大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Stondinwyr 'mewn gwlag'
Cwyno iddynt gael eu halltudio
Mae rhai o stondinwyr maes yr Eisteddfod wedi cyhuddo'r Urdd o'u halltudio i gwlag ar y maes nad oes fawr neb yn ymweld ag ef!

Dywedodd un o'r stondinwyr y gosodwyd eu pebyll ger yr Eglwys Norwyaidd yn y Bae yng Nghaerdydd y bydd yn ystyried gofyn i'r Urdd am ostyngiad yn ei rent.

Mae na Steddfod draw acwOnd dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Sian Eirian, na fyddai modd i'r Urdd wybod cyn yr Eisteddfod pa rannau fyddai fwyaf poblogaidd ymhlith cerddwyr y Maes.

Ond erbyn dydd Mercher yr Eisteddfod dywedodd rhai o'r pabellwyr yn y rhan hon o'r maes eu bod yn teimlo iddynt gael eu "halltudio".

Colli arian
"Mae ein busnes ni i lawr 拢250 i 拢300 y dydd o'i gymharu 芒'r llynedd oherwydd ei bod mor ddistaw yma," meddai Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dafydd Morgan Lewis - disgwyl cwsmeriaid"Mae rhywun yn gofyn iddo'i hun be mae o wedi'i wneud i'r Urdd i haeddu alltudiaeth i gwlag o'r fath," meddai.

"Ar ben hynny mae'r Urdd yn erfyn am i stondinwyr ddod yma a chefnogi'r Eisteddfod ond wedyn yn eu rhoi ni mewn lle fel hyn," ychwanegodd.

Pen draw'r byd
Cwmni arall sy'n anhapus iawn 芒'r lleoliad ydi cyhoeddwyr Y Cymro gyda'r swyddog marchnata y papur, Robin Jones, wedi disgrifio'r lleoliad fel "pen draw'r byd" ar y rhaglen radio, Taro'r Post.

Ac meddai Ioan Huws, y golygydd: "Mae rhywun yn colli holl fwrlwm yr Eisteddfod mewn lle fel hyn. Dydi rhywun ddim yn teimlo ei fod yn rhan o'r Eisteddfod o gwbl a dyna holl bwrpas dod yma.

Disgwyl am gwsmeriaid"Y s么n yw fod yr Eisteddfod yn bwriadu dychwelyd yma bob pedair blynedd - allai ond gobeithio bod hon yn wers fydd wedi ei dysgu erbyn hynny."

Dywedodd Sian Eirian, er na allai'r Urdd ragweld cyn cynnal yr Eisteddfod pa rannau o'r maes fyddai fwyaf poblogaidd ymhlith eisteddfodwyr ei bod "wastad yn barod i wrando" ar yr hyn sy'n cael ei ddweud gan stondinwyr ac eraill.




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy