|
|
|
³§±ð°ù±ð³¾´Ç²Ôï²¹³Ü Prif seremonïau a gweithgareddau |
|
|
|
DYDD LLUN PRIF FEDAL GELF: Cyflwynir mewn defod arbennig yn ystod y seremoni agoriadol. Rhoddir y Fedal Gelf gan Wasg Gomer, Llandysul. Meistr y Ddefod fydd Rhun ap Iorwerth a'r beirniaid yw Clive Williams a Dafydd Morris Brace Jones.
Y FEDAL LENYDDIAETH: Rhodd Rhian a Dafydd Huws, Ffwrnes Blwm, CaerffiliMeistres y Ddefod eleni yw Gwyneth Glyn a'r beirniaid yw Angharad Price a Mari George.
DYDD MAWRTH MEDAL Y DYSGWYR: Rhodd Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ogystal â rhodd o docyn llyfr gwerth £50.00 gan Gronfa Goffa Gwyn Daniel i gofio canmlwyddiant geni Gwyn ac Annie Daniel ym mis Awst 1904.Meistr y Ddefod yw Steven Wilshaw a'r beirniaid yw Nia Parry a Nerys Roberts.
DYDD MERCHER Y FEDAL DDRAMA: Rhodd Huw a Carol Davies, a'r teulu, er cof am rieni Huw - Eic a Beti Davies a'i chwaer Bethan. Meistr y Ddefod eleni yw Daniel Evans a'r beirniaid yw Mari Rhian Owen a Lowri Hughes.
DYDD IAU Y CADEIRIO: Rhodd Menter Caerdydd. Meistr y Ddefod yw Ifan Prys a'r beirniaid yw Ceri Wyn Jones a Karen Owen.
MEDAL JOHN A CERIDWEN HUGHES, UWCHALED: I gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynir medal John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes. Meistres y Ddefod yw Carol Davies, Llywydd yr Urdd.
DYDD GWENER Y CORONI: Roddir replica o'r goron eleni gan Nan Griffiths a'r teulu er cof am Merfyn Griffiths, Prifathro cyntaf Ysgol Gyfun Llanhari. Meistres y Ddefod yw Angharad Elen a'r beirniaid yw Emyr Davies a Gwyneth Glyn. Fel rhan o'r wobr bydd lle ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu TÅ· Newydd, Llanystumdwy yn cael ei gynnig i enillwyr cyntaf, ail a thrydydd yng nghystadlaethau Y Gadair, Y Goron, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Lenyddiaeth, a'r Fedal Ddrama.
TLWS Y PRIF GYFANSODDWR: Cyflwynir Medal Grace Williams gan Rhiannon Lewis ynghyd â rhodd o £100 gan Ymddiriedolaeth Pendyrus. Meistres y Ddefod fydd Nerys Richards a'r beirniad yw Euros Rhys Evans.
YSGOLORIAETH BRYN TERFEL: Y chweched ysgoloriaeth a sefydlwyd yn dilyn cyngerdd arbennig yn Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionydd, 1998 gyda Bryn Terfel a nifer o artistiaid eraill.
Bydd enillwyr wyth cystadleuaeth yn dychwelyd i gystadlu yn y Galeri, Caernarfon, nos Wener, Medi 16 2005 am yr Ysgoloriaeth sydd werth o gwmpas £4,000 i'w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant pellach mewn maes arbenigol.
Bob dydd ARDDANGOSFA CELF A DYLUNIO TECHNOLEG:Ar y thema Newid. Am y tro cyntaf bydd y gweithiau dau ddimensiwn yn cael eu harddangos yn orielau Canolfan y Mileniwm, ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, a bydd y gwaith tri dimensiwn yn cael ei arddangos mewn ystafell ar yr ail lawr.
ARDDANGOSFA GWYDDONIAETH A MATHEMATEG: Diolch i gefnogaeth gan yr Institute of Physics a'r Association of Science a grantiau gan flwyddyn Einstein a PPARC bydd Lab Mewn Lori a Star Lab yn yr Eisteddfod eleni.
ANTUR CELF: Yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm. Cyfle i wybod mwy am Ganolfan Mileniwm Cymru a'i chwmnïau preswyl.
DAWNS: Neuadd Ddawns yn adeilad Cwmni Dawns Diversions. Cynhelir holl gystadlaethau dawnsio disgo ar lwyfan y ´óÏó´«Ã½. Mae llwyfan hefyd yng nghanol y Roald Dahl Plass, a bydd llawr dawns wedi cael ei osod ar hwnnw.
KTA: Pabell draddodiadol yr helwyr ceirw Sámi o Laplandi. Dechrau'r wythnos gwelir Plwmbo'r Clown a Rosfa'r Consuriwr gyda gweithgareddau i bobl ifanc oedran uwchradd ar ddiwedd yr wythnos. Brecwast masnach deg yno yn y boreau.
MAES CHWARAEON: Yn ogystal â'r ddarpariaeth arferol o rygbi, pêl-droed, golff, pêl-fasged a Champau'r Ddraig bob dydd, mae wal ddringo Glan-llyn a thrampolîn Llangrannog ar y maes hefyd.
DOSBARTHIADAU MEISTRI: Cyfle i fuddugwyr pob Rhanbarth elwa o brofiad meistri yn eu maes, Gwyn Hughes Jones, Iwan Llywelyn Jones, Catrin Finch ac Arthur Davies.
|
|
|
|
|
|