大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Llywyddion y Dydd
Gwybodaeth am y llywyddion i gyd
Bydd dau o awduron mwyaf poblogaidd Cymru yn llywyddion y dydd ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod.

Llywyddion dydd Llun fydd T Llew Jones a Bethan Gwanas y naill wedi gwneud cyfraniad aruthrol i lenyddiaeth plant a'r llall ar anterth ei gyrfa.

Ar wah芒n i ddydd Mawrth a dydd Sadwrn bydd dau lywydd bob diwrnod arall hefyd - un fydd yna ddydd Mawrth ond tri ar y Sadwrn.

Yn y gorffennol dim ond un llywydd fu yna ar gyfer pob diwrnod.

Dyma'r manylion, fesul diwrnod:

Dydd Llun
T Llew Jones
Yn cael ei ddisgrifio fel "Brenin Straeon Cymraeg i Blant bu T Llew yn ysgrifennu ers yn blentyn ond yn 1958 y cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Trysor Plas y Wernen.

T Llew ac edmygwyrErs hynny cyhoeddodd 35 o lyfrau i blant, gan gynnwys Twm Si么n Cati , T芒n ar y Comin, Barti Ddu a Corn Pistol a Chwip.

Enillodd wwobr Tir na n-Og ddwywaith, am T芒n ar y Comin ac am Lleuad yn Olau.

Yn 1977 derbyniodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant - un o uchafbwyntiau ei yrfa, meddai.

Ar ei ben-blwydd yn 80 oed derbyniodd dros bedair mil o gardiau gan blant.

"Rwy'n sgrifennu nofelau a phenillion i blant am fy mod yn eu deall yn well," eglurodd unwaith.

Yn frodor o Geredigion fe'i ganed ym Mhentre Cwrt ger Llandysul ac mae bellach yn byw ym Mhontgarreg.

Nodwedd amlwg yn y rhan fwyaf o'i lyfrau yw eu bod wedi eu gosod yng Ngheredigion.

Cychwynnodd ei yrfa yn athro yn Ysgol Gynradd Tregroes cyn symud ymlaen i Ysgol Coedybryn ger Llandysul ble y daeth yn Brifathro.

Mae hefyd yn un o feistri'r canu caeth ac wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - 1958 a 1959.

Bu'n Lywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod ers ei sefydlu yn 1976 a chyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth a golygu rhai eraill.

Meddai am yr Eisteddfod eleni::
"...teimlo'n falch o gael rhan fach yn yr arbrawf. Fe garwn fod yno ac rwyf yn dymuno'n dda i'r Eisteddfod yn ei safle tra diddorol."

Bethan Gwanas
Wedi ei geni a'i magu ym Mrithdir ger Dolgellau Bethan yw un o'n hawduron cyfoes mwyaf poblogaidd yn awdur nofelau i blant ac oedolion, llyfrau taith a dram芒u teledu.

Mewn Ffrangeg y graddiodd ym Mhrifysgol Cymru.

Wedyn, bu'n athrawes Saesneg yn Nigeria cyn cael swydd gyda Radio Cymru.

Yna, bu'n dysgu Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored cyn ymuno 芒 Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn Dirprwy Bennaeth.

Gadawodd swydd hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd yn 2003 er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa ysgrifennu.

Mae wedi cyhoeddi sawl nofel gan gynnwys Amdani sydd wedi profi'n un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg a'i haddasu ar gyfer y teledu, Gwrach y Gwyll (2003), a'i nofel ddiweddaraf, Hi yw fy Ffrind y bwriada gyhoeddi dilyniant iddi.

. Cyfres i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yw llyfrau Blodwen Jones.

Enillodd wobr Tir na n-Og, ddwywaith.

Yn arbennig o hoff o deithio mae wedi ymweld 芒 Seland Newydd, Rwsia a'r UDA, ac mewn cyfres ar S4C yn 2004 fe'n tywysodd ni o amgylch y byd gan deithio llinell ledred 52.

Pan nad yw Bethan yn ysgrifennu bydd yn hoffi cerdded mynyddoedd, can诺io m么r, mynd i'r pictiwrs a'r theatr a darllen.

. Bu'n mynychu aelwyd yr Urdd yn Rhydymain a bu'n cystadlu'n gyson yn yr Eisteddfod gan ennill y goron Goron Eisteddfodyn 1989.

