´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Aneurin Cadeirio Aneurin
Rapiwr pum iaith yn taro deuddeg
Rapiwr pumieithog enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Ond cerddi yn yr hen fesurau caeth Cymreig, traddodiadol, enillodd y dydd i Aneurin Karadog o Bontypridd.

Ac ar y llwyfan gydag ef yn ystod y seremoni yr oedd bardd y daeth yn ail iddo yn yr un gystadleuaeth ddwywaith o'r blaen, Ifan Prys.

Ar y sgrin fawr ar faes y Steddfod"Fe ddes i'n ail iddo fo ddwywaith - ond rydym yn ffrindiau mawr," meddai Aneurin gan ddweud i'r ddau fod yn siarad â'i gilydd y diwrnod cynt gyda'r naill a'r llall yn gwybod am y fuddugoliaeth ond yn methu cyfaddef hynny wrth ei gilydd.

"Dd'wedodd neb ddim lot!" meddai Aneurin wrth siarad â'r wasg yn dilyn y seremoni ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.

Gyda'i fam yn Llydawes mae Aneurin yn siarad nifer o ieithoedd er yn blentyn.Pan gyfarfu ei dad a'i fam gyntaf Ffrangeg oedd eu hunig iaith gyffredin.

"Felly yr oedden nhw yn siarad Ffrangeg a'i gilydd a nhad yn siarad Cymraeg a mi a Mam yna mi mewn Llydaweg."

Yr oedd Aneurin oddeutu chwech oed pan ddechreuodd ef ddysgu Ffrangeg.

Mae'n siarad Saesneg hefyd a dysgodd Sbaeneg fel pwnc ysgol.

"Sbaeneg yw'r unig iaith imi ei dysgu yn ffurfiol," meddai.

Wedi gadael ysgol bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Newydd Rhydychen ac wedi cyfnod gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf mae'n awr yn ymchwilydd teledu gyda Thinopolis.

Yn yr ysgol y sbardunwyd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth - wedi iddo ennill cadair yn eisteddfod yr ysgol.

Tra'n dysgu am y cynganeddion yn yr ysgol dechreuodd fynychu gwersi cynganeddu gyda Rhys Dafis, "Oherwydd fy mod eisiau mwy na dim ond deall y cynganeddion," meddai.

Yn ogystal â'i ddiddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg mae hefyd yn rapiwr brwd - gan ymarfer y grefft yn ei bum iaith.

O'r pump, dywedodd mai Ffrangeg "gyda thrwynoldeb ei seiniau" yw'r anoddaf i rapiwr!

Yn y Gymraeg y mae'n barddoni.

"Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn barddoni yn y Gymraeg ac felly yn eitha amharod trio ieithoedd eraill," meddai.

Ond ychwanegodd ei fod yn arbrofi gyda chynganeddu yn y Llydaweg.

Cerddi yn darlunio cyflwr cymoedd diwydiannol y de ddwyrain a enillodd y gadair iddo.

Aneurin"Maen nhw'n darlunio agweddau cadarnhaol a negyddol y cymoedd gan gynnwys cyffuriau, tlodi, diweithdra a chyflwr yr iaith Gymraeg a'r gwaith sydd angen i'w wneud i'w hadfer yn dilyn Thatcheriaeth," meddai.

Dywedodd ei fod o'r farn y gall adfywiad yr iaith arwain at adfywiad y cymoedd.

"Rwy'n ceisio dangos sut y gellid defnyddio'r iaith Gymraeg i adfer y cymoedd," meddai.

"Trio darlunio realiti pethau ydw i yn y cerddi," meddai..

Ychwanegodd ei fod yn fwy gobeithiol am ddyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymoedd na'r Llydaweg yn Llydaw.




About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý