|
|
|
Medal lenyddiaeth Fflachiadau gwirioneddol wreiddiol |
|
|
|
Daeth ei thad i enwogrwydd am ei ddarlun amharchus o ddychanol o Gaerdydd.
Ond sicrhaodd Catrin Dafydd fod y Gaerdydd y daeth hi i'w hadnabod yn un tra gwahanol i honno a dramgwyddodd rai o Gymry da y ddinas yn Nyddiadur Dyn Dwad ei thad, Dafydd Huws.
"Y gwahaniaeth mawr yw i mi gael fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd a thyfu i fyny yma - alla i ddim dychmygu ei brofiad o yn dod yma yn fachgen o Lanberis," meddai wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru'r Byd yn dilyn cael ei hurddo a Medal Lenyddiaeth eisteddfod ei dinas ei hun yn seremoni fawr gyntaf Urdd 05.
A hynny gyda cherddi yn canu clodydd y ddinas honno.
Dywedodd Catrin iddi gyfansoddi'r cerddi a ddisgrifiwyd gan un o feirniaid y gystadleuaeth, Angharad Price, fel "llais mwyaf aeddfed y gystadleuaeth" yn benodol ar gyfer cystadlu.
Wedi cystadlu nifer o weithiau o'r blaen a dod yn ail sawl tro dywedodd ei bod o arwyddoc芒d arbennig iddi gystadlu y tro hwn gydag eisteddfod mor wahanol yn cael ei chynnal yn y Brifddinas.
Ac ar sail yr hyn a welodd y diwrnod cyntaf cafodd yr arbrawf ei chymeradwyaeth lwyr.
Canmolodd ar y naill law fod pobl o weddill Cymru yn cael y cyfle i weld ac adnabod Caerdydd ac ar y llaw arall y cyfle i bobl y Brifddinas "weld y Gymraeg mewn ffordd nad ydynt wedi ei gweld o'r blaen."
Ac apeliodd ar y Cynulliad i sylweddoli "faint allwn ni ei wneud o Gaerdydd i helpu lleoedd eraill yng Nghymru."
Canmolodd y cyfle i bobl ifainc o weddill Cymru elwa ar brofiadau yn y ddinas er lles eu cymunedau eu hunain pan ydynt yn dychwelyd yno.
"Ac mae'n bwysig i'r Cynulliad sylweddoli fod Caerdydd yn lle i bethau Cymraeg," meddai gan ychwanegu ei bod yn ofni nad yw aelodau'r Cynulliad yn sylweddoli faint o ddiddordeb sydd gan bobl y ddinas, gan gynnwys y di-Gymraeg, mewn pethau Cymraeg .
Dywedodd mai cyfleu ei theimladau personol hi tuag at Gaerdydd y mae ei cherddi ac mai un sbardun oedd cwyn gan olygydd Cerddi Caerdydd y llynedd fod prinder cerddi am y ddinas.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig sgrifennu am bethau fel Tesco ac M & S yn y Gymraeg. Does dim pwynt sgrifennu am ddim ond mynyddoedd!" meddai.
Canmolodd fywyd bywiog a chosmopolitaidd y ddinas.
Pan ofynnwyd iddi am olwg tra gwahanol ac amharchus ei thad, Dafydd Huws, o'r ddinas a rhai o'i phobl yn ei Ddyddiadur Dyn Dwad dywedodd mai'r gwahaniaeth rhwng ei brofiad ef a'i phrofiad hi oedd iddi hi dyfu i fyny yno.
"Allaf i ddim dychmygu sut beth oedd hi iddo ef dod yma o Lanberis a fyddaf i byth yn gallu profi'r peth fel ef," meddai.
"Wn i ddim am ddylanwad," meddai, "Ond rwy'n lecio ffordd dad o sgrifennu ac rwy'n si诺r i hynny roi hyder imi."
Yn traddodi'r feirniadaeth dywedodd Angharad Price fod safon y tri ar ddeg a gystadlodd yn uchel heb yr un ymgais wael.
Gosododd hi a'i chyd feirniad , Mari George, bum ymgais yn y dosbarth cyntaf.
Rhannwyd y drydedd wobr rhwng tri o'r rheini.
Ychwanegodd fod yr ymgais a ddyfarnwyd yn ail yn llwyr haeddu'r fedal hefyd ond bod deg cerdd gan 'Crwydryn' yn rhagori.
"Gwnaeth argraff ar y darlleniad cyntaf," meddai gan ychwanegu i'r argraff honno gael ei chryfhau gyda phob darlleniad.
Yr hyn a ddylanwadodd ar y beirniaid oedd "llais unigryw" Catrin Dafydd a'i gallu i greu delweddau ffres a chofiadwy a'u cyfosod yn drawiadol wedyn.
" Dyma lais mwyaf aeddfed y gystadleuaeth ac y mae yma fflachiadau gwirioneddol wreiddiol," meddai.
|
|
|
|
|
|