Dydd Mawrth
Daniel Evans
Ganed Daniel Evans yn y Rhondda. Mynychodd Ysgol Gynradd Ynyswen ac Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn cael ei dderbyn i Ysgol Ddrama'r Guildhall yn Llundain lle graddiodd gyda gradd BA mewn actio.

Daniel Evans yn actioErs gadael y Coleg mae wedi perfformio gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, y Theatr Genedlaethol yn Llundain a Theatr y Royal Court. Mae wedi perfformio mewn amryw o Sioeau Cerdd a dram芒u yn y West End yn ogystal.

Mae'n byw yn Llundain ar hyn o bryd ond mae wrth ei fodd yn cael dod yn 么l i Gymru i berfformio.

Mae ei berthynas 芒'r Urdd yn mynd yn 么l ymhell. Cychwynnodd gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn bump oed. Ymysg ei lwyddiannau yn yr Eisteddfod mae ennill Gwobr Richard Burton yn 1990 pan oedd yn 17 oed, y Gadair ac Ysgoloriaeth yr Urdd yn 1991, a Llwyd o'r Bryn yn 1992. Bu'n Llywydd y Mudiad yn 2000.

Daniel Evans fydd yn agor y Cyngerdd Agoriadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y nos Sul.

Meddai: "Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at gael perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru - mae'n wefreiddiol."

Mae'n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr Eisteddfod ei hun hefyd.
Meddai: "Rwy'n si诺r y bydd yr Eisteddfod hon yn Eisteddfod i'w chofio"

Dydd Mercher
Guto Harri
Hywel Gwynfryn

Guto Harri
Nid yw Bae Caerdydd, safle'r Eisteddfod yn ddieithr i Guto Harri o gwbl gan iddo gael ei eni a'i fagu yn ardal Caerdydd. Cafodd ei addysg yn Llanhari, yna dilynodd radd mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg yn Rhydychen cyn dychwelyd i Gaerdydd i astudio Newyddiaduriaeth.

Bu'n gweithio i'r 大象传媒 yng Nghaerdydd cyn symud i Lundain i ddilyn materion tramor i newyddion Radio Cymru. Guto HarriAc am hyn fe enillodd BAFTA am ei adroddiadau ar Ryfel y Gwlff. Wedi hynny treuliodd ychydig o amser fel gohebydd Seneddol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Guto newydd gael ei benodi yn Ohebydd Busnes Gogledd America y 大象传媒. Bydd yn symud i Efrog Newydd i fyw gyda'i wraig a'u hefeilliaid. Dywed ei fod yn edrych ymlaen yn arw at fyw ym "Mhrifddinas y Byd" ond maent ar hyn o bryd yn chwilio am 'Nanny' Gymraeg er mwyn gwneud yn si诺r na fydd y plant yn colli eu Cymraeg.

Cyn derbyn y swydd hon ef oedd prif Ohebydd Gwleidyddol y 大象传媒 a phrif Ohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Newyddion 24 a chyflwynydd Straightalk a One-to-One. Yn ystod ei yrfa mae wedi cyflwyno nifer o raglenni trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hefyd wedi cyflwyno sawl rhaglen trwy gyfrwng y Saesneg gan gynnwys The World at One, PM and The World This Weekend

Dyma'r ail waith i Guto Harri fod yn Llywydd y dydd. Roedd yn llywydd pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2002 hefyd, ond Eisteddfod tra gwahanol fydd yn ei wynebu eleni.

Mae Guto yn gyn aelod o'r Urdd ac mae wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae wedi dod yn drydydd am y fedal ddrama, wedi perfformio deialog ar y llwyfan ac wedi cipio gwobr Newyddiaduraeth Jennie Eirian.

Fel un sydd wedi ei fagu yng Nghaerdydd dywedodd fod "... cenedlaethau o blant dros y blynyddoedd wedi magu brwdfrydedd at y Gymraeg drwy gyfrwng y mudiad" yng Nghaerdydd. Roedd yn mynychu Aelwyd ac meddai "roeddwn wrth fy modd yn mynd i'r Aelwyd a chymryd rhan yn yr holl weithgareddau."

Hywel Gwynfryn
Er mai yng Nghaerdydd y mae Hywel Gwynfryn wedi ymgartrefu ers rhai blynyddoedd bellach, brodor o Sir F么n ydyw yn wreiddiol. Fe'i ganed a'i magwyd yn Llangefni a mynychodd Ysgol Gynradd Llangefni ac yna Ysgol Uwchradd Llangefni. Wedi hynny daeth i Gaerdydd i'r Coleg Cerdd a Drama ac yn syth oddi yno at y 大象传媒 i gychwyn ar ei yrfa hir a disglair yn y byd darlledu a hynny ar y teledu ac ar y radio.

Bellach ef yw un o brif ddarlledwyr Radio Cymru a theledu y 大象传媒. Y llynedd dathlodd Hywel Gwynfryn 40 mlynedd yn y maes darlledu, ac fe nodwyd yr achlysur wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant Y Dyn ei Hun. Uchafbwynt arall ei yrfa oedd cael yr anrhydedd o dderbyn gwobr yn yr 糯yl Ffilmiau Geltaidd am gyfraniad arbennig i deledu a radio yng Nghymru.

Yn 1964 y darlledodd ei raglen gyntaf sef y rhaglen gylchgrawn Heddiw. Yn 1968 cyflwynodd y rhaglen bop Gymraeg gyntaf Helo sut da chi ar y radio, a hynny pan oedd y s卯n roc Gymraeg yn newydd sbon. A hyd heddiw caiff ei ystyried yn un o arloeswyr rhaglenni pop ar y radio. Hywel Gwynfryn yn Eisteddfod MeifodBu hefyd yn cyflwyno rhaglenni plant megis Bilidowcar.

Y dyddiau yma fe'i clywir bob bore Llun i Gwener rhwng 10.30 a 12.30 y bore ar Radio Cymru yn cyd-gyflwyno'r rhaglen Hywel a Nia gyda Nia Roberts.

Fe'i gwelwyd yn teithio'r byd mewn tair cyfres o Ar dy Feic gan ymweld 芒 Chymry ym mhedwar ban byd.

Ar hyn o bryd mae Hywel yn gweithio ar y bedwaredd gyfres o Ar dy Feic ac mae newydd ddychwelyd o Japan lle bu'n cwrdd 芒 Gareth Jones, bachgen o Fangor sydd yn gweithio fel Rheolwr prosiect tr锚n fwled Taiwan, ac yn syth ar 么l yr Eisteddfod bydd yn cychwyn am Sweden, ac ar 么l hynny i India a De Affrica.

Meddai: "Rydw i'n lwcus iawn fy mod wedi gweld llefydd fel Rio de Janeiro, Beijing, Seland Newydd a Siapan."

Yn ogystal 芒 gweld y byd, un o uchafbwyntiau ei yrfa meddai yw cwrdd 芒 chymaint o bobl ddiddorol gan gynnwys Muhamed Ali a'r Pab.

Nid yn unig fel darlledydd y mae Hywel Gwynfryn yn adnabyddus. Mae wedi ysgrifennu 4 pantomeim; Jiw Jiw Jeifin Jenkins, Jac a'r Jireiniwm, Twm Si么n Cati a Robin Si么n ap Croeso.

Mae wedi gweithio'n agos iawn 芒 Caryl Parry Jones yn ystod y blynyddoedd; y mae wedi cyd ysgrifennu Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig' a Jac T欧 Isha, Sioe Gerdd gomisiwn ar gyfer yr Urdd, i enwi dim ond dwy.

Yn ddiweddar mae wedi gweithio ar Sioe Gerdd ar gyfer Radio Cymru, Popty gyda Caryl Parry Jones a Tudur Dylan.

Mae hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon ar gyfer Meic Stephens, Iris Williams ac yn fwy diweddar, i John ac Alun yn bennaf.

Hwn yw'r ail dro i Hywel Gwynfryn fod yn Llywydd y Dydd yn yr Urdd, bu'n llywydd gyntaf yn 1976 yn Eisteddfod Porthaethwy ac, wrth gwrs, mae'n sylwebu o'r Eisteddfod bob blwyddyn.

Ond Eisteddfod wahanol iawn sy'n ei wynebu eleni.
"Rwy'n gweld yr Urdd ar flaen y gad o safbwynt technoleg newydd, gyda chysylltiad llyfn rhwng cefn llwyfan a'r llwyfan. Dydi'r Urdd ddim yn dioddef o oedi-aitis!"

Ei neges i'r Eisteddfod eleni yw "Mewn dau air - daliwch ati. Daliwch mlaen i wneud beth ydach chi'n wneud- mae o'n llwyddiant ac mae'r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn."

Dydd Iau
Mererid Hopwood
Myrddin ap Dafydd

Mererid Hopwood
Enillodd Mererid Hopwood ei lle yn y llyfrau hanes fel y ferch gyntaf i gipio cadair yr Eisteddfod Genedlaethol - yn Ninbych, 2001.
Yn 2003 enillodd y Goron ym Maldwyn.

Coroni MereridEr wedi ei geni a'i magu yng Nghaerdydd yn Sir Benfro y mae ei gwreiddiau. MynychoddYsgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari gan raddio mewn Almaeneg a Sbaeneg yn Aberystwyth.

Cafodd ddoethuriaeth mewn Almaeneg o Goleg Prifysgol Llundain.

. Mae'n awr yn darlithio yn yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd y brifysgol yn Abertawe ac yn dysgu Almaeneg yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe.

Cyhoeddodd ddau lyfr; Singing in Chains (2004) sef cyflwyniad i'r Gynghanedd, a llyfr i blant Yr Ynys Hud (2005). Mae hefyd wedi golygu casgliad o farddoniaeth o Sir Benfro ar gyfer y gyfres Cerddi Fan Hyn.

Gyda'r Urdd bu'n cystadlu'n gyson mewn part茂on Cerdd Dant ac ar lefaru unigol. Roedd yn mynychu Aelwyd yr Urdd Caerdydd pan oedd hi'n ifanc, a bellach mae hi'n rhedeg Aelwyd yng Nghaerfyrddin, Aelwyd Myrddin.

Mae hi'n byw yn Llangynwr ger Caerfyrddin gyda Martin ei g诺r, a'u tri phlentyn, Hanna, Miriam a Llewelyn.

Myrddin ap Dafydd
Er mai yn Sir Y Fflint y ganed Myrddin ap Dafydd fe'i magwyd yn Llanrwst gan fynychu Ysgol Gynradd Stryd Watling ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae'n awr yn byw yn Llwyndyrus ger Pwllheli.

Yn gyhoeddwr, sefydlodd Wasg Carreg Gwalch yn 1980 sy'n cyhoeddi oddeutu 40 teitl Cymraeg a 20 teitl Saesneg bob blwyddyn.

Yn brifardd, enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghwm Rhymni, 1990, a Thyddewi, 2001.

Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth Cadw G诺yl (1991) Pen Draw'r Tir (1998) a Clawdd Cam (2003).

Cadeirio yn Nhyddewi Mae Myrddin ap Dafydd yn credu'n gryf y dylid poblogeiddio barddoniaeth ac mai rhywbeth i'w berfformio'n fyw ydyw.

Yn 2000 ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru a hynny'n deillio ar y gyfrol Jam Coch Mewn Pwdin Reis yn cynnwys cerddi ganddo ef ei hun yn ogystal 芒 nifer o gerddi gan blant y bu'n gweithio 芒 hwy.

Enillodd y gyfrol hon wobr Tir na n-Og, 2001.

Bydd ei lyfr diweddaraf yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun yn yr Eisteddfod, Cyfres Straeon Plant Cymru.

Ar ei gyfer mae wedi ail ysgrifennu chwedlau gwerin fel Ogof Arthur, Barti Ddu, Gelert a chwedlau Tylwyth Teg.

Bydd Myrddin yn eu darllen yng nghyntedd Canolfan Mileniwm.

Mae Myrddin ap Dafydd yn un sy'n cydnabod cyfraniad yr Urdd i hybu llenyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc, gan ddweud fod cystadlu ar lefel cenedlaethol megis ar lwyfan yr Urdd yn rhoi hyder i berson ifanc.

Yn 1974 ef enillodd gadair yr Urdd - yn y Rhyl.

Dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen yn arw at weld y Gymraeg yn sefydlu ei hun yn y Bae trwy fwrlwm yr Eisteddfod."

Dydd Gwener
Catrin Finch
Dafydd Iwan

Catrin Finch
Caiff Catrin Finch ei chydnabod bellach fel un o delynorion clasurol gorau'r byd.

Catrin Finch Fe'i ganed yn Llanon, Ceredigion a mynychodd ysgol Gynradd Llanon ac Ysgol Uwchradd Aberaeron cyn symud ymlaen i Lundain i astudio. Fe'i hysbrydolwyd i ddysgu canu'r delyn ar 么l clywed Marisa Robles yn perfformio.

Ers yn wyth oed bu'n cael gwersi gan Elinor Bennett - sy'n awr yn fam yng nghyfraith iddi!

Yn 16 aeth i Ysgol Purcell yn Llundain ac yna'r Academi Gerdd Frenhinol lle bu'n astudio gyda Skaila Kanga. Graddiodd yn 2002.

Bu'n brif delynores Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain am chwe blynedd a hi yw'r ieuengaf erioed i berfformio yng Nghyngerdd y Proms yn yr Albert Hall yn Llundain pan oedd yn ddeg oed.

Ac ar 么l iddi adael y gerddorfa fe'i hanrhydeddwyd 芒 Medel Arthur Bulgin am ei chyfraniad eithriadol.

Gwnaeth ei 诲茅产耻迟 yn 2000 yn y Wigmore Hall. Perfformiodd hefyd yn "Al Buston", G诺yl yn Lebanon, G诺yl Val d'Aulnay a Gargillesse yn Ffrainc.

Yn ystod ei gyrfa mae wedi perfformio led led y byd gan gynnwys taith o amgylch America a pherfformiadau yn Japan, Thailand, Latvia, Yr Almaen, Ffrainc, Rwsia a Sbaen.

Cymerodd ran yng Nghyngerdd agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru fis Tachwedd ac yng Nghyngerdd Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Neuadd Dewi Sant fis Mawrth 2004.

Ymhlith y gwobrau a enillodd mae; gwobr gyntaf yn adran ieuenctid G诺yl Delyn y Byd yn 1991, ail wobr yn adran hŷn g诺yl Delyn y Byd 1994 a hithau ond yn 14 oed; Gwobr Telyn Nancy Richards 1997 a daeth yn gyntaf yng Nghystadleuaeth Telynau Ryngwladol Lily Laskine yn Ffrainc, 1999.

Mae hi a'i g诺r, Hywel Wigley, yn byw yng Ngwaelod y Garth ger Caerdydd.

Cyhoeddodd dair CD: Catrin Finch Harp Recital, Carnaval de Venise, The Harpist a Crossing The Stone. Mae'n cydweithio'n agos cyfansoddwr Karl Jenkins.

Yn 2000 daeth yn delynores swyddogol y Tywysog Charles wedi iddo ei chlywed yn canu'r delyn yn ystod ei ddathliadau pen-blwydd yn 50.

Dywed ei bod yn awyddus iawn i hybu gwaith artistiaid eraill o Gymru.

Dafydd Iwan
Ganed Dafydd Iwan ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Brynaman, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman cyn i'r teulu symud i'r Bala pan oedd Dafydd yn 12 oed.

Dafydd IwanYno mynychodd Ysgol T欧 Tan Domen a bu'n mynychu Aelwyd Llanuwchllyn am flynyddoedd.

Bellach mae'n byw yng Nghaeathro ger Caernarfon.

Graddiodd mewn pensaern茂aeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd yn 1968 ac yn 1969 sefydlodd Gwmni Recordiau Sain gyda Huw Jones a Brian Morgan Edwards.

Yng Nglan-llyn y dechreuodd ganu a chyfansoddi - pan oedd yn swog yno.

Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1968 a 1971 ac yn flaenlaw yn ymgyrchoedd iaith y Chwech a'r Saith Degau

Mae'n awr yn llywydd Plaid Cymru, yn aelod o Gyngor Sir Gwynedd. Yn ogystal 芒 bod yn gyfarwyddwr Sain mae'n gyfarwyddwr cwmni Arianrhod, yn gadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd.

Bu'n cystadlu'n gyson yn Eisteddfod yr Urdd. "Yr uchafbwynt cynnar oedd dod yn drydydd am ganu cerdd dant dan ddeg yn Eisteddfod Genedlaethol Maesteg yn 1953".

Mae'n rhoi pwyslais ar fwynhau cystadlu.
"Mwynhau canu a pherfformio sy'n bwysig, nid curo rhywun arall. Mae pawb yn rhoi rhan ohono'i hun wrth ganu neu gyfansoddi neu ddawnsio neu dynnu llun. Y wobr yw'r boddhad o greu rhywbeth, nid y dystysgrif."

Dydd Sadwrn
Gareth Edwards
Huw Llywelyn Davies
Dwayne Peel

Gareth Edwards
"Mewnwr gorau'r byd, y chwaraewr gorau yn hanes y g锚m."
"Os yw rygbi yn gelfyddyd, dyma'r arlunydd mwyaf cain."

