl fod lladd anifeiliad i'w bwyta yn iawn. Bron bob un yn credu fod lladd anifeiliad ar gyfer eu cig yn greulon ond pob unohonynt yn bwyta cig! Hwythau yn dweud fod pobl yma yn credu ein bod ni yn trin anifeiliaid yn well na phlant! Kate a finnau wrth ein boddau gweld tramorwyr eraill. Gwneud chips a wyau a mynd allan yn hwyr i brynu cwrw. Perchennog y siop yn meddwl fod yr holl beth yn ddigrif dros ben - pedair merch yn cario bocs o gwrw. Aros i fyny tan oriau mân y bore yn sgwrsio. Ew, braf cael sgwrsio â rhywun sy'n deall Saesneg yn iawn!
|
|