Tlws i ddawnsiwr clocsen Ennill Tlws John a Ceridwen Hughes
Arbenigwr ar ddawns y glocsen yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
Mae'r tlws yn cael ei roi i rai sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru.
Roedd Mansel Phillips o Fryn Iwan ger Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin, yn un o griw bach a roddodd gychwyn i Aelwyd Hafodwenog yn Ionawr 1980.
Bu'n dysgu clocsio a dawnsio gwerin i bobl ifanc ers blynyddoedd lawer - gyda chriwiau Dawnswyr Tawerin, Dawnswyr Talog ac, wrth gwrs, Dawnswyr Hafodwenog.
Bellach mae'r bobl ifanc y bu'n eu dysgu yn hyfforddi dawnswyr eu hunain.
Mae Mansel yn feirniad yn y ddwy eisteddfod genedlaethol.
Yn wreiddiol o Gapel Iwan ger Castell Newydd Emlyn, mae ef a'i wraig yn byw ym Mryn Iwan a'u tri o blant yn gystadleuwyr brwd.
A chan fod Mansel erbyn hyn wedi trosglwyddo awenau'r Aelwyd i griw newydd, dywed mai 'gyrrwr tacsi' ydi o erbyn hyn!
Mae'n arbennig o addas ei fod yn derbyn y Tlws eleni a hithau'n chwarter canrif yr Aelwyd.
Noddir y tlws yma yn flynyddol gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr. Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg - gwaith wyneb yn wyneb 芒 phobl ifanc dros 11 oed tu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.