Gareth EdwardsMae'r farn am gamp Gareth Edwards, cyn fewnwr Cymru a Chaerdydd, yn unftyd.

. Yn ysgol Ramadeg Pontardawe y gwelodd ei athro Bill Samuels ddawn arbennig Gareth gan awgrymu y dylai Gareth geisio am le yn Ysgol Breswyl Millfield yn Lloegr.

Enillodd 53 o gapiau dros Gymru rhwng 1967 a 1978 gyda 13 o'r capiau hynny yn gapten.

Chwaraeodd ei g锚m gyntaf dros Gymru pan oedd yn 19 ac ef yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i ddod yn gapten Cymru.

Tra bu'n gapten, arweiniodd y garfan i ennill y gamp lawn dair gwaith a'r Goron Driphlyg bum gwaith. Sgoriodd 20 cais dros ei wlad.

Chwaraeodd i d卯m y Llewod ddeg gwaith gan gynnwys i'r t卯m cyntaf i guro'r Crysau Duon.

Yn 1973 hefyd, tra'n chwarae i'r Barbariaid yn erbyn Seland Newydd sgoriodd gais sy'n cael ei ystyried fel un o'r rhai yn hanes y g锚m.

Mae cerflun ohono yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd.

Huw Llywelyn Davies
Fel Gareth Edwards yng Ngwauncaegurwen y ganwyd Huw Llywelyn Davies a chafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac Ysgol Ramadeg Pontardawea gan raddio yn y Gymraeg yn y bhrifysgol yng Nghaerdydd.

Bu'n bennaeth adran y Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri cyn troi i fyd teledu gan ymuno 芒 HTV yn gyflwynydd Y Dydd . Ymunodd 芒'r 大象传媒 yn sylwebydd rygbi ac mae'n parhau i sylwebu. Bu hefyd yn chwarae i amryw o dimau.

Mae hefyd yn gyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol ac ef yw prif gyflwynydd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y teledu gan ddathlu 25 mlynedd o ddarlledu y llynedd.

HuwEf oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith pan ymwelodd Eisteddfod yr Urdd a Chaerdydd ddiwethaf a chanmolodd yr Eisteddfod am fod yn llwyfan cenedlaethol sy'n meithrin talent ac yn magu mawrion y dyfodol.

"Mae'n rhoi hyder i unigolyn sefyll o flaen yr holl gynulleidfa a pherfformio, mae'n rhoi sbardun i bobl ifanc, does ond angen edrych ar y rhai sydd yn dod i'r brig i weld yr hyder hwnnw, yn bendant mae'n sbardun i bobl ifanc," meddai.

Mae hefyd wedi darlledu o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fwy nag unwaith. Yn wir, fe dynnodd allan o daith T卯m Rygbi Cymru i Awstralia er mwyn darlledu o Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Nantlle yn 1989.

Dwayne Peel
Ganed Dwayne Peel yn 1981 a'i fagu yn y Tymbl lle mynychodd yr ysgol gynradd ac wedyn ysgol Uwchradd Maes yr Yrfa.

Dwayne PeelDechreuodd Bu'n chwarae rygbi ers yn wyth oed.

Chwaraeodd i Gymru dan 16 a than ac 19 cyn ennill ei le yn y garfan genedlaethol.

Ei g锚m gyntaf dros Gymru oedd yn erbyn Japan yn 2001. Sgoriodd ei gais cyntaf dros ei wlad yn erbyn yr Eidal yn 2003.

Roedd yn aelod blaenllaw o'r garfan a gipiodd y Gamp Lawn eleni.

. Ymunodd 芒 th卯m ieuenctid Llanelli, chwaraeodd i d卯m Parc y Strade am dri thymor cyn ymuno 芒'r Scarlets. Mae wedi chwarae i Scarlets Llanelli ers tri thymor bellach. Chwaraeodd ei g锚m gyntaf yn erbyn Glasgow yn Nhachwedd 2003 ac mae wedi chwarae cyfanswm o 70 g锚m.

Ni fydd yn bresennol yn yr Eisteddfod gan y bydd ar daith y Llewod yn Seland Newydd.

Bu'n aelod o'r Urdd am sawl blwyddyn a bu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y cystadlaethau dawnsio gwerin, llefaru ac yn y cystadlaethau chwaraeon.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy