大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!
Profiadau Cymraes sy'n treulio dwy flynedd yn athrawes yn China

Y mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China.

Dyma gyfraniad cyntaf Delyth - neu Dailaisi bellach! - i 大象传媒 Cymru'r Byd yn son am ei phrofiadau.



Mawrth 1, 2001


Amhosib bwyta noodles heb wneud golwg!

Cyrraedd gorsaf Changsha, prifddinas talaith Hunan, ar amser - 4.10 y bore yn union (ew, profiad braf cael teithio ar drên sy'n cyrraedd ar amser wir!).

Kate a finnau yn gollwng ein bagiau i gyd un wrth un o'r trên a disgwyl ar y platfform am rywun o Goleg Athrawon Yiyang i'n tywys yno.

Buom yn disgwyl am tua deng munud ond tra'n disgwyl daeth nifer o yrwyr tacsi atom i ofyn os oedd angen un arnom.

Dim ots faint o weithiau ddwedes i na, 'roedd pob un ohonynt yn bendant ein bod wir angen tacsi.

Digon teg - 'roedd digon o fagiau o'n blaenau!

Pen hir a hwyr daeth Wang Jun, athro Saesneg, i'n cyfarfod, a dyma stryffaglio at fynedfa'r orsaf.

Yno 'roedd gyrrwr y coleg a chyn-bennaeth yr adran Saesneg a phrin ddigon o le i'r pump ohonom yn y car ar ôl pacio'r bagiau i gyd!

A ffwrdd a ni am westy am weddill y noson.

Ew - 'roedd hi'n braf cael cysgu dipyn er ei bod hi'n rhewllyd a minnau'n disgwyl y byddai'n gynhesach yma nag yn y Gogledd!)

Gwrthod KFC

Codi am tua 11 y bore a chael cynnig mynd i KFC am frecwast (mae prydau cyflym Americanaidd wedi cyrraedd China!) ond y ddwy ohonom yn egluro ein bod yn llysieuwyr felly ffwrdd a ni i gael brecwast Chinese go iawn - powlen fawr o noodles hefo wy 'di ffrio ar ei ben.

'Does dim posib bwyta noodles heb wneud golwg ac mae angen dipyn o amynedd ac ymarfer i'w bwyta efo chopsticks hefyd!

Ar ôl y brecwast Tsineaidd cyntaf, cawsom ein tywys o gwmpas y ddinas. Ymweld ag Amgueddfa Hunan, oedd wedi cau ganol dydd ( China!) ac Ynys Oren sy'n enwog oherwydd i'r Cadeirydd Mao gyfansoddi barddoniaeth am y lle pan yn ifanc.

Wrth inni fynd lawr y lôn tuag at yr ynys nifer o berchenogion tai bwyta yn ceisio stopio'r car trwy sefyll yng nghanol y lôn!

Ar ôl cael cinio - 'chydig o oriau ar ôl brecwast, felly dim rhyfedd bod pobl yn meddwl fod brodorion y wlad yn hoffi bwyta! - aethom tua choleg Yiyang sydd wedi ei leoli yng nghanol y wlad rhyw 80 km o Changsha.

Mae'r coleg tuag ugain munud o ddinas Yiyang hefyd gyda rhyw fath o bentref bychan wedi codi o'i gwmpas. Llond lle o dai bwyta bychain, siopau a marchnad.

Cael golwg ar fy nghartref am y ddwy flynedd nesaf - wel dyna sioc. Fflat cyffyrddus, pedair ystafell, teledu, vcd, peiriant golchi yr un, cyfrifiadur a chegin i'w rhannu.

'Dwn i'm beth oeddwn i'n ei ddisgwyl a dweud y gwir...

Mawrth 2, 2001

Cyfarfod y myfyrwyr - rhai'n siarad yn ddi-baid

Dydd Gwener am wyth, Mr Yang, cyn-bennaeth yr adran Saesneg, yn dod i'n nôl i gael brecwast - y nwdls unwaith eto!

Yna am 8.50 mynd efo Wang Jun i gyfarfod rhai o'r myfyrwyr.

Rhannwyd y dosbarth yn ddau, a thywyswyd Kate a fi o gwmpas y campws gan y myfyrwyr.

Criw reit dda a dweud y gwir. Rhai ohonynt yn siarad yn ddi-baid, eraill yn chwithig a thawel.

Gwelodd y flwyddyn gyntaf ni yn cerdded o gwmpas efo'r drydedd. 'Roedd rhain wrth eu boddau - erioed wedi cael athrawon tramor o'r blaen. Pob wyneb yn dod at y ffenestr ac yn gweiddi "Hello, I welcome you to Yiyang Teacher's College."

'Dwi erioed wedi bod mor boblogaidd!

Baner goch ar y wal

Am bedwar o'r gloch 'roedd cyfarfod gyda phenaethiaid y coleg gyda baner goch ar y wal i groesawu'r ddwy ohonom i Goleg Athrawon Yiyang, a phrif olygydd papur newydd y coleg yno i dynnu lluniau ohonom.

Gwahoddwyd ni i 'wledd' gan Ganghellor y Coleg. Traddodiad Tsineaidd pan yn croesawu rhywun.

Y broblem fwyaf efo'r gwledda yw'r 'baijiu' (llythrennol - alcohol gwyn) a'r 'ganbei' (llythrennol 'sychu gwydr').

Pob tro mae rhywun yn dymuno iechyd da, rhaid sefyll a 'ganbei'.

Rhaid rhoi cnoc sydyn i'r ddiod, sy'n llosgi cefn y gwddf ac yn gadael blas od yn y geg, er mwyn dangos gwerthfawrogiad !!

Help!

Mawrth 3, 2001

Darganfod y wlad go iawn

Dim gwneud rhyw lawer a dweud y gwir ond prynu pethau sydd eu hangen arnom.

Cael pryd allan mewn ty bwyta bychan ar ochr y lôn.

Mae'r perchennog yn byw yn y ty bwyta, uwchben y gegin (darn o'r ty bwyta lle mae'r woc yn cael i gadw!).

Roedd yn ddyn digon croesawgar a chawsom bryd blasus a sgwrs mewn Chinese am 6 kuai (50 ceiniog ballu).

Crwydro o gwmpas y campws wedyn a dod o hyd i siop gwerthu bisgedi (darganfyddiad pwysig!) a'r 'sinema' awyr agor (wal wedi ei pheintio yn wyn).

Mynd am grwydr dros wal y coleg hefyd, a darganfod y wlad go iawn.

Tai bychain, llyn, caeau o lysiau. Rhyw olygfa debyg i'r Tsiena'r ffilmiau, bron fel camu'n ôl mewn amser.

Tair o enethod bach yn penderfynu ein dilyn am ryw reswm.

Cyfarfod athro Saesneg sy'n byw i fyny'r grisiau. Tydi ei Saesneg yntau ddim yn wych er ei fod yn groesawgar iawn.

Mawrth 4, 2001

Gwahoddiad i swper gyda Duran Duran!

Mynd allan am ginio i dy bwyta a chyfarfod nifer o athrawon Saesneg yno.

Erbyn gweld chwaer un o'r athrawon ydy'r perchennog!

Byd bach!

Cael mynd i mewn i'r gegin i ddewis bwyd a gweld hwyaid wedi sychu yn hongian ar y wal yno.

Llun o China go iawn!

Treulio amser maith yma yn siarad efo Kate a'r athrawon Saesneg. Pryd bwyd rhyngddom dipyn drutach yma - 16 kuai (punt pumdeg) am bysgodyn, gwreiddyn lotus a thatws!

'Roedd pysgodyn ar ei ben ei hun bron gymaint â hyn yn Xi'an.

Ganol y prynhawn daeth tri bachgen bach i ymweld â ni. Un ohonynt â Saesneg da iawn.

Y Rhain yn ein gwahodd allan i chwarae felly dyma chwarae allan efo griw o blant bach.

Un bachgen tua phump oed yn dod i chwarae efo ni.

Ddwedwn i mai Zhuang Zhuan ydy ei enw ond mae Kate yn mynnu mai Duran Duran (ia - y grwp!) ydy ei enw, felly dyna fu ei enw gydol y prynhawn.

Cawsom anrhegion fel poteli o fybls gan y plant, a sylw pob oedolyn oedd yn pasio!

Cawsom wahoddiad i dy y bachgen sy'n medru Saesneg, Jerry (mae gan bawb sy'n siarad Saesneg yma enw Saesneg yn ogystal â'i enw Tsineaidd) a chael pryd nos gyda fo a'i rieni.

Ychydig iawn o Saesneg siaradai'r fam ond rhwng fy Chinese i a Saesneg ei mab cawsom ddigon o hwyl.





asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy