|
|
|
Dangos Cadair Arfau Bydd cadair wedi ei gwneud o reiffls yn cyrraedd Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher. |
|
|
|
Bydd yn cael ei dangos am y diwrnod ym mhabell Cymorth Cristnogol.
Yn eiddo i'r Amgueddfa Brydeinig mae'r gadair - a wnaed yn llwyr o arfau rhyfel - ar daith o amgylch gwledydd Prydain er mwyn hyrwyddo achos heddwch.
"Cafodd yr Orsedd Arfau - Throne of Weapons - ei gwneud yn 2001 o arfau a gasglwyd ers diwedd y rhyfel cartref ym Mosambique yn 1992," eglurodd Branwen Niclas, Swyddog Ieuenctid gyda Chymorth Cristnogol yng Nghymru.
Y mae'n symbol o ymgyrch trawsnewid arfau yn offer defnyddiol a gychwynnwyd gan yr Esgob Dinis Senguale o Gyngor Cristnogol Mozambique ar y cyd a Chymorth Cristnogol yn 1995.
"Yr hyn a wnaeth Senguale oedd gwahodd pobl i ddod a'u harfau iddo ef i'w ffeirio am bethau eraill.
"Er enghraifft, byddai'n rhoi hadau am fwledi neu beiriant gwnio am wn," meddai.
Casglwyd gwerth £600,000 o arfau dan y cynllun hwn .
Er mwyn hyrwyddo'r cynllun, sy'n cael ei alw yn Transformaça de Armas en Enxadas y gwnaed yr Orsedd Arfau allan o reiffls Portiwgaeg a darnau o Ak47s Rwsiaidd.
Y mae gorsedd o'r fath o arwyddocâd arbennig yn Affrica gan fod cadeiriau addurnedig o'r fath yn arwydd o awdurdod a phwysigrwydd.
Bydd arwyddocâd ychwanegol iddi yng nghyd-destun Eisteddfod yr wythnos hon, wrth gwrs.
Mae'r gadair yn cael ei harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd tan Fehefin 5.
"Y mae'r gadair a gweithiau celf eraill sydd wedi eu gwneud o arfau yn ffordd o dynnu sylw pobl ifainc a'u cael i sylweddoli beth yw arwyddocâd gynnau ac arfau," meddai Branwen Niclas.
Ac er mwyn lledaenu'r neges bydd Cymorth Cristnogol yn rhannu cardiau post gyda llun y gadair arnyn nhw i blant eu hanfon adref i'w teuluoedd a'u ffrindiau.
"Bydd y cardiau sydd am ddim ac wedi'u stampio yn ffordd o ledaenu'r neges o droi arfau yn weithiau celf ac yn bethau buddiol i ddatblygu bywyd," meddai Branwen Niclas sydd yn defnyddio cerflun bychan o ddawnsiwr wedi ei wneud o arfau pan yn cynnal gweithdai gyda phlant.
Gyda Chymorth Cristnogol hefyd comisiynodd yr Amgueddfa Brydeinig "Goeden Bywyd" o arfau sydd i'w gweld yng Nghwrt Mawr yr amgueddfa.
|
|
|
|
|
|