|
|
Acupuncture i drechu'r mwg
Dyddiadur Cymraes yn China.
|
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 大象传媒 Cymru'r Byd.
Mawrth 24, 2001 - croeso brenhinolMynd i Yiyang efo Kate a dwy o'r myfyrwyr. Kate eisiau acupuncture i helpu rhoi'r gorau i ysmygu. Dod o hyd i'r ysbyty yn y dref a chael ein trin fel aelodau o'r teulu brenhinol a'n tywys i ystafell arbennig, swyddfa pennaeth yr adran feddygaeth Tsineaidd, nid yr ystafell llawr goncrid a stolion bychan pren oedd pawb arall yn ei defnyddio! Cyn pen hir a hwyr ac ar ôl cael cynnig pob math o driniaeth ddrud cafodd Kate y ddos gyntaf o acupuncture mewn ystafell oedd digon tebyg i ystafell gwesty. Llawr concrid glân, dau wely a theledu! Pen tua hanner awr daeth Is-Bennaeth yr ysbyty i'n gweld gan dywys dyn tynnu lluniau'r ysbyty a dynnodd lun ohono yn edrych yn bwysig gyda Kate ac yn ysgwyd llaw â mi. Ar ôl cinio mynd i siopa o gwmpas y dref. Daeth merch ifanc ataf mewn siop a dweud "Oh. how beautiful you are." Myfyrwraig 18 oed oedd hi a siaradai rywfaint o Saesneg - ond dim gwerth sôn amdano ac ni allai ateb cwestiynau digon syml! Dod o hyd i siop gwerthu CD's a phrynu tri. A pham lai gan mai dim ond 10 kuai yr un oeddan nhw (70c!). Waeth imi hel CD's fan hyn ddim!! Mynd i archfarchnad wedyn a phrynu bara Ffrengig ond roedd fel gwm cnoi, ond dyna ni, fel'na mae! O leiaf mae'n bosib prynu bara sydd ddim yn felys yma! Prynu basgedi bambw mawr ar gyfer y ty, felly rhaid oedd dal tacsi yn ôl i'r coleg a bargeinio efo'r gyrrwr. Dim ond wrth inni ddechrau cerdded tuag at dacsi arall y cytunodd ar bris teg. Dechreuodd gwyno efo'r myfyrwyr wedyn gan ddweud y dylen nhw ei gefnogi o ac nid y ni gan ei fod yn frodor o'r un wlad....! Mawrth 25 - ffonio adref Gwneud nesa peth i ddim. Tra bu Kate am ei acupuncture mi fum i yn ffotocopïo gwaith ar gyfer yr wythnos nesaf. Gweld rhai o fy myfyrwyr oedd yn disgwyl canlyniad cyfweliad efo adran addysg talaith arall, felly ffwrdd a fi i ddisgwyl efo nhw. Cael sawl cynnig i fynd o gwmpas Yiyang efo nhw. Ceisio ffonio adref yn hwyrach ymlaen i siarad efo mam a dad. Ffonio mam a dad. Braf cael hanes Cymru fach a chael ymarfer yr iaith wir! Mawrth 26 - trafod cornel Saesneg Dydd Llun reit gyffredin. Dysgu yn y bore. Gwneud dipyn o waith yn y prynhawn. Kate yn mynd i gael acupuncture a thriniaeth drydan i'w phen-glin. Cafodd sioc yng ngwir ystyr y gair. Gan nad oedd y driniaeth yn gweithio trowyd y trydan yn uwch.... yn llawer rhy uchel! Druan ohoni! Mabel a Cecilia (dwy o fyfyrwyr y drydedd) yn dod draw i goginio inni. Y ddwy wedi prynu ein hoff lysiau i baratoi'r pryd a choginio cymaint o chillies nes bo llygaid Kate a minnau'n diferu, a'r ddwy ohonom yn tagu yn y fflat. 'Dwn i'm sut oedd y ddwy ohonynt yn medru aros yn y gegin i goginio wir! Mynd i'r llyfrgell. Rhoi cyfrifioldeb am y llyfrgell i dair o fyfyrwyr yr ail a hwythau wrth eu boddau. Robbie a Moffet yn galw i drafod English Corner. Eisau i Kate a finnau ddysgu cân i'r myfyrwyr a chware gêm ddyfalu geiriau hefyd fory. Mawrth 29 - cwisio Diwrnod annisgwyl o brysur. Dysgu yn y bore a mynd i gyfarfod Wang Jun er mwyn cael tâl mis Mawrth o'r swyddfa. Wrth gwrs, rhaid oedd mynd o un swyddfa i'r llall i gael llofnodion a stampiau di-ri cyn medru mynd at y swyddfa ariannol i dderbyn y tâl. Ond ar ôl cyrraedd y swyddfa, efo pob stamp a llofnod bosibl, dyma ddarganfod nad oedd y person hollalluog arbennig efo'r goriad ar gael tan y prynhawn. China! Cyfarfod â nifer o fyfyrwyr i drafod methodoleg yn y prynhawn. Pob un eisiau gwybod sut i wneud gwers anniddorol yn ddiddorol. Maent yn cael gwersi methodoleg ond yn casáu mynd iddyn nhw gan eu bod yn hynod o ddiflas! Gofyn pob math o gwestiynau imi - sut i ddelio â phlant sy'n cambyhafio, sut i wneud gwersi gramadeg yn ddiddorol, sut i dynnu lluniau diddorol ar y bwrdd du... Mynd i gyfarfod athrawon gyda'r nos. Braf cael gwahoddiad gan fod nifer o athrawon tramor mewn colegau eraill yn cael eu hanwybyddu. Rhoi darlith ar gelfyddyd a bywyd Prydain i'r athrawon gan egluro'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ymysg pethau eraill. Dysgais ambell i frawddeg Gymraeg iddyn nhw a cheisio egluro bywyd Cymru. Gofynnodd un o'r athrawon imi egluro'r rhesymau crefyddol tu ôl i helynt Gogledd Iwerddon! O wel......! Cynnal cwis gwybodaeth gyffredinol ar Brydain. Mae'n rhyfeddol cyn lleied a wybodaeth sydd gan yr athrawon am Brydain a bydd yn rhaid inni roi darlithoedd ymhob cyfarfod athrawon o hyn allan ar amryw o bynciau. Gwell dechrau paratoi! Cael gwahoddiad i dy un o'r athrawon bnawn Sadwrn. Gadael y coleg am wyth y bore!! Syniad diddorol! Mawrth 30- hufen iâ drud Dod o hyd i dy coffi tua chanllath tu allan i giât y coleg. Cerddoriaeth yno'n uchel dros ben a mwy o staff nag o gwsmeriaid. Prynu hufen iâ - wedi meddalu! - am bris trybeilig. Drutach na'r pryd yn neuadd cinio rhif tri! Fyddai ddim yn dychwelyd! Ymlacio a gwylio ffilm gyda'r nos. Braf medru gwylio ffilmiau Saesneg o dro i dro! Mawrth 31 - crefftau lleol o bell Diwrnod gwych hollol annisgwyl. Mynd i'r neuadd fwyta amser cinio a gweld Mabel a Steven, un o fyfyrwyr Kate. Trefnu mynd i chwarae badminton efo Steven ac un o'r cogyddion na all siarad gair o Saesneg. Mynd efo Mabel i siop dlysau y tu allan i'r coleg. Er y dywedwyd wrthym mai'r perchennog sy'n gwneud y tlysau ei hun, sylwais ar y geiriau 'made in Italy' ar un o'r breichledau! O wel! Mynd wedyn i'r farchnad a dod o hyd i dy te Tsineaidd. Wel, tebycach i karaoke bar a dweud y gwir. Un CD Saesneg oedd ganddyn nhw, felly ffwrdd a Kate i ganu'r caneuon. Wrth gwrs, 'roedd yr anfarwol Titanic ar y CD! Mae pobl yma wrth eu boddau efo'r ffilm! Dynion, oedd i fyny grisiau, yn dod lawr i weld beth oedd y canu, yna eistedd o gwmpas a churo dwylo bob munud tra'r oedd Kate yn canu! Mynd i chwarae badminton efo Robbie (y cogydd) a Steven cyn mynd yn ôl i'r farchnad i brynu llysiau. Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben. S'gen i'm syniad sut ond bob to 'da ni'n ceisio coginio mae blas drwg ar y naw ar y bwyd! Ar ôl bwyta chwaraewyd Scrabble a Taboo. Gemau gwych i ddarganfod beth yw safon iaith y ddau. Ar ôl i'r ddau adael chwaraeodd Kate a minnau Scrabble cyn derbyn galwadau ffôn gan ffrindiau sy'n dysgu yma hefyd. Ebrill 1 - Ffwl Ebrill Un o'r myfyrwyr yn fy ffonio i ddymuno Ffwl Ebril Hapus imi! Ffonio, am ei bod wedi mynd gartref dros y penwythnos ac nad oedd unrhyw un arall yno. Hithau wedi bwriadu dweud wrthai ei bod yn disgwyl amdanai rywle yn y coleg er mwyn chwarae tric arnaf ond penderfynodd beidio am ei bod yn credu fod hyn yn rhy greulon!
Ebrill 2 - Gwylltio yn y dosbarth Diwrnod anghyffredin.Dysgu yn y bore. Gwylltio efo un dosbarth oedd yn cau ateb cwestiynau. Un o'r aelodau'n hapus yn darllen rhyw lyfr yn y wers llafar felly 'dwi wedi bygwth gyrru'r nesaf fydd yn gwneud hynny at bennaeth yr adran i egluro pam yn union! Mae'n od ar y naw fod pob un ohonyn nhw eisiau gwella eu Saesneg ond yn cau ymarfer! Wang Jun yn dod draw efo rhyw ddyn i drwsio cawod Kate. Mae hi wedi cael un drydan, newydd efo remote control, sy'n siarad! Be nesaf?! Dal heb weithio allan sut a pham mae angen remote control ar gawod! Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu. Blasus dros ben. Mynd i'r llyfrgell hefo Kate a daw Scarlet, Susie, Louisia ac Apple yno. Cael sgwrs reit ddifyr. Yr unig broblem yw bod un neu ddwy ohonyn nhw yn tueddu i fy nilyn fel ci bach!
|
|