大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Galw am 'arian dyladwy'
Brwydr ariannol 'uffernol'
Yr oedd Prys Edwards yn ddyn a oedd yn amlwg wedi cyrraedd pen ei dennyn oherwydd yr hyn a w锚l fel diffyg cefnogaeth ariannol gyhoeddus i'r Urdd.

Wrth annerch y wasg ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau dywedodd i waith y mudiad gael ei lesteirio oherwydd yr holl egni sy'n mynd i godi arian.

A rhybuddiodd fod y mudiad yn wynebu colled o 拢150,000 eleni.

Disgrifiodd gyfnodau ariannol "dyrys uffernol" yn hanes yr Urdd dros y blynyddoedd.

"Gwyrth yw ein bod yn parhau yn fyw," meddai.

Dan ei lach
Daeth cyrff fel Cyngor y Celfyddydau a'r Bwrdd Iaith dan ei lach wrth iddo alw am resymoli'r ffordd y mae Urdd yn cael ei ariannu.

"A ydyw'n ormod i ddisgwyl cefnogaeth uwch gan y Cynulliad ac awdurdodau cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau bod yr Urdd yn parhau i fod ar y brig?" gofynnodd yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel "datganiad personol".

Wrth edrych yn 么l dros ddeugain mlynedd yn un o arweinwyr yr Urdd gofidiai Prys Edwards, sy'n fab i Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, fod cymaint o egni yn cael ei wastraffu yn codi arian yn hytrach na chyflawni gweithgareddau a datblygu.

Galwodd am sefydlu trefn o ariannu'r mudiad sy'n gweithio'n otomatig heb i'r mudiad orfod brwydro'n barhaus am ei gyllid.

Dros y deugain mlynedd y bu ef yn gysylltiedig ag arweinyddiaeth yr Urdd "bu'n rhaid inni droi ein golygon dro ar 么l tro tuag at broblemau cyllidol yn hytrach na chynlluniau datblygu," meddai gan ychwanegu ei bod yn syndod i'r Urdd fedru cyflawni cymaint dan y fath amgylchiadau.

Methu parhau
Ond holodd: "Sut y medrwn barhau i ddatblygu gwasanaeth i ieuenctid ein gwlad tra'n pryderu ar yr un pryd am godi swm o 拢4m yn flynyddol. Trafodaeth ariannol - Prys Edwards ac Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr UrddOnid yw yn amser eleni i awdurdodau Cymru, busnesau Cymru, a'r cyhoedd gefnogi'r Urdd yn fwy nag erioed, gan wybod am ein proffesiynoldeb a'n gallu i gyflawni. Ni does mudiad ieuenctid tebyg yn Ewrop," meddai.

Gan ddweud mai dim ond un y cant o'r arian a gaiff y Cwmni Opera Cenedlaethol a ddaw i'r Urdd dywedodd:

"Ai dyna ydi gwerth yr Urdd i Gyngor y Celfyddydau?" meddai.

A disgrifiodd gefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o 拢600,000 "ar gyfer mudiad Cymraeg mwyaf Cymru" ac "i redeg yr 诺yl fwyaf yn Ewrop" fel dim ond "darn bach o petty cash Bwrdd yr Iaith."

Arian dyladwy
"Mae'n amser," meddai, "i'r Cynulliad roi yr arian dyladwy inni."

"Mae'n amser i ni yn yr Urdd gael ein hariannu yn iawn fel y gallwn ni ddatblygu a mwynhau bywyd yn hytrach na phoeni am broblemau ariannol," meddai.

"Dyna fy neges diwedd deugain mlynedd i yn arwain yr Urdd," meddai gan rybuddio fod y mudiad yn wynebu colled o 拢150,000 eleni.

"Mi fydd yn rhaid iddyn nhw wrando," meddai.

Ymateb Rhodri Morgan
Ar ymweliad a'r Eisteddfod dywedodd Rhodri Morgan na allai ymateb i sylwadau Prys Edwards oherwydd nad oedd wedi eu clywed na'u derbyn.

Ac er na allai addo mwy o arian i'r Urdd dywedodd na allai ddychymygu y byddai unrhyw newid yn statws cwangos fel y Bwrdd Iaith a Chyngor y Celfyddydau yn golygu unrhyw leihad yn yr arian sy'n cael ei roi i'r Urdd.

Ychwanegodd fod gan yr Urdd yr un hawl ac unrhyw gorff arall i wneud cais am ragor o gymorth .

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau fod y Cyngor, "yn annog yr Urdd i gadw cysylltiad a sefydliadau fel Cyngor y Celfyddydau ac asiantaethau elusennol eraill."




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy