大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Rhiannon Lewis Ceisio Camp Lawn
Rhagwelir y bydd mwy nag erioed o bobl yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
A hynny diolch i'r arbrawf o'i chynnal yn y Bae yng Nghaerdydd lle bydd iddi wedd cwbl wahanol i'r gorffennol.

A chafodd y gweithgarwch tuag at gynnal yr 诺yl ei gymharu i ymgyrch Mike Ruddock tuag at ennill y gamp lawn gan gadeirydd yr urdd, Rhiannon Lewis.

Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sul dywedodd fod pethau'n edrych yn ddu iawn ar yr Urdd yn 2001 gydag eisteddfod Caerdydd y flwyddyn honno wedi ei hepgor.

Sian Eirian, Tudur Dylan Jones, Efa Gruffudd Jones a Rhiannon LewisOnd er gwaethaf hynny llwyddwyd, meddai i gynnal g诺yl deledu lwyddiannus - honno oedd g锚m Mike Ruddock yn erbyn Lloegr a'r holl ofnau y byddai'n colli.

Wedyn daeth y gemau yn erbyn yr Eidal, Ffrainc a'r Alban - eisteddfodau Caerdydd, Margam a M么n a fu eto'n llwyddiannau ysgubol.

Ond y g锚m fawr yn erbyn Iwerddon i'r Urdd yw yr eisteddfod arbrofol hon yn y Bae.

"Mae wedi bod yn g锚m anodd ei threfnu ond mae'n mynd i fod yn g锚m lwyddiannus. Mae'n debyg mai geiriau Mike Ruddock fyddai, ei fod yn 'dawel hyderus' ac mae'r Urdd hefyd yn dawel hyderus - yn wir yr ydym yn gorlifo o hyder y bydd yr eisteddfod hon yn llwyddiant," meddai.

Cyfle gwych
Y syniad o arbrawf sy'n cael ei bwysleisio dro ar 么l tro gan drefnwyr yr eisteddfod.

Meddai Sian Eirian, cyfarwyddwr eisteddfodau a gwyliau yr Urdd:
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Eisteddfod wedi tyfu a datblygu'n barhaol, gan arbrofi ac arloesi mewn nifer o ffyrdd," meddai Sian Eirian.

"Bydd eleni'n gyfle gwych i roi cynnig ar fformat hollol wahanol. Mae ardal y Bae yn ddelfrydol, gyda Chanolfan y Mileniwm fel canolbwynt. Rydan ni'n gobeithio denu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen i brofi bwrlwm yr Urdd," meddai.

Am y tro cyntaf bydd cystadleuwyr yn perfformio ar lwyfan proffesiynol yn adeilad mwyaf newydd Cymru - Canolfan y Mileniwm,

Bydd maes
Ond dywedodd Sian Eirian na fydd eisteddfodwyr yn cael eu hamddifadu o'r profiad o 'faes'.

"Bydd myrdd o weithgareddau ar y maes fel arfer, a digon i gadw'r teulu cyfan yn hapus o fore gwyn tan nos," meddai.

Bydd gweithgareddau hefyd ar lwyfannau'r Lanfa a'r Angorfa yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm bob dydd.

"Mae llwyfan hefyd ger y Ganolfan Groeso ar Plass Roald Dahl, fydd eto yn rhan o'r maes, a bydd hwnnw'n fwrlwm o weithgaredd gydol y dydd hefyd," meddai.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, mai'r nod yr wythnos hon fydd dangos fod modd i bawb, nid plant yn unig, fwynhau diwylliant Cymraeg.

Gan gyfeirio at y cyngerdd agoriadol uchelgeisiol nos Sul dywedodd Tudur Dylan Jones ei bod yn anrhydedd i hufen y mudiad gael perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.

"Ond mae hi hefyd yn fraint i'r Ganolfan gael yr holl dalent yma ar ei llwydan," ychwanegodd.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy